Mynd i'r cynnwys

Cynnwys cleifion a’r cyhoedd

Mae ein partneriaid ymchwil cleifion a’r cyhoedd wrth galon gweithgarwch yr WCRC, gan ddarparu mewnbwn strategol i’n gwaith.

Cynnwys y cyhoedd yn ein gwaith

Rydym yn cynnwys pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o ganser fel claf neu ofalwr wrth ddylunio a chyflwyno ein hastudiaethau ymchwil. Trwy rannu eu profiadau personol gyda ni, mae cyfranwyr cyhoeddus yn sicrhau bod ein gwaith yn berthnasol i anghenion a phryderon pobl.

Rydym hefyd yn cefnogi aelodau’r cyhoedd i ddylanwadu ar ein nodau a’n diddordebau ymchwil hirdymor. Maent yn rhannu eu safbwyntiau trwy gymryd rhan mewn grwpiau a phwyllgorau strategol, yn helpu i ddatblygu adnoddau, ac yn cynghori ymchwilwyr a’r tîm ehangach ar arfer gorau cynnwys y cyhoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ac annog cyfraniad y cyhoedd mewn ymchwil yn unol â Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd. Mae gennym Gynllun Gweithredu Cynnwys y Cyhoedd, ac rydym yn cydweithio â’n cyllidwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i rannu dysgu ac arfer gorau cynnwys y cyhoedd.

Cymryd rhan

Gall aelodau’r cyhoedd ddod o hyd i gyfleoedd a gwybodaeth ar sut i helpu gydag ymchwil ar wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Gellir dod o hyd i wybodaeth hefyd i ymchwilwyr sydd am gynnwys y cyhoedd mewn ymchwil, gan gynnwys manylion cyswllt eu tîm cynnwys ymroddedig a all gynnig cymorth uniongyrchol gyda hyrwyddo cyfleoedd cynnwys a mynediad at gyllid cynnwys cyn-grant.