Wel dyma ni ar ganol wythnos braf, brin o haf a arhosodd tan yr hydref cyn ymddangos… ni welwyd ei thebyg yn ystod y gwyliau ysgol diweddar. Canlyniad y gyfres hon o ddyddiau braf – i rai, fydd ambell i gipolwg prudd ar y byd y tu allan o du mewn i’r ystafell ddosbarth. I eraill, fel fi, mae’n golygu estyn am y brwsh mawr ‘bwrw iddi’ a phaent ar gyfer y ffens. Yna’r diwrnod canlynol estyn am yr ysgol er mwyn tocio border uchel. Cyfnod prysur, yn gwneud y mwyaf o’r cyfle i gwblhau’r holl dasgau angenrheidiol sydd wedi gorfod aros. Yn sicr mae’n haws manteisio ar y cyfleoedd meteorolegol prin hyn pan fyddwch wedi ymddeol. Ond mae’n siŵr y bydd y glaw mân arferol yn ei ôl yn fuan.
Bydd tywydd mwy arferol ardal Castell-nedd rhoi amser i mi fynd ar drywydd un o’m hoffterau parhaus, na nid paentio ffensys mwsoglyd, ond bod yn bartner ymchwil cyhoeddus yng Nghanolfan Ymchwil Canser Cymru. Dwi’n un o saith aelod o’r cyhoedd sydd wedi derbyn y dynodiad ac wedi bod yn y rôl ers 2017. Fel grŵp rydyn ni’n cynorthwyo ym mhob rhan o faes ymchwil canser gan roi persbectif cyhoeddus ar flaenoriaethau ymchwil ac ymarferoldeb o ran y croestoriad gyda thriniaethau. Mae’n ‘lleyg’ iawn ond dyna sydd ei angen. Efallai nad wyf i’n deall yn union (neu o gwbl) beth sy’n digwydd ar ben arall y microsgop ond dwi’n gwybod am y canlyniadau i aelodau’r cyhoedd fel fi.
Yr hyn sy’n denu’r rhan fwyaf o bobl at y gweithgaredd cynnwys y cyhoedd hwn yw profiad personol o ganser. Yn fy achos i fe gollais ddau riant i’r afiechyd, un yn gymharol ifanc. Mae cyfranogiad y cyhoedd yn garfan eang iawn, ac mae’n cydfodoli â chyfranogiad cleifion hefyd. Mae’r cwmpas ar gyfer cyfrannu a chynnig sylwadau ar feysydd afiechyd a thriniaeth (y tu hwnt i’r microsgop) yn enfawr. Mae hefyd yn golygu mynd o drafod iechyd i gynnwys gofal cymdeithasol. Hefyd, peidiwch â phoeni, dyw popeth ddim yn gymhleth; mae eich barn a’ch sylwadau yn cael eu ceisio ac yn angenrheidiol.
Felly beth ydw i’n ei wneud, ble ydw i’n cael y cyfle i ddweud fy nweud? Wel mae gen i ddiddordeb mewn datblygiadau posibl mewn triniaethau, yn enwedig ond nid yn gyfan gwbl mewn meysydd afiechyd sydd wedi effeithio ar fy nheulu. Dyna pam dwi’n ymwneud â QuicDNA, astudiaeth canser yr ysgyfaint sy’n cael ei chynnal gan Dr Magda Meissner, Oncolegydd Meddygol Ymgynghorol. Bydd y maes astudio hwn yn ‘perthyn i’r dyfodol’ ac mae wedi bod ar flaen y gad o ran cysyniad a stori cleifion.
Ac wrth sôn am fod yn ei chanol hi, dwi wedi bod wrthi ers tro yn rheoli treialon yn yr astudiaethau CONSCOP (Canser y Coluddyn), sy’n cael eu rhedeg gan yr Athro Sunil Dolwani, Athro Gastroenteroleg – Sgrinio, Atal a Chanfod Canser yn Gynnar yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd. Ychydig a feddyliwn y byddwn i’n eistedd wrth y bwrdd yn cyfrannu’n llawn at drafodaethau ar ymchwil gyda chynifer o dalentau ymchwil o fri. Wel dyma fi, yn ei wneud.
Dwi wedi bod gydag astudiaethau Conscop ers nifer o flynyddoedd. Dwi wedi cynnig sylwadau ar Conscop 1 a bellach Conscop 2. Mae astudiaeth CONSCOP2 yn ymchwilio i weld a yw chwistrellu lliw glas i’r coluddyn mawr uchaf yn ystod colonosgopi yn gwella’r broses o ganfod polypau gwastad gyda chamera, sy’n gallu bod yn anodd eu gweld ac a all dyfu’n ganser yn gyflymach na pholypau nodweddiadol. Mae’r astudiaeth yn rhan o Raglen Sgrinio Canser y Coluddyn y DU, sydd wedi gweld lleihad o 15% mewn marwolaethau o ganser y coluddyn. Er mwyn pennu a yw chwistrellu lliw yn gwella’r broses ganfod, neilltuwyd 2750 o gyfranogwyr o 18 canolfan yng Nghymru a Lloegr ar hap i dderbyn naill ai colonosgopi safonol neu un sy’n defnyddio lliw. Caiff y cyfranogwyr eu dilyn am dair blynedd trwy ddata GIG a gesglir yn rheolaidd.
Daeth y broses o recriwtio i’r astudiaeth i ben ym mis Chwefror 2024. Mae’r tîm astudio canolog bellach yn cysylltu â’r timau lleol i ofyn am sleidiau patholeg o’r holl bolypau a ganfyddir yn y colon procsimol. Caiff y sleidiau eu hanfon i Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro lle cânt eu sganio a’u dychwelyd i’r adrannau patholeg lleol. Caiff cyfarfodydd consensws eu trefnu lle caiff y sleidiau eu hadolygu gan banel arbenigol gydag o leiaf dri phatholegydd arbenigol annibynnol o fewn GIG y DU. Mae glanhau data yn mynd rhagddo ar hyn o bryd yn barod ar gyfer dadansoddi.
I’r aelod o’r cyhoedd ar grŵp rheoli’r treial, cyswllt hanfodol ar gyfer cynhwysiant ystyrlon yw’r Rheolwr y Treial a’r Staff. Ar gyfer y ddwy astudiaeth a nodir uchod dwi wedi bod yn ffodus i weithio gyda Georgina Gardner o’r Ganolfan Ymchwil Treialon yng Nghaerdydd. Mae hi’n gwneud yn siŵr fy mod i’n clywed y newyddion diweddaraf.
Mae wedi bod yn daith hynod ddiddorol i mi gael cynnig sylwadau ar yr astudiaethau hyn. Cyfrannu sylwadau a barn ar yr elfennau ymarferol i gleifion sy’n dewis bod yn rhan o’r astudiaeth. Cyfrannu at y wybodaeth maen nhw’n ei derbyn sy’n disgrifio’r astudiaeth, yr archwiliad corfforol a’r defnydd dilynol o’u data yn glir.
Dwi’n mwynhau bod yn rhan o gynnydd mewn maes clefyd. Gan ddefnyddio’r profiad gyda chlefyd canser y coluddyn ac astudiaeth Conscop, fi bellach yw llais y cyhoedd ar Fwrdd Rhaglen Sgrinio Coluddyn Cymru. Mae hyn yn enghraifft dda o sut y gall cynnwys y cyhoedd ddatblygu, ond mae llawer o gyfleoedd pwysig i gyfrannu at ymchwil ar bob lefel arall o ran cymhlethdod a gofynion ar eich amser. Mae wir yn bosib dod o hyd i rywbeth at ddant pawb! I gael gwybod sut y gallwch chi gymryd rhan, cofrestrwch ar gyfer bwletin wythnosol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sy’n rhestru cyfleoedd yn rheolaidd.
Bob McAlister, Partner Ymchwil PPI ar gyfer Canolfan Ymchwil Canser Cymru