Ein hymchwilwyr
Mae’r CYCC yn cefnogi ymchwil sy’n cyd-fynd â chwe thema CReSt, ar draws y sbectrwm o ymchwil cyn-glinigol i ymchwil glinigol.

Clair Brunner
Cofrestrydd oncoleg glinigol yw Clair yn ne Cymru sy’n gwneud cymrodoriaeth ymchwil radiotherapi ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe a Phrifysgol Abertawe. Mae fy ngwaith ymchwil cyfredol yn canolbwyntio ar sut rydyn ni’n gallu defnyddio delweddu i wella deilliannau yn sgil radiotherapi yn achos canser yr oesoffagws. Un agwedd ar fy ngwaith yw asesu’r effaith bosibl o ddefnyddio MRI yn y broses o gynllunio triniaethau radiotherapi yn achos canserau’r oesoffagws.

Kian Quest
Mae Kian yn ymchwilydd PhD yn labordy Dr Lee Parry yn Sefydliad Ymchwil Canser Celloedd Bonyn Ewrop, sydd wedi’i leoli yn Adeilad Haydn Ellis. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar harneisio Salmonella typhimurium fel platfform cyflenwi oncotropig ar gyfer shRNA sy’n targedu PD-L1. Drwy darfu ar y broses o atal imiwnedd a gyfryngir gan PD-L1 o fewn microamgylchedd y tiwmor, mae ei waith yn anelu at ysgogi ac atgyfnerthu ymatebion imiwnedd gwrth-diwmor, yn enwedig mewn tiwmorau sydd yn “oer” yn imiwnolegol neu’n osgoi’r system imiwnedd.

Dr Ashley Pridgeon
Mae Dr Ashley Pridgeon yn Fiowybodegydd yng Ngwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan. Mae’n gweithio’n agos gydag Is-adran Canser a Geneteg Prifysgol Caerdydd, lle mae’n canolbwyntio ar helpu i ddatblygu a rhoi dadansoddiad o amrywiadau strwythurol ym maes diagnosteg glinigol ar waith.

Manon Jones
Mae Manon Jones yn rhan o labordy Dr Clement, ac yn cefnogi’r ymchwil i ganfod antigenau newydd sy’n gysylltiedig â thiwmorau mewn glioblastoma i wella ymatebion celloedd-T gwrth-diwmor. Cyn hyn, bu’n ymchwilio i glioma a medulloblastoma yn ystod ei BSc a’i MRes, gan ddatblygu damcaniaethau o setiau data trawsgrifiadol a’u profi’n swyddogaethol gan ddefnyddio modelau sfferoid tiwmor yr ymennydd. Yn ymchwilydd ar ddechrau ei gyrfa, mae hi’n awyddus i ehangu’r sylfaen hon i ddilyn gyrfa hirdymor ym maes ymchwil ar ganser, gyda’r nod o gyfrannu at well canlyniadau i gleifion.

Emma Swift
Mae Emma yn ymchwilydd ôl-ddoethurol sy’n gweithio yn y grŵp Viral ImmunoTherapies and Advanced Therapeutics Lab (VITAL), sy’n rhan o’r Adran Canser a Geneteg ym Mhrifysgol Caerdydd. Ei hymchwil yw datblygu fectorau adenofiraol sy’n dargedu tiwmorau ar gyfer cymwysiadau therapi firaol canser.

Dr Mathew Clement
Mae Dr Clement yn Niwroimiwnolegydd sy’n cyfuno technegau ymchwil niwroleg ac imiwnoleg uwch â’i gilydd. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar astudio canser yr ymennydd, gan arbenigo ym maes ymchwil Glioblastoma (GBM). Mae ei ymchwil yn archwilio rhyngwyneb y system imiwnedd a GBM ac yn archwilio’n benodol rôl allweddol celloedd T yn ystod clefydau.

Dr Michelle Edwards
Mae ymchwil Dr Edwards yn canolbwyntio ar brofiadau cleifion o driniaeth canser pan fydd canser wedi lledaenu. Mae hi wedi bod yn gweithio ar adolygiad o gymorth penderfyniadau a chyfathrebu i gleifion ac ymchwil i ddatblygu ymyriad i gefnogi cleifion i ddeall eu hopsiynau a gwneud penderfyniadau gwybodus.

Dr Kate Liddiard
Mae Fariba Mirani Sargazi yn fyfyrwraig PhD mewn Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Bangor. O dan oruchwyliaeth Dr. Jonathan Blank, ei phrif nod yw pennu a yw MRE11 yn cael ei lactyleiddio mewn ymateb i driniaeth ataliwr MCT1 yn y model canser ofari sy’n gwrthsefyll cisplatin a’r model rhiant, ac i ddeall sut mae hyn yn effeithio ar sensitifrwydd i’r atalydd a’r cisplatin.

Dr Carly Bliss
Mae Dr Bliss yn Ddarlithydd ym maes Imiwnoleg Canser ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae’n datblygu therapïau canser cyn-glinigol sy’n defnyddio adenofirysau. Yn rhan o’r ymchwil hon defnyddir dull newydd o harneisio ac ailgyfeirio celloedd T gwrthfeirysol yn erbyn canser, yn ogystal â strategaethau ar gyfer brechlyn canser sy’n defnyddio fectorau newydd yn seiliedig ar seroteipiau adenofirws prin i symbylu ymatebion imiwnedd yn erbyn tiwmorau.

Dr James Powell
Mae Dr Powell yn niwro-oncolegydd yng Nghanolfan Ganser Felindre. Mae’n trin cleifion â thiwmorau ar yr ymennydd â radiotherapi a therapïau systemig fel cemotherapi. Mae’n cymryd rhan mewn sawl treial clinigol yn asesu triniaethau newydd ar gyfer tiwmorau ar yr ymennydd. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar diwmorau ar yr ymennydd, gan gynnwys glioblastoma multiforme, ac mae wedi arwain prosiectau cydweithredol clinigol gyda Chanolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) sy’n astudio rôl technegau sganio MRI uwch ymhlith cleifion â thiwmorau ar yr ymennydd.

Dr Ashley Poon-King
Mae Dr Ashley Poon-King yn gofrestrydd oncoleg glinigol yn Ne Cymru. Mae’n gymrawd ymchwil glinigol ym meysydd radiotherapi, genomeg ac imiwnoleg. Mae ei hymchwil bresennol yn ymchwilio i hyd a swyddogaeth telomer yn DNA y tiwmor ymhlith cleifion â chanser y pen a’r gwddf a chleifion â chanser yr ysgyfaint, gan gynnwys ei gysylltiad â chanlyniadau clinigol. Mae ei hymchwil hefyd yn archwilio deinameg telomerau lewcocyt dilyniannol ymhlith cleifion sy’n cael radiotherapi dos uchel diffiniol neu gynorthwyol ar gyfer canser y pen a’r gwddf.

Dr Arron Lacey
Mae Dr Arron Lacey yn Uwch-ddarlithydd Biowybodeg Canser a Gwyddor Data sy’n canolbwyntio ar iechyd poblogaethau yn SAIL Databank a genomeg canser yn y grŵp ymchwil Bioleg Atgenhedlu ac Oncoleg Gynaecolegol ym Mhrifysgol Abertawe. Ffocws cyffredinol ei ymchwil yw helpu i bontio genomeg canser ac iechyd poblogaethau ar raddfa fawr, ac mae’n gweithio ar atebion technolegol a strategol i gyfuno data aml-foddol (delweddu, profi genetig drwy Wasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan) er mwyn creu Adnodd Data Cenedlaethol ar gyfer Canser yn SAIL Databank.

Dr Agisilaos Zerdelis
Mae Dr Zerdelis yn gofrestrydd arbenigedd ar gyfer haematoleg yn Ne Cymru ac yn gymrawd ymchwil ar dreialon canser cyfnod cynnar. Mae’n gwneud ymchwil labordy ym maes lewcemia myeloid acíwt, ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn gwahaniaethu celloedd myeloid yn strategaeth newydd ar gyfer trin lewcemia

Dr Kate Milward
Mae Dr Milward yn ymchwilydd ôl-ddoethurol yn nhîm y Labordy Imiwnotherapïau Firaol a Therapiwteg Ddatblygedig (VITAL) ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei hymchwil yn ceisio manteisio ar y cyfoeth o wybodaeth wyddonol ym meysydd ymchwil brechlynnau a firotherapi a’i defnyddio i drin canser

Dr Laura Baker
Swyddog Ymchwil a Gwyddonydd Data ym Mhrifysgol Abertawe yw Mae Dr Baker sy’n canolbwyntio ar iechyd y boblogaeth gan ddefnyddio data cenedlaethol sydd ar gael ym Manc Data SAIL. Nod ymchwil Mae Dr Baker yw tynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael gan ddefnyddio ffynonellau data canser a gesglir yn rheolaidd yng Nghymru, gan roi cipolwg ar wasanaethau canser a chanlyniadau i gleifion yng Nghymru.