Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Rhwydwaith Biowybodeg Canser Cymru ar 20 Mawrth 2024, gan nodi dechrau taith gydweithredol i hyrwyddo ymchwil canser drwy fiowybodeg.
Cynhaliwyd y cyfarfod ar Microsoft Teams. Ymunodd 25 cynrychiolydd o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS – y GIG) â’r cyfarfod. Aeth y cyfranogwyr ati i rannu eu cefndiroedd ym maes biowybodeg a mynegi eu disgwyliadau gan y rhwydwaith gan ddefnyddio offer rhyngweithiol megis Mentimeter a sesiynau bwrdd gwyn.
Cafwyd trafodaethau allweddol ynghylch sut y dylai’r grŵp weithio. Pennwyd map ffordd hefyd sy’n canolbwyntio ar feithrin cydweithio, darparu hyfforddiant ac addysg, trefnu digwyddiadau wyneb-yn-wyneb a rhithwir, rhannu adnoddau, gwella cyfathrebu a rheoli data’n effeithiol.
Yn ystod y cyfarfod, cytunwyd y byddai’n ddefnyddiol creu lle cymunedol ar-lein ar gyfer cyfathrebu a chyfnewid gwybodaeth. O ganlyniad, mae grŵp Slack (ap negeseuon) â sianeli lluosog ar gyfer diddordebau gwahanol wedi’i greu.
Yn ogystal, trafododd y grŵp nifer o fentrau newydd, gan gynnwys:
- cynnal pedwar digwyddiad blynyddol, lle bydd siaradwyr blaenllaw a thrafodaethau amserol i gyfoethogi arbenigedd
- dechrau clinig biowybodeg wythnosol, gan gynnig platfform pwrpasol i aelodau geisio cymorth, mynd i’r afael â heriau a rhannu gwybodaeth
- cynnal sesiynau hyfforddi cynhwysfawr a chlinigau data un-i-un, gyda’r nod o rymuso aelodau o bob gallu a datblygu sgiliau
- creu llwybrau ar gyfer ymgeisio am grantiau a chynnig cymorth wrth baratoi cais am grant, gan gynnwys hwyluso cyflawni amcanion ymchwil yn y rhwydwaith
Dywedodd Alex Gibbs, biowybodegydd craidd CReSt ac arweinydd y rhwydwaith: “Roedd cyfarfod cyntaf y rhwydwaith yn llwyddiant ysgubol! Ymunodd nifer fawr â’r cyfarfod, a bu llawer o ymgysylltu. Trafodwyd sut rydyn ni am i’r rhwydwaith weithio, a chynigiwyd ‘ffordd ymlaen’. Ers hynny, rydw i wedi sefydlu grŵp Slack ar gyfer y rhwydwaith, fydd yn ganolbwynt ar gyfer gweithgareddau’r rhwydwaith.”
Cynhelir y cyfarfod nesaf ddydd Iau, 20 Mehefin rhwng 12:30 a 14:00. Ewch i’r wefan i ymuno â’r Rhwydwaith Biowybodeg neu gael rhagor o wybodaeth.