Ymgysylltiad y Ganolfan Ymchwil Canser Cymru (CYCC)
Mae gwaith ymgysylltu yn elfen hollbwysig o’n gwaith. Drwy gydol y flwyddyn rydyn ni’n cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau i hyrwyddo’r ymchwil rydyn ni’n ei gefnogi i helpu ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr canser.

Cynhadledd flynyddol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Mae WCRC yn mynychu cynhadledd flynyddol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru er mwyn ymgysylltu â’r cyhoedd ac â chanolfannau eraill ledled Cymru ynghylch yr ymchwil a gefnogwn. Drwy gynnal gweithgareddau rhyngweithiol, rydym yn hybu ymwybyddiaeth o’r ymchwil canser sy’n cael ei gynnal ar draws Cymru. Cynhelir y digwyddiad nesaf ar 16 Hydref 2025.

Genomeg gyda’r Nos
Aeth dau o’n hymchwilwyr a thîm hwb y Ganolfan Ymchwil Canser Cymru i ddigwyddiad Genomeg gyda’r nos yn Techniquest Caerdydd, ym Mis Tachwedd 2023. Nod y digwyddiad yw codi ymwybyddiaeth am eneteg a genomeg a sut mae’n effeithio ar iechyd i aelodau o’r cyhoedd. Cynhaliodd y Ganolfan Ymchwil Canser stondin ryngweithiol gan gynnwys gweithgaredd ‘jumping genes’ ymhlith gweithgareddau eraill gan ddau o’n hymchwilwyr i helpu egluro’u gwaith ymchwil ar delomerau.

Wythnos Gyrfaoedd a Modelau Rôl, Grangetown
Ym mis Mawrth 2024 a 2025, buom yn cymryd rhan yn wythnos gyrfaoedd ac arwyr rôl Grangetown; digwyddiad a drefnir ar gyfer pobl o bob oed yn y gymuned leol. Cynhaliodd ein hymchwilwyr stondin o weithgareddau rhyngweithiol a oedd yn canolbwyntio ar amlygu’r gwaith a gefnogwn ac ar hyrwyddo gyrfaoedd ym maes ymchwil canser. Cawsom nifer o sgyrsiau diddorol gyda’r ymwelwyr ac, yn y gobaith, fe wnaethom annog rhai ohonynt i ystyried ymchwil canser fel dewis gyrfa yn y dyfodol.

Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd – yn Fyw!
Mae Science in Health Live! yn ddigwyddiad blynyddol a drefnir gan Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd ar gyfer myfyrwyr Lefel A o bob cwr o Gymru, ac fe’i cynlluniwyd i roi cipolwg i’r myfyrwyr ar y wyddoniaeth y tu ôl i feddygaeth, gan ddangos y cyfleoedd gyrfa amrywiol sydd ar gael iddynt ym maes gofal iechyd, biofeddygol a gwyddonol. Ym mis Mawrth 2024 a 2025, cynhaliodd tîm canolfan WCRC a’n hymchwilwyr stondin ryngweithiol yn y digwyddiad lle’r oedd ymwelwyr yn cael cynnig creu firws papur. Yn ystod y digwyddiadau, buom yn siarad â dros 400 o fyfyrwyr am yrfaoedd ym maes ymchwil canser ac yn codi ymwybyddiaeth o’r gwaith sy’n digwydd o fewn y WCRC.

Sgyrsiau ymchwil gyrfaoedd ym maes canser Prifysgol Abertawe
Ym mis Mawrth 2024 aeth Ymchwilwyr WCRC, Dr Mat Clement a Dr Claire Donnelly, i Brifysgol Abertawe i siarad â myfyrwyr meddygol 3edd flwyddyn am eu hymchwil a’u llwybrau gyrfa i helpu i annog y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr canser. Cafodd y digwyddiad dderbyniad da gan ymwelwyr gydag un Swyddog Ymchwil yn bresennol yn dweud bod y sgyrsiau: “wedi rhoi cyfle gwerthfawr i mi archwilio’r mentrau ymchwil parhaus sy’n digwydd yng Nghanolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC), gan fy ngalluogi i ehangu fy sylfaen wybodaeth a cysylltu â chyfoedion sy’n rhannu diddordebau tebyg.”

Profiad gwaith In2Stem
Ym mis Gorffennaf 2024 hwylusodd tri ymchwilydd o Ganolfan Ymchwil Canser Cymru leoliadau profiad gwaith blwyddyn 12 trwy In2Stem, rhaglen sy’n grymuso pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig trwy gynnig cipolwg ar yrfaoedd ac ymchwil STEM. Cymerodd y myfyrwyr ran mewn nifer o weithgareddau gan gynnwys sgiliau labordy ymarferol, taith o amgylch yr uned treialon clinigol a seminar delweddu radio.

Grŵp Trawsbleidiol ar Ymchwil Feddygol
Ym mis Gorffennaf 2024 a mis Medi 2025, mynychodd aelodau Canolfan Ymchwil Canser Cymru ddigwyddiad y Grŵp Trawsbleidiol (CPG) ar Ymchwil Feddygol yn y Senedd, a gynlluniwyd i arddangos ymchwil feddygol yng Nghymru i Aelodau’r Senedd. Roedd y digwyddiad yn cynnwys tua 25 o sefydliadau ac athrofeydd ymchwil, gan bwysleisio’r rôl hollbwysig y mae ymchwil feddygol yn ei chwarae wrth gryfhau economi Cymru a’r sector gofal iechyd.

Eisteddfod Genedlaethol
Y Maes Eisteddfod Genedlaethol yw’r ŵyl ddiwylliannol fwyaf yn Ewrop, a gynhelir mewn gwahanol rannau o Gymru bob blwyddyn. Mynychodd WCRC y digwyddiad yn Rhondda Cynon Taf fel rhan o dîm Prifysgol Caerdydd am ddau ddiwrnod rhwng 7–8 Awst 2024 ac ar 6 Awst 2025 yn Wrecsam, gan ddefnyddio gemau a gweithgareddau i ymgysylltu â phobl a’u helpu i ddysgu am yr ymchwil y mae WCRC yn ei chefnogi.

Ffair Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig
Mynychodd tîm PPI WCRC Ffair Iechyd MEC ar 16 Hydref 2024 a chynnal nifer o weithgareddau rhyngweithiol i ymgysylltu ag ymwelwyr, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o ymchwil canser a chynnwys y cyhoedd mewn penderfyniadau gofal iechyd. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys gêm labelu corff anatomegol, cwis ymwybyddiaeth canser, a phôl hwyliog yn defnyddio pompomau i gasglu barn ar PPI.
Digwyddiadau i ddod
- Ffair Iechyd MEC 2025
- Diwrnod Rhwydwaith Ymchwilwyr WCRC
- Arddangosfa PPIE, Prifysgol Caerdydd
- Cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2025
Diweddariadau diweddaraf ar ymgysylltiad
Mae WCRC yn Dod â Gwyddoniaeth yn Fyw yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Yr wythnos hon yn yr Eisteddfod Genedlaethol, cafodd ymwelwyr o bob oed gyfle i fynd ati’n ymarferol gyda gwyddoniaeth wrth…
Canolfan Ymchwil Canser Cymru yn cynnal sesiwn ddiddorol i drafod ymchwil canser yn Ysgol Haf Ymddiriedolaeth Sutton
Yn ddiweddar, fe wnaeth ymchwilwyr o Ganolfan Ymchwil Canser Cymru gynnal sesiwn ddiddorol a rhyngweithiol yn rhan o Ysgol Haf…
Arloesi ym maes ymchwil canser: Canolfan Ymchwil Canser Cymru a Banc Bio Canser Cymru yn Symposiwm Therapïau Uwch Cymru 2025
Ddydd Mercher 11 Mehefin 2025, roedd Canolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC) a Banc Bio Canser Cymru (WCB) yn falch o…
Canolfan Ymchwil Canser Cymru yn denu ymwelwyr gyda dysgu rhyngweithiol yn yr Eisteddfod
Llwyddodd Canolfan Ymchwil Canser Cymru (CYCC) i ddal sylw ymwelwyr yn yr Eisteddfod eleni, gan gynnig profiad ymdrwythol ac addysgol…
Ymchwilwyr CYCC yn cynnal myfyrwyr profiad gwaith In2STEM
Yn ddiweddar, croesawodd Canolfan Ymchwil Canser Cymru (CYCC) bedwar myfyriwr Blwyddyn 12 fel rhan o raglen profiad gwaith In2STEM . Cafodd y…
Tîm Canolfan Ymchwil Canser Cymru yn ymuno â’r Grŵp Trawsbleidiol ar Ymchwil Feddygol yn y Senedd
Ddydd Mercher 3 Gorffennaf ymunodd aelodau o Ganolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC) â digwyddiad y Grŵp Trawsbleidiol ar Ymchwil Feddygol…