Croeso i Ganolfan Ymchwil Canser Cymru
Mae ymchwil canser yn hanfodol er mwyn canfod y triniaethau gorau ar gyfer pobl â chanser, dod o hyd i ffyrdd i ddiagnosio canser yn gynt, a helpu i’w atal rhag datblygu yn y lle cyntaf.
Yng Nghanolfan Ymchwil Canser Cymru, rydym yn gweithio gyda chleifion canser a phartneriaid eraill i ddatblygu a chyflawni rhagoriaeth ymchwil ledled Cymru. Rydym wedi ein lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn cael ein hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Y diweddaraf
Annog Ymchwilwyr Canser i Gynnwys Cleifion a’r Cyhoedd (PPI) gan ddefnyddio’r Grŵp Ymateb Cyflym i wella llwyddiant wrth sicrhau cyllid
Wrth i ymchwilwyr ym maes canser ledled Cymru baratoi i gyflwyno cynigion am gyllid, mae Grŵp Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd…
Creu dyfodol ymchwil ym maes radiotherapi yng Nghymru
Dr James Powell, ymgynghorydd ym maes niwro-oncoleg yng Nghanolfan Ganser Felindre, yw arweinydd thema CReSt ar gyfer radiotherapi. Mae’n rhannu…
Therapïau wedi’u personoli ar gyfer canlyniadau gwell i gleifion
Yn ôl yr Athro Duncan Baird a Dr Magda Meissner o Brifysgol Caerdydd, arweinwyr thema ar gyfer oncoleg fecanistig a…
Mynd ag ymchwil imiwnotherapi o’r labordy i’r clinig yng Nghymru
Mae imiwno-oncoleg yn un o feysydd mwyaf cyffrous ymchwil canser modern. Mae arweinydd thema CReSt, yr Athro Awen Gallimore, yn…