Mynd i'r cynnwys

Mae ceisiadau ymchwil bellach ar agor ar gyfer rhaglen Ein Hiechyd yn y Dyfodol

Oeddech chi’n gwybod bod rhaglen ymchwil iechyd fwyaf erioed y DU bellach ar agor i geisiadau ar gyfer astudiaethau gan ymchwilwyr iechyd? 

Mae’r rhaglen Ein Hiechyd yn y Dyfodol wedi’i chynllunio i helpu ymchwilwyr i ddod o hyd i ffyrdd newydd o atal clefydau, eu canfod a’u trin. Mae’r rhaglen yn creu darlun hynod fanwl o iechyd y DU, drwy ofyn i filiynau o wirfoddolwyr rannu eu gwybodaeth iechyd, ac mae’r tîm wedi rhannu diweddariad gyda Chanolfan Ymchwil Canser Cymru isod.

Mae dros ddwy filiwn o bobl eisoes wedi gwirfoddoli – gan gynnwys miloedd o bobl yng Nghymru. Gyda’i gilydd, mae eu gwybodaeth iechyd yn cynnig dealltwriaeth newydd a chyffrous i ymchwilwyr ar achosion a risgiau clefydau gan gynnwys canser.

Deall Data Ein Hiechyd yn y Dyfodol

Pan fydd gwirfoddolwyr yn cofrestru ar gyfer Ein Hiechyd yn y Dyfodol, maen nhw’n:

  1. Ateb holiadur am eu hiechyd a’u ffordd o fyw.
  2. Mynd i apwyntiad, lle maen nhw’n cael rhai mesuriadau corfforol ac yn rhoi sampl o waed ar gyfer dadansoddi DNA.
  3. Rhoi caniatâd i’w gwybodaeth gael ei chysylltu â’u cofnodion iechyd.

Gall gwirfoddolwyr hefyd gytuno i Ein Hiechyd y Dyfodol gysylltu â nhw ar ran ymchwilwyr iechyd yn y dyfodol, i’w gwahodd i gymryd rhan mewn ymchwil ddilynol.

I ymchwilwyr, gall yr adnodd hwyluso cenhedlaeth newydd o ddarganfyddiadau ac ymchwil drosiadol a fydd yn rhoi hwb i’r gwaith o ddatblygu a phrofi technolegau diagnostig cynnar ac ymyriadau ataliol. 

Yn bwysig, dylai’r darganfyddiadau hyn weithio i bawb. Ni welwyd carfan o’r maint yma o’r blaen. Mae hefyd yn garfan hynod o amrywiol. Mae Ein Hiechyd yn y Dyfodol wedi ymrwymo i greu adnodd sydd wir yn cynrychioli poblogaeth y DU, fel y gallwn ni adnabod gwahaniaethau yn y ffordd y mae clefydau’n datblygu ac yn tyfu mewn pobl o gefndiroedd gwahanol. 

Dyna pam mae’r rhaglen yn agor clinigau yng Nghymru ac yn cynnig cyfle i bobl ledled y wlad gymryd rhan. Agorodd y clinigau Cymreig cyntaf yn siopau Boots ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Abertawe, a Wrecsam, gyda rhagor ar y gweill. Mae Ein Hiechyd y Dyfodol yn rhagweld y bydd yn cynnig mwy na 70,000 o apwyntiadau yng Nghymru dros y misoedd nesaf.

Mae’r rhaglen hefyd yn rhoi gwybodaeth yn y Gymraeg, er mwyn helpu i sicrhau bod pawb yn ein cymuned yn cael y cyfle i ymuno.

Gwneud cais i gyrchu’r data

Mae Ein Hiechyd y Dyfodol yn eich galluogi chi i ddadansoddi tueddiadau iechyd a ffactorau risg sy’n benodol i gymunedau yng Nghymru yn fanwl. 

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall yr adnodd helpu eich maes ymchwil, a gwneud cais i gyrchu’r data, ewch i research.ourfuturehealth.org.uk

Gallwch chi hefyd wylio fideo sy’n esbonio sut mae ymchwilwyr yn cyrchu’r wybodaeth yn ddiogel.

Helpwch i gynyddu ymwybyddiaeth

Mae Ein Hiechyd Dyfodol yn gobeithio y bydd ymchwilwyr yng Nghymru yn trosglwyddo eu neges, fel bod pobl yng Nghymru yn cael eu cynrychioli’n briodol yn yr adnodd. Gallwch chi wneud hyn drwy eich rhwydweithiau eich hun, er enghraifft ar y cyfryngau cymdeithasol neu ymhlith cydweithwyr. Cysylltwch â lynn.clarkwright@ourfuturehealth.org.uk i ofyn am ragor o wybodaeth a chael gafael ar ddeunyddiau sy’n codi ymwybyddiaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am Ein Hiechyd y Dyfodol yng Nghymru, cyfeiriwch at y datganiad i’r wasg yma, sy’n cynnwys sylwadau gan Brif Swyddog Meddygol Cymru, Syr Frank Atherton, a Chyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yr Athro Kieran Walshe.