
Yr wythnos hon yn yr Eisteddfod Genedlaethol, cafodd ymwelwyr o bob oed gyfle i fynd ati’n ymarferol gyda gwyddoniaeth wrth i Ganolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC) gynnal cyfres o weithgareddau hwyliog ac ymgysylltiol yn pabell Prifysgol Caerdydd.
O greu breichledau DNA lliwgar i archwilio bydoedd rhithwir, daeth tîm WCRC â rhyfeddodau ymchwil canser a geneteg yn fyw. Crëodd ymwelwyr o bob oed freichledau gleiniau lliwgar yn cynrychioli codau genetig amrywiaeth o organebau byw – o bobl i fôr-wenoliaid – gan gynnig ffordd hwyliog ac ymarferol o ddysgu sut mae DNA yn gweithio ar draws y byd naturiol.
Yn y cyfamser, cymerodd y profiad rhith-realiti ‘Cancer Blast’ gyfranogwyr i mewn i gorff dynol, lle cawsant rôl y system imiwn i nodi a dinistrio celloedd canser. Roedd y fformat rhyngweithiol tebyg i gêm yn boblogaidd iawn gyda phobl ifanc, gan wneud bioleg gymhleth yn hygyrch ac yn gyffrous.
“Mae’n ysbrydoledig gweld y cyhoedd, ac yn enwedig pobl ifanc, mor frwd dros ymchwil i ganser a gwyddoniaeth,” meddai Cyfarwyddwr WCRC, Yr Athro Mererid Evans. “Rydym wrth ein bodd gyda’r brwdfrydedd a’r chwilfrydedd a ddangoswyd gan bawb a ddaeth heibio.”
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn parhau i fod yn lwyfan lle mae diwylliant, iaith ac arloesi yn cyfarfod – ac heddiw, fe wnaeth WCRC helpu gwyddoniaeth i gamu i’r llwyfan canolog.