Mynd i'r cynnwys

Penodi Biowybodegydd craidd CReSt i gefnogi ac uwchsgilio ymchwilwyr canser yng Nghymru

Penodwyd Alex Gibbs yn fiowybodegydd craidd Strategaeth Ymchwil Canser (CReSt) Canolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC). Arbenigwr ym maes ymchwil canser yw Alex sy’n canolbwyntio ar ganser y croen ac mae ganddo brofiad amhrisiadwy ym maes dilyniannu RNA a dadansoddi biowybodeg dilyniannu RNA un gell.

Yn y swydd newydd hon, nod Alex yw cefnogi ymchwilwyr canser ledled Cymru o ran eu hanghenion biowybodeg. Y prif amcan yw gwella sgiliau ymchwilwyr a rhoi iddyn nhw’r offer angenrheidiol i ddadansoddi data yn effeithiol. Bydd y cymorth hwn yn cael ei roi mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys cyfeirio ymchwilwyr at adnoddau dysgu perthnasol ac addysgu ymarferol a thiwtorialau.

Daeth cyllid y swydd graidd hon i law drwy gais Cronfa Gatalytig CReSt 2023-2025 y Ganolfan, gan adlewyrchu ymrwymiad y Ganolfan i hyrwyddo ymchwil canser a meithrin gwaith ar y cyd yn y gymuned ymchwil yng Nghymru.

Dyma a ddywedodd Alex: “Mae yna lu o ddata canser sydd ar gael i’r cyhoedd ac sy’n aros i gael ei ddefnyddio gan ymchwilwyr canser eraill. Yn sgil y data hwn, mae’n bosibl y bydd ymchwilwyr yn gallu ateb eu cwestiynau ymchwil heb orfod gwneud y dilyniannu eu hunain. Efallai y bydd pobl nad oes ganddyn nhw’r profiad angenrheidiol i ddadansoddi’r data cyhoeddus hwn yn cael eu digalonni gan y bydd weithiau’n dasg frawychus. Fodd bynnag, rwy yma i helpu yn hyn o beth!”

Wrth edrych ymlaen, mae Alex yn rhagweld dyfodol pan fydd ymchwilwyr canser yng Nghymru yn gallu cynnal eu dadansoddiadau biowybodeg, gan gynnwys biowybodeg yn ddi-dor yn rhan o’u hymchwil. Mae’n gobeithio y bydd y cymorth y mae’n ei roi yn annog ymchwilwyr i gynnwys biowybodeg yn rhan o geisiadau grant y dyfodol, gan baratoi’r ffordd yn y pen draw ar gyfer rhagor o gyllid a sefydlu Uned Biowybodeg Canser Cymru benodol.  Ar y cyd â’r gweithgareddau hyn, hoffai Alex ddatblygu rhwydwaith o fiowybodegwyr canser yng Nghymru fydd yn rhannu arbenigedd ac yn cynrychioli Cymru mewn rhwydweithiau canser rhyngwladol.

Er mwyn gallu cyrchu adnoddau ac arweiniad gwerthfawr, mae Alex wedi dechrau datblygu tudalennau gwe llawn gwybodaeth i helpu ymchwilwyr. Mae’r tudalennau’n cynnwys tudalen hafan sy’n manylu ar y cymorth sydd ar gael a thudalennau cysylltiedig, tudalen Adnoddau Ymchwil Canser lle ceir adnoddau defnyddiol a thudalen “Beth i’w wneud â rhestr genynnau” sy’n cynnig offer a thiwtorialau i gynnal dadansoddiadau hanfodol. Mae hefyd wedi creu tri fideo tiwtorial cyflym ar rai o’r offer mwyaf poblogaidd: Gorilla & REVigoEnrichr a gProfiler.  Mae Alex eisiau datblygu’r adnodd hwn yn rhan o’i swydd a chynnig cyrsiau byr ar themâu poblogaidd i ymchwilwyr ym maes canser.Mae Alex yn awyddus i gynorthwyo ymchwilwyr canser ledled Cymru, gan gynnig canllawiau ar ddadansoddi data, dilyniannu’r gwaith o brosesu data, a hyfforddiant. Mae croeso i ymchwilwyr sy’n ceisio cymorth neu arweiniad gysylltu ag Alex drwy ebost