Rhwydwaith Canser Cymru i Ymchwilwyr ar Ddechrau neu ar Ganol eu Gyrfa
Dyma fan i Ymchwilwyr ar Ddechrau neu ar Ganol eu Gyrfa ym maes canser yng Nghymru gysylltu â’i gilydd, er mwyn rhannu gwybodaeth a chyfleoedd dysgu ar draws sefydliadau.
Ymunwch â’n rhwydwaith newydd ar gyfer Ymchwilwyr ar ddechrau neu ar ganol eu gyrfa
Os ydych chi’n ymchwilydd canser ar ddechrau neu ar ganol eich gyrfa ac wedi’ch lleoli mewn prifysgol neu gorff y NHS yng Nghymru, ymunwch â rhwydwaith newydd Canolfan Ymchwil Canser Cymru i Ymchwilwyr ar Ddechrau neu ar Ganol eu Gyrfa. Rydyn ni’n gobeithio dod ag ymchwilwyr canser clinigol ac anghlinigol at ei gilydd i feithrin gwaith ar y cyd ym mhob rhan o’r maes, datblygu cymuned gefnogol a chynnig cyfres o ddigwyddiadau hyfforddi.
Os hoffech chi gymryd rhan yn y fenter newydd hon neu os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau/ymholiadau ynghylch y digwyddiadau hyn, cysylltwch â Dr Helen Pearson (Cyfarwyddwr Cyswllt, Canolfan Ymchwil Canser Cymru).
Sylwch, os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n ymchwilydd sydd ar ddechrau neu ar ganol eich gyrfa, neu os hoffech chi ddod draw beth bynnag, cofrestrwch!
Cynhelir y cyfarfod nesaf ddydd Iau 23 Ionawr 2025 13:00-15:00 ar-lein.
Cofrestrwch isod, neu e-bostiwch wcrc@caerdydd.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Galwad am Ddatganiadau o Ddiddordeb i fod yn aelodau o’r Pwyllgor Ymchwilwyr ar Ddechrau neu ar Ganol eu Gyrfa (EMCR)
Mae Rhwydwaith EMCR yn chwilio am aelodau pwyllgor i gynorthwyo gyda datblygiad y grŵp. Anfonwch eich datganiadau o ddiddordeb i wcrc@caerdydd.ac.uk erbyn 01/12/2024
Dylai datganiadau o ddiddordeb gynnwys datganiad (dim mwy na 250 gair) yn amlinellu eich rôl bresennol, y ddealltwriaeth y gallech chi ei chynnig i’r grŵp, sut rydych chi’n meddwl y gallech chi gyfrannu’n sylweddol at y Pwyllgor EMCR.