Mynd i'r cynnwys

Ymgysylltiad y Ganolfan Ymchwil Canser Cymru (CYCC)

Mae gwaith ymgysylltu yn elfen hollbwysig o’n gwaith. Drwy gydol y flwyddyn rydyn ni’n cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau i hyrwyddo’r ymchwil rydyn ni’n ei gefnogi i helpu ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr canser.

Cynhadledd Ymchwil Canser Cymru

Mae cynhadledd flynyddol y Ganolfan Ymchwil Canser Cymru yn dod ag ymchwilwyr a rhanddeiliaid ynghyd o bob rhan o’r DU. Nod y digwyddiad, sydd wedi’i gynnal gan Ganolfan Ymchwil Canser Cymru (CYCC), yw dathlu llwyddiannau diweddar ym maes ymchwil canser, rhannu cynlluniau ar gyfer y dyfodol a darparu llwyfan ar gyfer rhwydweithio a chydweithio.

Cafodd digwyddiad eleni ei gynnal ar Mawrth 4 2024 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. I gael rhagor o wybodaeth am ein digwyddiad mwyaf diweddar, darllenwch ein stori newyddion.

Cynhadledd flynyddol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Roedd Canolfan Ymchwil Canser Cymru (CYCC) yn bresennol yng nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn Arena Abertawe yn Hydref 2023 ynghyd a dau o’n hymchwilwyr i siarad ag aelodau o’r cyhoedd a chanolfannau eraill ar hyd a lled y wlad ynglŷn â’r ymchwil rydyn ni’n ei gefnogi. Drwy gynnal gweithgareddau rhyngweithiol, buom yn ymgysylltu â dros 100 o bobl yn y digwyddiad hwn a chodi proffil Canolfan Ymchwil Canser Cymru. Cynhelir y digwyddiad nesaf ar 10 Hydref 2024.

Genomeg gyda’r Nos

Aeth dau o’n hymchwilwyr a thîm hwb y Ganolfan Ymchwil Canser Cymru i ddigwyddiad Genomeg gyda’r nos yn Techniquest Caerdydd, ym Mis Tachwedd 2023. Nod y digwyddiad yw codi ymwybyddiaeth am eneteg a genomeg a sut mae’n effeithio ar iechyd i aelodau o’r cyhoedd. Cynhaliodd y Ganolfan Ymchwil Canser stondin ryngweithiol gan gynnwys gweithgaredd ‘jumping genes’ ymhlith gweithgareddau eraill gan ddau o’n hymchwilwyr i helpu egluro’u gwaith ymchwil ar delomerau.

Wythnos Gyrfaoedd a Modelau Rôl, Grangetown

Ym mis Mawrth 2024, fe wnaethon ni gymryd rhan yn Wythnos Gyrfaoedd a Modelau Rôl Grangetown; sef digwyddiad wedi ei anelu at bobl o bob oed yn y gymuned leol. Roedd gan ein hymchwilwyr stondin o weithgareddau rhyngweithiol a oedd yn canolbwyntio ar hybu’r ymchwil rydyn ni’n ei gefnogi a hyrwyddo gyrfaoedd ym maes ymchwil canser. Cawson ni lawer o sgyrsiau diddorol gydag ymwelwyr am ein gwaith a dyma obeithio ein bod ni wedi annog rhai ohonynt i ystyried bod yn ymchwilwyr canser yn y dyfodol.

Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd – yn Fyw!

Digwyddiad blynyddol i fyfyrwyr Safon Uwch wedi’i gynnal gan Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd yw Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd – Yn Fyw! Ei nod yw rhoi syniadau i fyfyrwyr o’r wyddoniaeth sydd wrth wraidd meddygaeth. Mae’n dangos iddyn nhw yr ystod o opsiynau gyrfaol sydd ar gael ym maes gofal iechyd, yn ogystal â’r maes iechyd, biofeddygol a gwyddonol. Ym mis Mawrth 2024 cynhaliodd tîm hwb y Ganolfan Ymchwil Canser a’m hymchwilwyr stondin yn y digwyddiad hwn, ble roedd modd i ymwelwyr roi cynnig ar greu feirws. Siaradon ni â dros 400 o fyfyrwyr am yrfaoedd ym maes ymchwil canser yn ystod y dydd, a chodi ymwybyddiaeth o’r gwaith sy’n cael ei gynnal yn y Ganolfan Ymchwil.

Sgyrsiau ymchwil gyrfaoedd ym maes canser Prifysgol Abertawe

Ym mis Mawrth 2024 aeth Ymchwilwyr WCRC, Dr Mat Clement a Dr Claire Donnelly, i Brifysgol Abertawe i siarad â myfyrwyr meddygol 3edd flwyddyn am eu hymchwil a’u llwybrau gyrfa i helpu i annog y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr canser. Cafodd y digwyddiad dderbyniad da gan ymwelwyr gydag un Swyddog Ymchwil yn bresennol yn dweud bod y sgyrsiau: “wedi rhoi cyfle gwerthfawr i mi archwilio’r mentrau ymchwil parhaus sy’n digwydd yng Nghanolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC), gan fy ngalluogi i ehangu fy sylfaen wybodaeth a cysylltu â chyfoedion sy’n rhannu diddordebau tebyg.”

Profiad gwaith In2Stem

Ym mis Gorffennaf 2024 hwylusodd tri ymchwilydd o Ganolfan Ymchwil Canser Cymru leoliadau profiad gwaith blwyddyn 12 trwy In2Stem, rhaglen sy’n grymuso pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig trwy gynnig cipolwg ar yrfaoedd ac ymchwil STEM. Cymerodd y myfyrwyr ran mewn nifer o weithgareddau gan gynnwys sgiliau labordy ymarferol, taith o amgylch yr uned treialon clinigol a seminar delweddu radio.

Digwyddiadau i ddod

Eisteddfod: Yr Eisteddfod Genedlaethol yw gŵyl ddiwylliannol fwyaf Ewrop, a gynhelir mewn gwahanol rannau o Gymru bob blwyddyn. Bydd WCRC yn mynychu’r digwyddiad yn Rhondda Cynon Taf fel rhan o dîm Prifysgol Caerdydd am ddau ddiwrnod rhwng 7-8 Awst.

Ffair Iechyd Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig: Mae WCRC wedi’u harchebu i fynychu Ffair Iechyd MEC 2024. Nod y Ffair yw mynd i’r afael ag anghydraddoldeb iechyd a hybu lles trwy greu cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu cadarnhaol rhwng pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a darparwyr iechyd.