Mewn cam arwyddocaol yn y frwydr yn erbyn tiwmorau ar yr ymennydd, mae Dr Mat Clement, ymchwilydd a ariennir gan Ganolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC), wedi derbyn Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol gan Elusen Tiwmor yr Ymennydd, sydd wedi cydnabod potensial ei brosiect ymchwil, sef ‘Manipulating T-cell immune responses in order to improve anti-Glioblastoma immunity.’
Mae Glioblastoma (GBM), yn fath ymosodol o ganser yr ymennydd na ellir ei wella ar hyn o bryd, ac mae’n glefyd heriol. Ymhlith y dewisiadau cyfredol o ran triniaeth mae llawdriniaeth, cemotherapi, a radiotherapi, ond yn aml, mae’r rhain yn annigonol, gan fod tiwmorau’n ailymddangos er gwaetha’r ymyrraeth ymosodol. Yn y cyd-destun hwn, mae ymchwil Dr Clement yn unigryw, gan ei bod yn ceisio gweddnewid methodolegau triniaeth drwy ddefnyddio dulliau arloesol o harneisio pŵer y system imiwnedd.
Ffocws ymchwil Dr Clement yw deall a thrin ymatebion celloedd T, sy’n elfennau hollbwysig yn system imiwnedd y corff, a hynny at ddibenion gwella eu gallu i wrthsefyll tiwmorau. Gan ddibynnu ar ei brofiad helaeth o astudio ymatebion imiwn y corff i heintiau firaol cronig a niwroddirywiad, mae Dr Clement yn dod â chyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd i’r prosiect ymchwil hwn. Nod ei ymagwedd rhyngddisgyblaethol yw ceisio cynnig cipolwg newydd ar y mecanweithiau sydd wrth wraidd datblygiad GBM a hefyd i fraenaru’r tir ar gyfer ymyriadau therapiwtig newydd.
Wrth ddiolch i WCRC am eu cefnogaeth, meddai Dr Clement, “Rwy’ ar ben fy nigon yn derbyn y Gymrodoriaeth hon, ac ni fyddai wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth y Ganolfan Ymchwil Canser Cymru a’u buddsoddiad. Mae’r Ganolfan wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fy ngyrfa ac rwy’n hynod ddiolchgar iddyn nhw am hynny.”
Meddai’r Athro Awen Gallimore, mentor Dr Clement, Cyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil y Brifysgol er Imiwnedd Systemau (SIURI) ac arweinydd ar thema Imiwno-oncoleg y WCRC: “Mae Mat mewn sefyllfa unigryw i fanteisio ar ei brofiad ymchwil wrth iddo astudio’r rhan y mae celloedd-T yn ei chwarae mewn Glioblastoma, a bydd yn cyd-weithio ag ymchwilwyr, imiwnolegwyr a niwrowyddonwyr o safon fyd-eang ym maes canser yr ymennydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n adnabyddus am ei ddull trawsddisgyblaethol a chydweithredol o weithio, ac mae’n cael ei gydnabod yn eang i fod yn un o sêr y dyfodol. Mae ei brosiect yn ymdrin â maes ymchwil newydd sbon, sy’n adeiladu ar ei waith blaenorol ym maes haint firaol a chlefyd Alzheimer. Mae’n beth cyffrous ei fod yn gallu dod â’r darganfyddiadau hyn i ymchwil canser yr ymennydd.”
Meddai’r Athro Mererid Evans, Cyfarwyddwr CCYC: “Mae’r hyn sydd wedi’i gyflawni gan Dr Mat Clement yn destun balchder arthurol i CCYC. Rydyn ni’n wirioneddol falch ohono, ac mae’r tîm i gyd yn ymuno â mi i’w longyfarch. Mae Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol, o’r fath hon, yn crynhoi ein dyheadau ar gyfer ein hymchwilwyr a ariennir. Mae llwyddiant Mat yn enghraifft ddisglair o’r ddawn rydyn ni’n anelu at ei meithrin a’i chefnogi ar hyd a lled Cymru. Rydyn ni’n edrych ymlaen at fwrw ati â’n cenhadaeth o rymuso ymchwilwyr o’r safon uchaf fel Mat yn y dyfodol.”