Mynd i'r cynnwys

Pwy ydym ni

Ni yw Canolfan Ymchwil Canser Cymru (CYCC), sy’n rhan o Brifysgol Caerdydd ac wedi ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru Rydym yn gweithio ar y cyd i gefnogi ymchwil canser ledled Cymru.

Ein gweledigaeth

I Gymru gael cymuned ymchwil â chysylltiadau da, sy’n perfformio’n dda, ac sy’n cynnal ymchwil o’r radd flaenaf, gan effeithio ar gyfraddau canser a chanlyniadau cleifion ledled y byd.

Ein cenhadaeth

  • Datblygu rhagoriaeth ym meysydd cryfder ymchwil canser yng Nghymru
  • Denu buddsoddiad a fydd yn ehangu gweithgarwch ymchwil
  • Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd ymchwil i gleifion canser Cymru

Yr hyn a wnawn

  • Ymgysylltu â’r gymuned ymchwil canser ehangach gyda Strategaeth Ymchwil Canser Cymru (CReSt) a chydlynu darpariaeth
  • Cydlynu ac arwain strategaeth ymchwil canser cyntaf Cymru
  • Adnabod a meithrin arweinwyr ymchwil canser Cymru y dyfodol
  • Cefnogi ymchwil canser o ansawdd uchel
  • Cydweithio â phartneriaid ledled Cymru a’r DU
  • Sicrhau bod cleifion ar draws Cymru yn elwa o ymchwil

Darllenwch ein Hadroddiad Rhanddeiliaid Blynyddol i gael trosolwg o’n prif gyflawniadau dros y flwyddyn ddiwethaf.