Mynd i'r cynnwys

Meddalwedd genomeg newydd yn rhoi hwb i ymchwil canser

Delwedd wedi’i chwyddo i mewn gan GW yn dangos amrywiad adeileddol genomig. Mae darlleniadau lliw coch yn nodi segment sydd wedi’i ddileu yn y claf hwn sy’n gorgyffwrdd â genyn a ddangosir yn y panel isaf.

Mae ymchwilydd yn Nghanolfan Ymchwil Canser Cymru, Dr Kez Cleal a’i dîm, wedi cyhoeddi teclyn arloesol o’r enw Genome-Wide (GW), meddalwedd arloesol sydd wedi’i gynllunio i drawsnewid sut mae gwyddonwyr yn gweld ac yn dadansoddi data genomig. 

Mewn cyn-argraffiad diweddar sydd wedi’i gyhoeddi ar bioRxiv o’r enw “GW: Ultra-Fast Chromosome-Scale Visualisation of Genomics Data,” mae’r feddalwedd yn cael ei chymharu â “Google Earth” i faes genomeg, ac mae’n caniatáu i ymchwilwyr drin a thrafod setiau data enfawr gyda chyflymder digynsail.

Mae GW yn gallu prosesu dros 100 gwaith yn gynt nag offer presennol, sy’n rhoi mantais sylweddol i wyddonwyr wrth iddyn nhw ddadansoddi data genetig cymhleth. Mae’r datblygiad arloesol hwn yn arbennig o bwysig ym maes ymchwil canser, lle mae deall newidiadau strwythurol ar raddfa fawr yn y genom yn allweddol i ddatgloi’r mecanweithiau sy’n sail i’r clefyd.

Dywedodd Dr Cleal: “Gyda GW, rydyn ni’n gallu gweld newidiadau ar raddfa genom mewn ffordd deinamig, sy’n rhoi’r gallu i ni edrych a deall strwythurau genetig cymhleth mewn ffyrdd nad oedd yn bosibl o’r blaen. Bydd hyn yn arwain at ymchwil canser mwy effeithlon, sy’n ein helpu ni i nodi marcwyr diagnostig posibl a thargedau therapiwtig yn gyflym.”

Mae meddalwedd GW yn galluogi arsylwi’r newidiadau hyn mewn amser real, gan gyflymu tasgau ymchwil hanfodol. Mae tîm Dr Cleale bellach yn canolbwyntio ar ddau brif nod: datblygu offer diagnostig i helpu i adnabod a chategoreiddio cleifion â strwythurau genomig annormal, ac ymchwilio i’r mecanweithiau biolegol sy’n gyrru’r newidiadau hyn. Eu nod yn y pen draw yw ystyried ffyrdd newydd o dargedu’r prosesau hyn at ddibenion trin canser.

Gallai’r teclyn arloesol hwn roi hwb sylweddol i faes astudio canser, a gwella’r ffordd y mae ymchwilwyr yn ymdrin â diagnosis a therapïau posibl.