Mae Dr Agisilaos Zerdelis, ymchwilydd yng Nghanolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC), wedi bod wrthi’n adolygu ac asesu’r treial clinigol diweddaraf gyda’r nod o drin amlmyeloma, math o ganser y gwaed sy’n heriol i’w drin.
Mae’r treial, a elwir yn MonumenTAL-6, bellach wedi cofrestru ei ddau glaf cyntaf. Mae’n profi cyfuniad newydd o gyffuriau a allai gynnig gobaith i gleifion sydd wedi cael ailwaeliad o’u canser neu mae eu canser yn gwrthod ymateb i driniaethau cyfredol.
Mae amlmyeloma yn ganser y gwaed sy’n effeithio ar gelloedd plasma yn y mêr esgyrn. Er bod triniaethau yn bodoli, mae’r canser yn aml yn dychwelyd (ailwaelu) neu’n gwrthod ymateb i driniaethau sydd ar gael, gan ei gwneud yn fwyfwy anodd ei drin. Mae angen opsiynau triniaeth newydd ar frys ar gyfer cleifion yn y camau hyn.
Mae MonumenTAL-6 yn ymchwilio i gyfuniad o feddyginiaethau wedi’u cynllunio i helpu’r system imiwnedd ymladd ag amlmyeloma yn well. Mae talquetamab, un o’r cyffuriau sy’n cael eu profi, yn gweithio trwy roi hwb i allu’r system imiwnedd i adnabod ac ymosod ar y canser. Mae’n cael ei gyfuno â pomalidomide, triniaeth myeloma sefydledig, neu teclistamab, cyfrwng newydd a allai wella ei effaith imiwnedd ymhellach. Meddyginiaeth arall a fydd yn opsiwn triniaeth i rai o’r cleifion yw elotuzumab, sef gwrthgorff monoclonaidd gydag effaith gwrth-myeloma sefydledig.
Dywedodd Dr Zerdelis “Mae treial MonumenTAL-6 yn ddatblygiad pwysig yn y broses o ddod o hyd i driniaethau myeloma sydd ar fin taflu goleuni ar agweddau o’r maes critigol hwn heb eu hadnabod o’r blaen. Yn WCRC, rydyn ni eisoes wedi cychwyn recriwtio cleifion, ac mae rhagor o gleifion yn y broses o gofrestru ar hyn o bryd. Mae ein tîm yn canolbwyntio ar sicrhau profiad di-dor i’r rhai sy’n cymryd rhan, gan gynnig gofal a chymorth eithriadol. Ymhlith ein blaenoriaethau mwyaf mae cynnig gofal a gwasanaethau o’r safon uchaf, ynghyd â rhagoriaeth ymchwil ac ymrwymiad diddiwedd i ddiogelwch pawb sy’n cymryd rhan. Mae tosturi yn parhau i fod yn gonglfaen ein hymarfer, gan wella’r gofal canser arbenigol rydyn ni’n ei gynnig i’r cleifion unigryw hyn.”
Prif amcan y treial yw gwerthuso pa mor effeithiol yw’r cyfuniad o gyffuriau hwn wrth reoli’r canser a’i atal rhag gwaethygu. Mae ymchwilwyr hefyd yn edrych ar ba mor hir y mae cleifion yn byw ar ôl triniaeth a pha mor dda y maen nhw’n goddef y cyfuniad newydd o gyffuriau.
Ar gyfer cleifion â myeloma ymledol y mae eu canser yn gwrthod ymateb i driniaethau eraill, mae MonumenTAL-6 yn cynnig datblygiad pwysig posibl. Os yw’n llwyddiannus, gallai’r dull newydd hwn cynnig opsiwn triniaeth hanfodol i’r rhai nad oes ganddyn nhw lawer o ddewisiadau o ran triniaeth. Gyda’r cleifion cyntaf bellach yn cymryd rhan, mae ymchwilwyr yn obeithiol ynghylch yr effaith bosibl y gallai’r treial hwn ei chael ar drin amlmyeloma yn y dyfodol.