Mynd i'r cynnwys

Ymgysylltiad y Ganolfan Ymchwil Canser Cymru (CYCC)

Mae gwaith ymgysylltu yn elfen hollbwysig o’n gwaith. Drwy gydol y flwyddyn rydyn ni’n cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau i hyrwyddo’r ymchwil rydyn ni’n ei gefnogi i helpu ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr canser.

Cynhadledd flynyddol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Mae WCRC yn mynychu cynhadledd flynyddol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru er mwyn ymgysylltu â’r cyhoedd ac â chanolfannau eraill ledled Cymru ynghylch yr ymchwil a gefnogwn. Drwy gynnal gweithgareddau rhyngweithiol, rydym yn hybu ymwybyddiaeth o’r ymchwil canser sy’n cael ei gynnal ar draws Cymru. Cynhelir y digwyddiad nesaf ar 16 Hydref 2025.

Genomeg gyda’r Nos

Aeth dau o’n hymchwilwyr a thîm hwb y Ganolfan Ymchwil Canser Cymru i ddigwyddiad Genomeg gyda’r nos yn Techniquest Caerdydd, ym Mis Tachwedd 2023. Nod y digwyddiad yw codi ymwybyddiaeth am eneteg a genomeg a sut mae’n effeithio ar iechyd i aelodau o’r cyhoedd. Cynhaliodd y Ganolfan Ymchwil Canser stondin ryngweithiol gan gynnwys gweithgaredd ‘jumping genes’ ymhlith gweithgareddau eraill gan ddau o’n hymchwilwyr i helpu egluro’u gwaith ymchwil ar delomerau.

Wythnos Gyrfaoedd a Modelau Rôl, Grangetown

Ym mis Mawrth 2024 a 2025, buom yn cymryd rhan yn wythnos gyrfaoedd ac arwyr rôl Grangetown; digwyddiad a drefnir ar gyfer pobl o bob oed yn y gymuned leol. Cynhaliodd ein hymchwilwyr stondin o weithgareddau rhyngweithiol a oedd yn canolbwyntio ar amlygu’r gwaith a gefnogwn ac ar hyrwyddo gyrfaoedd ym maes ymchwil canser. Cawsom nifer o sgyrsiau diddorol gyda’r ymwelwyr ac, yn y gobaith, fe wnaethom annog rhai ohonynt i ystyried ymchwil canser fel dewis gyrfa yn y dyfodol.

Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd – yn Fyw!

Mae Science in Health Live! yn ddigwyddiad blynyddol a drefnir gan Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd ar gyfer myfyrwyr Lefel A o bob cwr o Gymru, ac fe’i cynlluniwyd i roi cipolwg i’r myfyrwyr ar y wyddoniaeth y tu ôl i feddygaeth, gan ddangos y cyfleoedd gyrfa amrywiol sydd ar gael iddynt ym maes gofal iechyd, biofeddygol a gwyddonol. Ym mis Mawrth 2024 a 2025, cynhaliodd tîm canolfan WCRC a’n hymchwilwyr stondin ryngweithiol yn y digwyddiad lle’r oedd ymwelwyr yn cael cynnig creu firws papur. Yn ystod y digwyddiadau, buom yn siarad â dros 400 o fyfyrwyr am yrfaoedd ym maes ymchwil canser ac yn codi ymwybyddiaeth o’r gwaith sy’n digwydd o fewn y WCRC.

Sgyrsiau ymchwil gyrfaoedd ym maes canser Prifysgol Abertawe

Ym mis Mawrth 2024 aeth Ymchwilwyr WCRC, Dr Mat Clement a Dr Claire Donnelly, i Brifysgol Abertawe i siarad â myfyrwyr meddygol 3edd flwyddyn am eu hymchwil a’u llwybrau gyrfa i helpu i annog y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr canser. Cafodd y digwyddiad dderbyniad da gan ymwelwyr gydag un Swyddog Ymchwil yn bresennol yn dweud bod y sgyrsiau: “wedi rhoi cyfle gwerthfawr i mi archwilio’r mentrau ymchwil parhaus sy’n digwydd yng Nghanolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC), gan fy ngalluogi i ehangu fy sylfaen wybodaeth a cysylltu â chyfoedion sy’n rhannu diddordebau tebyg.”

Profiad gwaith In2Stem

Ym mis Gorffennaf 2024 hwylusodd tri ymchwilydd o Ganolfan Ymchwil Canser Cymru leoliadau profiad gwaith blwyddyn 12 trwy In2Stem, rhaglen sy’n grymuso pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig trwy gynnig cipolwg ar yrfaoedd ac ymchwil STEM. Cymerodd y myfyrwyr ran mewn nifer o weithgareddau gan gynnwys sgiliau labordy ymarferol, taith o amgylch yr uned treialon clinigol a seminar delweddu radio.

Grŵp Trawsbleidiol ar Ymchwil Feddygol

Ym mis Gorffennaf 2024 a mis Medi 2025, mynychodd aelodau Canolfan Ymchwil Canser Cymru ddigwyddiad y Grŵp Trawsbleidiol (CPG) ar Ymchwil Feddygol yn y Senedd, a gynlluniwyd i arddangos ymchwil feddygol yng Nghymru i Aelodau’r Senedd. Roedd y digwyddiad yn cynnwys tua 25 o sefydliadau ac athrofeydd ymchwil, gan bwysleisio’r rôl hollbwysig y mae ymchwil feddygol yn ei chwarae wrth gryfhau economi Cymru a’r sector gofal iechyd.

Eisteddfod Genedlaethol

Y Maes Eisteddfod Genedlaethol yw’r ŵyl ddiwylliannol fwyaf yn Ewrop, a gynhelir mewn gwahanol rannau o Gymru bob blwyddyn. Mynychodd WCRC y digwyddiad yn Rhondda Cynon Taf fel rhan o dîm Prifysgol Caerdydd am ddau ddiwrnod rhwng 7–8 Awst 2024 ac ar 6 Awst 2025 yn Wrecsam, gan ddefnyddio gemau a gweithgareddau i ymgysylltu â phobl a’u helpu i ddysgu am yr ymchwil y mae WCRC yn ei chefnogi.

Ffair Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig

Mynychodd tîm PPI WCRC Ffair Iechyd MEC ar 16 Hydref 2024 a chynnal nifer o weithgareddau rhyngweithiol i ymgysylltu ag ymwelwyr, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o ymchwil canser a chynnwys y cyhoedd mewn penderfyniadau gofal iechyd. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys gêm labelu corff anatomegol, cwis ymwybyddiaeth canser, a phôl hwyliog yn defnyddio pompomau i gasglu barn ar PPI.

Digwyddiadau i ddod

  • Ffair Iechyd MEC 2025
  • Diwrnod Rhwydwaith Ymchwilwyr WCRC
  • Arddangosfa PPIE, Prifysgol Caerdydd
  • Cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2025

Diweddariadau diweddaraf ar ymgysylltiad