
Mae dau ymchwilydd o Ganolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC), Dr Mat Clement a Dr Carly Bliss, wedi derbyn Gwobrau Springboard Academi’r Gwyddorau Meddygol (AMS). Mae’r grantiau hyn yn rhoi hyd at £125,000 dros ddwy flynedd, ynghyd â phecyn cymorth gyrfaol wedi’i deilwra, i gynorthwyo gwyddonwyr biofeddygol newydd- annibynnol i lansio eu gyrfaoedd ymchwil.
Mae Dr Carly Bliss yn Ddarlithydd ym maes Imiwnoleg Canser ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ddatblygu therapïau canser cyn-glinigol sy’n defnyddio adenofirysau. Mae ei hymchwil yn cynnwys dulliau gwahanol o harneisio ac ailgyfeirio celloedd T gwrthfeirysol yn erbyn canser. Ar ben hynny, mae’n edrych ar strategaethau ar gyfer brechlynnau canser sy’n defnyddio fectorau newydd yn seiliedig ar seroteipiau adenofeirws prin i ysgogi imiwnedd yn erbyn tiwmorau.
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Dr Bliss:
“Rydw i wrth fy modd bod Academi’r Gwyddorau Meddygol yn cefnogi fy ymchwil, a braint yw bod ymhlith y gwyddonwyr rhagorol sydd hefyd wedi cael y gefnogaeth hon. Bydd y wobr yn fy ngalluogi i ehangu fy ngrŵp ymchwil ac edrych ar ffyrdd newydd o fynd i’r afael â chanser drwy ddefnyddio feirysau i ysgogi’r system imiwnedd. Mae’r ymchwil hon yn targedu canser y pancreas a chanserau’r pen a’r gwddf ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rwy’n gobeithio ehangu ein dulliau imiwnotherapiwtig i gynnwys ystod eang o diwmorau solet yn y tymor hir. Mae cefnogaeth ddiwyro Canolfan Ymchwil Canser Cymru i’m hymchwil wedi bod yn hollbwysig wrth ehangu data rhagarweiniol allweddol a gweithio tuag at ennill y wobr fawreddog hon gan Academi’r Gwyddorau Meddygol.”
Nod gwaith Dr Mat Clement, sy’n Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil Canser Cymru, yw nodi rheoleiddwyr allweddol sy’n dylanwadu ar swyddogaeth celloedd T mewn glioblastoma. Drwy ddefnyddio trawsgrifiomeg ofodol o diwmorau ffres, mae’n dadansoddi rhannau o’r corff lle mae’r system imiwnedd yn wan neu’n cael ei hatal, o’u cymharu â’r rhannau hynny lle na chaiff imiwnedd ei atal, cyn mynd ati i gynnal profion arnynt. Nod y gwaith yw llywio’r gwaith o ddylunio imiwnotherapïau mwy effeithiol ar gyfer glioblastoma.
Dywedodd Dr Clement:
“Rydw i ar ben fy nigon fy mod wedi cael y grant hwn gan Academi’r Gwyddorau Meddygol. Bydd yr arian yn fy ngalluogi i ymchwilio i rai o’r prif resymau pam mae gan Glioblastoma (GBM) rwydd hynt i dyfu heb unrhyw beth i’w atal yn yr ymennydd. Mae Glioblastoma yn ganser yr ymennydd na ellir ei drin ac mae’n un o’r canserau sydd â’r cyfraddau goroesi isaf. Gyda lwc, bydd hyn yn llywio ffyrdd newydd a fydd yn fy ngalluogi i ddylunio imiwnotherapïau mwy effeithiol ar gyfer GBM a rhoi gobaith newydd i gleifion sydd â’r clefyd dinistriol hwn. Rwy’n hynod ddiolchgar i Ganolfan Ymchwil Canser Cymru a’m harianwyr eraill sydd wedi caniatáu i mi gynhyrchu’r data rhagarweiniol sydd ei angen i gael y wobr fawreddog hon.”
Yn ogystal â’r grant ariannol, mae’r rhai sy’n ei derbyn y wobr yn cael manteisio hefyd ar raglen fentora a datblygiad gyrfaol clodwiw yr Academi, gan feithrin partneriaethau a rhagor o gyfleoedd i ddatblygu eu gyrfaoedd.
Dyma oedd ymateb yr Athro Mererid Evans, Cyfarwyddwr WCRC, ar ôl clywed am y gwobrau:
“Rydw i mor hapus bod Dr Carly Bliss a Dr Mat Clement wedi derbyn y gwobrau AMS Springboard haeddiannol hyn. Mae eu llwyddiant yn dyst i’w hymroddiad a’u hymchwil arloesol ym maes imiwnotherapi canser. Mae tîm cyfan WCRC yn eithriadol o falch o’r hyn y maent wedi’i gyflawni.
Rydym hefyd yn falch bod cefnogaeth WCRC wedi chwarae rhan yn eu helpu i ennill y gwobrau hyn, gan roi sylfaen iddynt ehangu eu hymchwil a’u timau. Mae buddsoddi’n barhaus mewn seilwaith ymchwil yn hanfodol i hyrwyddo datblygiadau mewn triniaethau canser, ac edrychwn ymlaen at weld effaith eu gwaith yn y blynyddoedd i ddod.”