Adnoddau ar gyfer Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar yng Nghymrus
Cefnogaeth ac adnoddau wedi’u teilwra i’r rhai sydd ar gam cynnar yn eu gyrfa ymchwil.
Wrth i chi ddechrau yn eich gyrfa ymchwil, gallech elwa o fod yn rhan o rwydwaith o’ch cyfoedion. Yn ogystal â gwneud cysylltiadau newydd a all gynnig cefnogaeth cymheiriaid ar hyd eich taith, mae’r grwpiau hyn yn hwyluso gweminarau, gweithdai, ac yn darparu adnoddau eraill sydd wedi’u teilwra i’r rhai ar ddechrau eu gyrfa.
Rydym wedi casglu’r canllaw cyfeirio canlynol i’ch cyfeirio at eich rhwydwaith ECR lleol a chyfleoedd perthnasol eraill. Os byddwch yn sylwi ar unrhyw ddiweddariadau sydd eu hangen neu os ydych yn gwybod am unrhyw adnoddau eraill a fyddai’n fuddiol i ni eu cyfeirio, cysylltwch â wcrc@cardiff.ac.uk
Grwpiau ECR sefydliadol
Prifysgol Caerdydd
Mae Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd yn cynnal Fforwm ECR sy’n agored i holl ECRs Prifysgol Caerdydd. Mae’n cefnogi cyfarfodydd personol (neu hybrid) sy’n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau defnyddiol megis cyllid grant, rheoli data, cyfleoedd addysgu, cynnwys cleifion a’r cyhoedd ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Maent hefyd yn cynnal sesiynau dan arweiniad siaradwyr mewnol ac allanol.
I gael gwybod mwy, ewch i’r ddolen fewnrwyd hon neu e-bostiwch eich cynrychiolydd ECR adrannol:
Yr Is-adran Haint ac Imiwnedd Mathew Clement.
Is-adran Canser a Geneteg: blwch post NERD
Tîm Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd Cofrestrwch â’r Bwletin Cyllid trwy gysylltu â’ch Swyddfa Ymchwil Ysgol.
Prifysgol Abertawe
O fis Medi 2023 ymlaen, bydd Prifysgol Abertawe yn cynnig sgyrsiau gan siaradwyr mewnol, digwyddiadau rhwydweithio, hyfforddiant ar bynciau defnyddiol fel cynigion a chyllid. Bydd y rhain ar agor i holl ECRs Prifysgol Abertawe.
I ddarganfod mwy, e-bostiwch Laura Thomas.
Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig cyfarfodydd cynhadledd-fach ECR blynyddol lle mae ECRs yn cael cyfle i rwydweithio â’i gilydd, ac i ymarfer eu sgiliau cyflwyno.
Mae Prifysgol Bangor hefyd yn darparu rhaglen hyfforddi helaeth, sy’n ymdrin â phynciau fel arweinyddiaeth, rheolaeth ac ysgrifennu traethawd ymchwil. Mae’r rhain ar agor i ECRs Prifysgol Bangor, a bydd y cyfleoedd yn cael eu e-bostio at ymchwilwyr Bangor.
Cyfleodd ECR eraill
Yr Academi Brydeinig a Chynghrair GW4
Wedi’i sefydlu yn 2013, mae GW4 yn gynghrair o bedair o’r prifysgolion mwyaf ymchwil-ddwys ac arloesol yn y DU: Ynghyd â’r Academi Brydeinig, mae cynghrair GW4 yn arwain consortiwm i gydlynu rhwydwaith ECR.
Mae’r Academi Brydeinig a Chynghrair GW4 yn cydweithio ar raglen o weithgareddau a gynlluniwyd i fod o fudd i Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar ar draws y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol yn y sefydliadau hyn.
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn sefydliad sy’n dod â phartneriaid ledled Cymru ynghyd, yn ogystal ag ariannu prosiectau ymchwil canser ledled y wlad.
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn darparu cyfle aelodaeth cyfadran i ddeiliaid gwobrau personol ECR a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cynhyrchu bwletin sy’n agored i bob ECRs.
Ymchwil Canser y DU
Cancer Research UK (CRUK) yw’r brif elusen ganser annibynnol yn y byd. Mae CRUK yn cynnig cyfle i ECRs i arsylwi paneli a phwyllgorau cyllido. Nid yw’n ofynnol i chi gael eich ariannu gan CRUK i wneud cais i’r cynllun hwn.
Cymdeithas Ddysgedig Cymru
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru (LSW) yn elusen addysgol annibynnol, hunanlywodraethol, sy’n cwmpasu aml ddisgyblaethau ledled Cymru gyfan.
Mae LSW yn darparu llu o adnoddau ar gyfer ECRs, o sesiynau rhwydweithio i weithdai a gweminarau. Mae ganddynt hefyd gyfarfod ECR blynyddol, gyda chefnogaeth cymrodyr LSW. Gall LSW hwyluso cyfarfodydd ECR i drafod llwybr gyrfa, a gall gefnogi digwyddiadau ECR.
Mae LSW yn galw am grantiau ECR-benodol y maent yn eu hysbysebu ar eu gwefan.
Mae’r adnoddau hyn ar gael am ddim i unrhyw ECR sy’n cofrestru i LSW.
Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd
Mae Cynnwys y Cyhoedd a Chleifion (PPI) yn agwedd bwysig ar ymchwil, lle cynhelir prosiectau gyda mewnbwn gan aelodau’r cyhoedd. Yng Nghanolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC) rydym yn gweithio gyda thîm o bartneriaid ymchwil lleyg sy’n cyfoethogi ymchwil ledled Cymru gyda’u mewnbwn PPI.
Mae PPI yn allweddol i ymchwil; os ydych chi’n ymwneud â rhwydwaith ECR ac yr hoffech i un o bartneriaid ymchwil lleyg PPI WCRC siarad â’ch rhwydwaith, cysylltwch â wcrc@cardiff.ac.uk
Gall ein partneriaid ymchwil helpu’ch rhwydwaith i ddeall beth yw PPI, pam mae PPI yn bwysig, sut rydych chi’n mesur effaith PPI, a sut rydych chi’n olrhain ei lwyddiant.