Mynd i'r cynnwys

Tîm ein Hyb

Mae tîm Hyb Canolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC) yn gyfrifol am waith y ganolfan o ddydd i ddydd.

Gwybodaeth am Dîm Hyb Canolfan Ymchwil Canser Cymru

Gofal Iechyd ac Ymchwil Cymru sy’n ariannu’r WCRC, ac mae wedi’i lleoli yn Adran Canser a Geneteg Prifysgol Caerdydd.  Mae’r Ganolfan yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Mae’r Ganolfan yn cynnwys arweinwyr strategol a gweithredol a thîm Hyb bach sy’n gyfrifol am waith yr WCRC o ddydd i ddydd; gwneud yn siŵr bod gwaith prosiect yn cael ei gyflawni; cadw mewn cysylltiad â’r gymuned ymchwil, cleifion a’r cyhoedd; a monitro ac adrodd ar ddatblygiadau.  I wneud hyn, rydyn ni’n gweithio’n agos â’r gymuned ymchwil canser ehangach, yn arbennig ein Cyfarwyddwyr Cyswllt, Arweinwyr Themâu CReSt a’n Partneriaid Ymchwil Lleyg.

Dr Ceri Morris

Rheolwr y Ganolfan

Mae Ceri yn goruchwylio ac yn rheoli prosesau gweithredol WCRC megis llywodraethu, cyllid, adrodd, recriwtio a hyfforddi.

Jenni Macdougall

Pennaeth Strategaeth a Gweithredu (CReSt)

Mae Jenni yn arwain y gwaith o gydlynu gweithredu’r strategaeth ymchwil canser gyntaf i Gymru gyfan (CReST). Mae hyn yn cynnwys gweithio’n agos gydag arweinwyr thema CreST a rhoi cymorth i ddatblygu consortia ymchwil a chynhigion am gyllid ar raddfa fawr, trefnu cyfarfodydd, gweithdai a gweminarau i gefnogi ymchwilwyr i dyfu’r sylfaen ymchwil, a hwyluso cysylltiadau rhwng sefydliadau i annog gweithgarwch cydgysylltiedig.

Kathryn Spiers-Prichard

Rheolwr Prosiectau Gwyddonol

Mae Kathryn yn rheoli’r gwaith dydd i ddydd o gynnal amrywiaeth o brosiectau sy’n helpu i roi CReSt ar waith, gan gynnwys gweithdai, cyfarfodydd rhwydwaith, a galwadau cyllid WCRC newydd. 

Sarah Hughes

Uwch Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu 

Sarah is responsible for WCRC’s, marketing, brand, web, digital, social media, PR and media relations, and internal communications. She also organises attendance and activities for a number of engagement events throughout the year to promote the work of the Centre and cancer research as a career.

Swyddog Prosiect (i’w gadarnhau)

Mae’n rheoli cyllideb WCRC ynghyd â chefnogi’r gwaith o roi Strategaeth Ymchwil Canser (CReST) ar waith. Mae Zoe yn gyfrifol am lunio adroddiadau chwarterol a blynyddol i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Swyddog Gweinyddol (i’w gadarnhau)

Mae Katie yn rheoli’r holl dasgau gweinyddol ar gyfer y tîm, yn cadw golwg ar gyfrif e-bost WCRC ac yn helpu grŵp Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd. Mae’n trefnu a chefnogi cyfarfodydd llywodraethu ac wedi cefnogi grwpiau ymchwil amlddisgyblaethol (MDRG).