Mynd i'r cynnwys

Rhwydwaith Biowybodeg Canser Cymru

Mae Rhwydwaith Biowybodeg Canser Cymru’n fforwm i ymchwilwyr canser a biowybodegwyr rannu eu profiad o weithio gyda data ar ganser, dysgu gan ymchwilwyr canser a biowybodegwyr eraill ac ymgysylltu â siaradwyr gwadd.

Dan arweiniad Alex Gibbs, biowybodegydd craidd Canolfan Ymchwil Canser Cymru, mae’r rhwydwaith ar gyfer unrhyw un sy’n dadansoddi data ar ganser yn ystod ei ymchwil, gan gynnwys myfyrwyr PhD. Hoffai Alex greu rhwydwaith Cymreig o fiowybodegwyr canser i rannu arbenigedd a chynrychioli Cymru mewn rhwydweithiau canser rhyngwladol.

Drwy ymuno, cewch wybod am ddyddiadau cyfarfodydd a chyfleoedd perthnasol eraill. Gallwch ymuno’n rhad ac am ddim, a gallwch optio allan unrhyw bryd drwy ebostio Canolfan Ymchwil Canser Cymru.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 20 Mehefin 2024, i ymuno â’r cyfarfod hwn, cofrestrwch ar y rhwydwaith isod.