Aeth Sarah Peddle a Bob McAlister, partneriaid ymchwil o Ganolfan Ymchwil Canser Cymru i ymweld â Phrifysgol Abertawe yn ddiweddar i gyflwyno i gynulleidfa o ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa Cafodd y sesiwn ei chynnal gan weithgor ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddorau Bywyd, yn y Sefydliad Gwyddor Bywyd.
Canolbwynt y cyflwyniad oedd Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd fel y mae’n cael ei ymarfer yn y Ganolfan Ymchwil Canser Cymru, yn ogystal â thrin a thrafod profiadau eang Cynnwys y Cleifion a’r cyhoedd a chlywon ni hefyd gan ddau bartner ymchwil y Ganolfan Ymchwil Canser Cymru am eu profiadau eang. Y pynciau allweddol a gafodd eu trafod oedd Safonau’r Deyrnas Unedig ar gyfer Cyfranogiad y Cyhoedd (UKSPI), sef canllawiau a gafodd eu datblygu gan Bob McAlister tra’r oedd yn aelod o’r cyhoedd. Fe dynnodd Sarah Peddle sylw hefyd at ei chysylltiadau cyfranwyr cyhoeddus â Banc Data SAIL, sydd wedi ei leoli ym Mhrifysgol Abertawe.
Cafodd y digwyddiad, a drefnwyd gan Dr Laura Thomas, cydlynydd gweithgareddau datblygu ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ym Mhrifysgol Abertawe, ei drefnu mewn ymateb i gais gan grŵp o ymchwilwyr ar ddechau eu gyrfa ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd Dr Thomas yn falch o groesawu’r Partneriaid Ymchwil fel ymwelwyr, gan fod yr hyn oedd ganddyn nhw i ddweud am fanteision o gynnwys y cyhoedd mewn gwaith ymchwil yn ddisgwyliedig iawn.
Yn ogystal â thrafod gwerth cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil, cafodd y rhai a oedd yn bresennol adnoddau a chymorth gan Bob a Sarah am ymholiadau sy’n ymwneud â chynnwys y cyhoedd, gan gynnwys y Ganolfan Gymorth a Chyflawni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Cafodd y sesiwn groeso da, gan bwysleisio ymrwymiad Partneriaid Ymchwil y Ganolfan Ymchwil Canser Cymru i drafod eu gwaith ac effaith ehangach Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd mewn ymchwil.
Dywedodd y Partner Ymchwil Bob McAlister “Fel Partneriaid Ymchwil y Ganolfan Ymchwil Canser Cymru, rydyn ni’n awyddus i fod mewn cysylltiad ag ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa er mwyn rhannu’r manteision a’r materion ymarferol o gynnwys y cyhoedd gyda nhw, felly roedd y sesiwn yn addas i’r ddau ochr. Teimlad gwych oedd cael bod ymhlith y rhai oedd ar ddechrau eu gyrfaoedd ymchwil ysbrydoledig, ac i gael rhagor o wybodaeth am y gwaith gwych sy’n digwydd ar hyd a lled Cymru.”