Mynd i'r cynnwys

Arloesi ym maes ymchwil canser: Canolfan Ymchwil Canser Cymru a Banc Bio Canser Cymru yn Symposiwm Therapïau Uwch Cymru 2025

*yn y llun o’r chwith i’r dde: Sarah Hughes, Uwch Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu, WCRC a Lisa Spary, Rheolwr Gweithrediadau, WCB

Ddydd Mercher 11 Mehefin 2025, roedd Canolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC) a Banc Bio Canser Cymru (WCB) yn falch o drefnu stondin ar y cyd yn Symposiwm Therapïau Uwch Cymru yng Nghampws y Bae, Prifysgol Abertawe. Daeth y trydydd symposiwm blynyddol hwn ag ymchwilwyr, clinigwyr, partneriaid byd diwydiant a chynrychiolwyr cleifion ynghyd am ddiwrnod llawn trafodaethau ar droi therapïau uwch o’r labordy yn atebion yn y byd go iawn sy’n gwella cleifion.

Siaradodd tîm y Ganolfan â phobl o bob rhan o faes therapïau uwch a ymwelodd â’r stondin, gan ddangos sut mae themâu ymchwil CReSt yn llywio ac yn gwella’r gwaith o ddatblygu strategaethau therapiwtig newydd. Fe wnaethon ni hefyd dynnu sylw at sut mae’r Ganolfan yn ariannu ymchwilwyr addawol ac yn cefnogi prosiectau ar y cyd ledled Cymru er mwyn hybu rhwydwaith ymchwil cryf ym maes canser. 

Ar y cyd â ni, pwysleisiodd Banc Bio Canser Cymru ei rôl, sef un o fanciau bio canser mwyaf hirsefydledig y DU, ac esbonion nhw i ymwelwyr sut mae eu samplau a’u data biolegol o safon yn hollbwysig er mwyn datblygu therapïau uwch. Buon nhw hefyd yn trafod eu cynllun strategol newydd a’r llwybrau i ymchwilwyr gael defnyddio sbesimenau biolegol gwerthfawr.

Roedd y symposiwm yn gyfle delfrydol i godi ymwybyddiaeth o’r Ganolfan a chyfraniadau’r Banc Bio i faes therapïau uwch yng Nghymru. Cawson ni’r cyfle i drafod gyda chydweithwyr o’r byd academaidd a byd diwydiant, rhannu cynlluniau i roi’r cyfle i ymchwilwyr gael gafael ar adnoddau yn ogystal â meithrin partneriaethau at y dyfodol. Roedd y digwyddiad yn cadarnhau ein hymrwymiad cyffredin i ehangu ymchwil o’r cam darganfod hyd at ei defnyddio’n glinigol, gan roi cleifion wrth wraidd byd arloesi.