Mynd i'r cynnwys

Stori Mark: “Mae CReST yn gynllun pwysig i gleifion fel fi yng Nghymru”

Fel Partner Ymchwil Canolfan Ymchwil Canser Cymru (CYCC) ar gyfer Gogledd Cymru, mae gen i ddiddordeb arbennig yn CReSt, y strategaeth sydd newydd ei chyhoeddi. Fy rôl yn y sefydliad yw helpu i arwain gweithgarwch ymchwil canser ar lefel leyg, gyda phwyslais cadarn ar sicrhau y caiff buddiannau gorau cleifion eu cynnal.

Rai blynyddoedd yn ôl, cefais ddiagnosis o lymffoma Non-Hodgkins ac yna cefais fy nhrin â chemotherapi R-CHOP. Gyda gofal da tîm o feddygon a nyrsys o’r radd flaenaf yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, cefais wellhad hirhoedlog. Yr hyn rydw i wedi’i gymryd o’r profiad hwn yw rhyfeddu at y driniaeth a diolch i dduw fod meddyginiaeth mor rhyfeddol o gwmpas pan oeddwn ei angen.

Llwyddais i droi’r profiad digroeso hwn yn un positif trwy ymuno â Chanolfan Ymchwil Canser Cymru fel Partner Ymchwil a gwneud cyfraniad bach o fy amser i ymchwil canser. Mae CReSt wedi bod yn brosiect mawr i CYCC: gan ddiffinio’r blaenoriaethau mewn ymchwil ynghyd â gweledigaeth o sut i’w ddatblygu. Mae partneriaid ymchwil wedi gwneud cyfraniad gweithredol at ei ddatblygiad. Mae gweld y byd o safbwynt y cleifion, a bod yn ymwybodol o’u pryderon a’u blaenoriaethau, yn rhoi digon o ffocws i’w mewnbwn.

Mae gwerth cydweithio rhwng unigolion a chyrff sy’n weithgar mewn ymchwil yn dod i’r amlwg yn uchel ac yn glir yn y strategaeth. O’m safbwynt i, mae gweld sut mae grwpiau ymchwil canser yn llwyddo i weithio ar y cyd wedi bod yn ysbrydoliaeth. Mae’r hen reol ein bod ni’n llawer cryfach gyda’n gilydd yn sicr yn berthnasol yma.

I gleifion canser yng Nghymru, mae chael gofal gan bobl sy’n ymwneud ag ymchwil yn fonws gwirioneddol. Gallai olygu bod ganddynt fynediad at dreialon clinigol sy’n cynnwys y triniaethau diweddaraf. Hefyd, mae’n hysbys bod cleifion yn gwneud yn well pan gânt eu diagnosio a’u trin mewn sefydliad sy’n cynnal astudiaethau ymchwil. Efallai bod gwell staff yn cael eu denu i weithio mewn unedau gofal iechyd sydd ag enw da am ymchwil glinigol.

I gymdeithas, mae mwy o ymchwil canser yn golygu llai o ganser a thriniaeth fwy llwyddiannus. Y tu hwnt i’r enillion i gleifion a’u perthnasau, mae manteision economaidd eang hefyd o ganlyniad i lai o salwch ac mae’r cyfan yn ychwanegu at y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru.

Mae llawer i’w ennill gan bawb o sefydlu mwy o ymchwil canser yng Nghymru. Nawr mae gennym ni gynllun clir ar gyfer y dyfodol. Fel Partner Ymchwil rwy’n edrych ymlaen at y daith.