Mynd i'r cynnwys

CReSt: Strategaeth Ymchwil Canser Cymru

Yn 2022, lansiwyd Strategaeth Genedlaethol Ymchwil Canser gyntaf Cymru (CReSt). Adeiladu ar y gorau o’r ymchwil sy’n cael ei wneud yn barod yw’r nod, er mwyn cynyddu dyfnder a màs critigol gweithgarwch ymchwil canser yng Nghymru.

Lawrlwythwch y strategaeth yma:

Moving Forward: A Cancer Research Strategy for Wales

Symud ymlaen: Strategaeth Ymchwil Canser Cymru

Mynd â CReSt ymlaen gyda’n gilydd

Bydd Canolfan Ymchwil Canser Cymru yn cydlynu gweithrediad CReSt trwy ddod â phobl ynghyd o bob rhan o’r gymuned ymchwil canser.

Edrychwn ymlaen at ddatblygu llawer o gysylltiadau newydd a gweithio gyda phartneriaid presennol wrth i’r gwaith o gyflawni CReSt ddechrau yn 2022.

I gael gwybod sut y gallwch chi neu’ch sefydliad gymryd rhan yn y broses o weithredu’r strategaeth, cysylltwch â wcrc@caerdydd.ac.uk

Oncoleg mecanistig a manwl

Edrych ar sut y gall geneteg effeithio ar bwy sy’n cael canser, sut mae’r canser hwnnw’n ymddwyn, a chanfod ffyrdd o drin canserau â ‘llofnodion’ genetig penodol.

Imiwno-oncoleg

Deall sut mae ymatebion imiwn ein cyrff yn newid pan fydd canser yn datblygu, a dod o hyd i ffyrdd o ddefnyddio’r system imiwnedd i helpu i frwydro yn erbyn canser.

Radiotherapi

Archwilio sut y gall radiotherapi ladd celloedd canser tra’n cyfyngu ar yr effaith ar weddill y corff.

Treialon clinigol canser

Dod â thriniaethau newydd addawol i gleifion mewn treialon a phrofi ffyrdd newydd o roi triniaethau presennol.

Oncoleg gefnogol a lliniarol

Dod o hyd i’r ffyrdd gorau o ofalu am gleifion â chanser, fel rheoli poen, rheoli sgîl-effeithiau a chymorth iechyd meddwl.

Ymchwil atal, canfod cynnar, gofal sylfaenol a gwasanaethau iechyd

Dod o hyd i ffyrdd newydd o atal canser a’i ganfod yn gynnar, a gwneud yn siŵr bod gwasanaethau iechyd yng Nghymru yn cael eu hategu gan wyddoniaeth gref.

Y diweddaraf ar CReSt