Mae imiwno-oncoleg yn un o feysydd mwyaf cyffrous ymchwil canser modern. Mae arweinydd thema CReSt, yr Athro Awen Gallimore, yn esbonio sut y gallai arloesi yng Nghymru helpu i ddatgloi’r genhedlaeth nesaf o imiwnotherapïau.
Am flynyddoedd lawer, nid oeddem yn gwerthfawrogi pa mor bwerus y gall y system imiwnedd fod wrth ymladd canser. Credwyd oherwydd bod canser yn cynrychioli twf annormal mewn celloedd normal yn y corff, nad oedd y system imiwnedd yn sylwi arno mewn gwirionedd ac felly’n caniatáu iddo dyfu.
Ond yn ystod yr ychydig ddegawdau diwethaf, mae ymchwil wedi dangos bod y system imiwnedd yn gallu gweld canser mewn gwirionedd. Pan fydd canserau’n tyfu, maen nhw’n gosod rhwystrau ac yn defnyddio triciau clyfar i guddio eu hunain rhag sylw’r system imiwnedd. Y rhwystrau a’r cuddfannau hyn sy’n golygu na all y system imiwnedd wneud ei gwaith yn iawn.
Fel ymchwilwyr sy’n canolbwyntio ar imiwnotherapi, rydym yn ceisio canfod beth yw’r rhwystrau a’r cuddfannau hynny. Os gallwn eu deall, gallwn eu torri i lawr.
Drwy ddeall y wyddoniaeth sylfaenol hon, yn sydyn mae llu o bosibiliadau ar gael i wneud y defnydd gorau o’r system imiwnedd i gael gwell triniaethau canser. Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous newydd; mae’n rhywbeth yr ydym ond wedi dechrau ei ddeall mewn gwirionedd yn yr 20 mlynedd diwethaf. Rydym wedi sylweddoli mai ychydig iawn yr ydym ni’n ei ddeall o hyd.
Ond mae hyd yn oed y darn bach hwn wedi ein galluogi i wneud llawer. Ni allwn ond dychmygu’r hyn sydd ar ôl i’w ddeall a’r hyn y gallai hynny ei ddatgloi o ran triniaethau newydd sy’n achub bywydau.
Yng Nghymru mae llawer o waith yn cael ei wneud i ddeall yr hyn y mae’r system imiwnedd yn ei ‘weld’ yng nghyd-destun imiwnotherapi llwyddiannus. Pa ddarnau o gelloedd canser y mae’r system imiwnedd yn eu hadnabod? Sut gallwn ni chwalu’r rhwystrau a’r cuddfannau fel y gellir lladd canser? Un llwybr cyffrous yw datblygiad yr hyn a elwir yn ‘feirysau clyfar’ sy’n cael eu creu yn labordy’r Athro Alan Parker. Ar un adeg yn achosi clefydau, nid yw’r ‘feirysau clyfar’ hyn yn cael eu creu i’n gwneud yn sâl, ond yn hytrach i hela a heintio celloedd canser. Wrth wneud hynny, maent yn cael gwared ar y dulliau y mae’r celloedd canser hyn yn eu mabwysiadu i ‘guddio’ o’n system imiwnedd. Mae’r firysau hyn, a ddatblygwyd yng Nghaerdydd, ar y trywydd iawn i gael eu profi ar gleifion mewn treialon clinigol yn 2024.
Mewn dull gwahanol, mae’r Athro Andrew Godkin yn profi a ellir defnyddio cyffur, a ddefnyddir fel arfer ar gyfer cemotherapi, ar ddosau llawer is a llai gwenwynig er mwyn ysgogi’r system imiwnedd i gamau gwrth-ganser. Bydd yn dechrau astudiaeth gyda 500 o gleifion yng Nghaerdydd yn fuan, wedi’i hariannu gan Ymchwil Canser Cymru. Os bydd hyn yn gweithio, bydd yn agor posibiliadau cyffrous ar gyfer triniaethau effeithiol a rhad y mae’r corff yn eu goddef yn well, i atal canser y colon a’r rhefr rhag digwydd eto. Dim ond cwpl o enghreifftiau yw’r rhain o’r arloesi a’r astudiaethau newydd sy’n dod o Gymru, y gellir eu hecsbloetio ar gyfer y genhedlaeth nesaf o imiwnotherapïau.
Wrth i Strategaeth Ymchwil Canser Cymru (CReSt) ddatblygu, rydym am adeiladu ein proffil fel cyfranwyr arwyddocaol yn y maes imiwn-oncoleg. Ein ffocws fydd adeiladu mecanweithiau i gyflymu’r broses o fynd â’n hymchwil o’r labordy i’r clinig. Mae ein gwyddor darganfod yn gyffrous ac yn arloesol ac mae cleifion canser yn cael eu trin yma yng Nghaerdydd, felly rydym yn gobeithio cyflawni cyflymiad ymchwil ar draws y llwybr hwnnw yn yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Gobeithiwn y bydd CReSt yn helpu i adeiladu ein gweithlu ym maes imiwnoleg canser, fel y gallwn benodi mwy o ymchwilwyr clinigol ac anghlinigol ar ddechrau eu gyrfa, eu hintegreiddio i’r maes hwn a helpu i gyflymu’r broses honno o’r labordy i’r clinig.