Mynd i'r cynnwys

Dyfarniad bwysig Rhaglen Darganfod CRUK i’r Athro Andrew Godkin a’r Athro Awen Gallimore am wneud cynnydd yn natblygiad brechlyn canser

Mae imiwnolegwyr o Brifysgol Caerdydd, sef yr Athro Andrew Godkin a’r Athro Awen Gallimore, wedi ennill Dyfarniad Rhaglen Darganfod bwysig pum mlynedd o hyd gan Ymchwil Canser y DU (CRUK). Bydd eu prosiect, “Optimeiddio ymatebion celloedd T CD4+ gwrth-ganser drwy addasu antigenau dosbarth II HLA ar sail gwybodaeth foleciwlaidd”, yn datblygu ymchwil i greu brechlynnau canser y genhedlaeth nesaf.

Mae’r Athro Godkin a’r Athro Gallimore, sy’n rhedeg labordy ar y cyd, yn adnabyddus yn rhyngwladol am eu hymchwil i fioleg celloedd-T. Ynghyd â seren newydd, Dr Bruce MacLachlan, sy’n fiolegydd ac yn imiwnolegydd strwythurol, mae eu gwaith yn canolbwyntio ar gelloedd T cynorthwyol CD4+, is-set o gelloedd imiwn sy’n chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi rhannau eraill o’r system imiwnedd, gan gynnwys celloedd T cytotocsig CD8+, i gael gwared ar ganserau. Yr Athro Gallimore yw Arweinydd Thema Imiwno-Oncoleg yng Nghanolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC) hefyd. Mae hi’n helpu i lunio strategaeth ymchwil canser genedlaethol a meithrin cydweithio ledled Cymru.

Bydd y rhaglen sydd newydd ei hariannu yn ymchwilio a ellir peiriannu antigenau canser y colon a’r rhefr ymgeisiol i ddod yn fwy imiwnogenaidd yn eu hanfod. Yna, bydd yr antigenau hyn sydd wedi’u haddasu yn cael eu rhoi mewn brechlynnau a’u hasesu gan ddefnyddio systemau cyn-glinigol uwch, gan gynnwys organoidau a ddatblygwyd drwy gydweithio â Sefydliad Beatson.

Drwy gynllunio antigenau sy’n effeithiol yn eang, nod y tîm yw creu brechlynnau a allai fod ar gael i bob claf. Mae’r dull hwn yn cyferbynnu ag imiwnotherapïau sydd wedi’u personoli’n fanwl, sydd, er eu bod yn addawol, yn parhau i fod yn ddrud ac yn llai hygyrch.

Mae Dyfarniad Rhaglen Darganfod CRUK yn un o ddyfarniadau ariannol mwyaf cystadleuol a sylweddol yr elusen, sy’n cefnogi ymchwilwyr rhyngwladol blaenllaw i ddilyn prosiectau uchelgeisiol hirdymor a all drawsnewid ein dealltwriaeth o ganser a chreu cyfleoedd therapiwtig newydd. Mae’r grantiau hyn yn darparu cyllid parhaus am gyfnod hyd at bum mlynedd, gan ganiatáu i dimau ymgymryd â gwyddoniaeth fentrus risg uchel, sy’n gwobrwyo’n uchel gyda photensial sylweddol i newid arferion clinigol.

Dyma ddywedodd yr Athro Godkin wrth sôn am y wobr:

“Rydyn ni wrth ein boddau’n derbyn y gefnogaeth hon gan CRUK. Bydd y rhaglen hon yn caniatáu inni ymchwilio i’r ffyrdd y gellir optimeiddio celloedd T CD4+ i wella imiwnotherapi canser. Ein nod yn y pen draw yw datblygu brechlynnau sy’n hygyrch ac yn deg, gan gynnig manteision imiwnotherapi i gymuned llawer ehangach o gleifion.”