Mae’r Athro Simon Noble, Cyfarwyddwr Is-adran Meddygaeth y Boblogaeth, ac arbenigwr enwog ym maes ymchwil thrombosis sy’n gysylltiedig â chanser, yn rhannu astudiaeth achos gymhellol sy’n enghraifft o rôl ganolog Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd (PPI) wrth lunio a gwella canlyniadau ymchwil.
Ymgysylltu â chleifion wrth lunio cwestiynau ymchwil
Nod astudiaeth gychwynnol ‘HIDDEN’ oedd ymchwilio i amlder thrombosis gwythiennau dwfn mewn cleifion a dderbynnir i hosbisau, gan fynd i’r afael â bwlch critigol mewn asesu risg a mesurau ataliol ar gyfer y boblogaeth fregus hon.
Ar y cychwyn roedd yr astudiaeth yn cynnwys cydweithio â Phartner Ymchwil PPI Canolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC), Kathy Seddon, arbenigwraig sy’n gysylltiedig â lleisiau Marie Curie, a chwaraeodd ran allweddol wrth werthuso a siapio’r ymchwil yn unol â safonau PPI cenedlaethol. Yn wahanol i ddulliau traddodiadol lle mae cleifion yn cael eu hychwanegu at grantiau fel ôl-ystyriaeth, roedd yr astudiaeth hon yn blaenoriaethu cynnwys cleifion o’r cychwyn cyntaf. Parhaodd Kathy Seddon fel cyd-ymgeisydd gwirioneddol drwy gydol y prosiect, gan herio cynhwysiant symbolaidd cleifion mewn ymchwil.
Ailgyfeirio safbwyntiau a gwella recriwtio:
Yn ystod yr astudiaeth ddilynol, HIDDEN 2, digwyddodd trobwynt critigol pan nodwyd materion yn ymwneud â recriwtio cleifion ar gyfer sganiau. Bu’r tîm ymchwil yn wynebu heriau ar un safle lle na chysylltwyd â chleifion cymwys oherwydd pryderon am beri gofid iddynt. Ceisiwyd mewnbwn gan ein partneriaid PPI, a heriodd y canfyddiad hwn, gan dynnu sylw at bwysigrwydd caniatáu ymreolaeth i gleifion benderfynu ar eu cyfranogiad. Disgrifiodd y tîm ymchwil y persbectif PPI fel rhywbeth dwys, oedd yn rhoi mewnwelediad na fyddent erioed wedi’i gael fel arall. Yn ystod y mis dilynol, gwelwyd y recriwtio’n treblu, gan ddangos effaith drawsnewidiol ymgysylltu gwirioneddol â chleifion.
Cymhwyso gwersi i astudiaeth Horizon 2020:
Gan adeiladu ar lwyddiant astudiaeth HIDDEN, sicrhaodd ein tîm grant Ymchwil ac Arloesi Horizon Ewrop €6m ar gyfer astudiaeth SERENITY, sy’n cynnwys 8 gwlad a 14 sefydliad ar draws Ewrop. Mae astudiaeth SERENITY yn canolbwyntio ar ddefnyddio Therapi Gwrth-thrombotig (ATT) mewn gofal diwedd oes ac mae’n gobeithio helpu i newid y prosesau gwneud penderfyniadau sy’n gysylltiedig â rhoi meddyginiaeth. Mae’r astudiaeth hon yn defnyddio dulliau ymchwil amrywiol i werthuso’r defnydd o ATT mewn cleifion a bydd yn datblygu offeryn gwneud penderfyniadau a rennir sy’n hawdd ei gyrchu ar y we er mwyn gwneud y defnydd gorau posibl ohono ar ddiwedd oes. Y gobaith yw y bydd hyn wedyn yn arwain at well grymuso, gwell ansawdd bywyd a boddhad ynghylch eu triniaeth ymhlith pobl â chanser datblygedig a’u rhoddwyr gofal.
Mae Cymrawd Ymchwil a ariennir gan WCRC, Dr Michelle Edwards, wedi ymgymryd â rôl cydlynydd cyffredinol pecynnau gwaith, gan sicrhau bod PPI parhaus yn gorgyffwrdd yn barhaus ar draws chwe phecyn gwaith yr astudiaeth. Dr Kathy Seddon sy’n arwain ar fewnbwn PPI i’r astudiaeth.
Gan gydnabod y lefelau amrywiol o ddealltwriaeth o PPI ymhlith sefydliadau Ewropeaidd, mae’r tîm wedi buddsoddi mewn adnoddau mewnol i gydlynu ymdrechion PPI. Mae hyn wedi cynnwys defnyddio Pecyn Cymorth Effaith Cynnwys (PIRIT) y Cyhoedd mewn Ymchwil. Datblygwyd PIRIT gan grŵp o Bartneriaid Ymchwil oedd yn cynnwys Kathy Seddon ac fe’i lansiwyd o ganlyniad i gydweithrediad rhwng Canolfan Ymchwil Marie Curie (MCRC) a WCRC. Nod y Pecyn cymorth di-dâl yw helpu ymchwilwyr sy’n gweithio gyda’r cyhoedd i gynllunio ymwneud ystyrlon ag ymchwil, ochr yn ochr â helpu i olrhain a dangos y gwahaniaeth mae hynny’n ei wneud.
Mynd i’r afael â heriau cyllido ar gyfer cyfranogiad PPI cynnar
Mae’r astudiaeth achos hon yn tynnu sylw at her hanfodol mewn strwythurau cyllido ymchwil cyfredol – y diffyg arian ar gyfer PPI ar y cam cychwynnol. Rwy’n dadlau bod angen newid paradeim, ac rwyf o blaid cyllido cynnar i gychwyn gweithgareddau PPI, gan gydnabod yr amser, yr ymdrech a’r arbenigedd a gyfrannwyd gan gynrychiolwyr cleifion. Yn ddiweddar, mae Is-adran Meddygaeth y Boblogaeth ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cymryd camau rhagweithiol i fynd i’r afael â hyn drwy ddyrannu cronfeydd is-adrannol i dalu costau cychwynnol cyfranogiad PPI.
Diweddglo
Mae’r astudiaeth achos hon yn tanlinellu effaith drawsnewidiol PPI dilys mewn ymchwil thrombosis sy’n gysylltiedig â chanser. O lunio cwestiynau ymchwil i ail-lunio strategaethau recriwtio a sicrhau grant Horizon, mae’r astudiaeth hon yn enghraifft gymhellol o sut gall ymgysylltu’n ystyrlon â chleifion wella ansawdd ac effaith ymchwil feddygol. Fodd bynnag, mae’n galw am ail-werthuso strwythurau cyllido i sicrhau bod PPI yn cael ei integreiddio i gamau cynharaf datblygu astudiaeth, gan adlewyrchu ymrwymiad i arferion ymchwil moesegol a chynhwysol.