
Yn ddiweddar, fe wnaeth ymchwilwyr o Ganolfan Ymchwil Canser Cymru gynnal sesiwn ddiddorol a rhyngweithiol yn rhan o Ysgol Haf Ymddiriedolaeth Sutton – menter sydd â’r nod o ehangu mynediad i brifysgolion i ddisgyblion ysgol o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol sydd wedi derbyn graddau uchel.
Wedi’i chynnal ym Mhrifysgol Caerdydd, mae Ysgol Haf Ymddiriedolaeth Sutton yn cynnig blas ar fywyd prifysgol i ddisgyblion Blwyddyn 12 trwy weithdai academaidd, teithiau o amgylch y campws a gweithgareddau cymdeithasol. Mae’r rhaglen yn rhoi cipolwg gwerthfawr i unigolion ar wahanol feysydd pwnc, gan eu helpu i feithrin hyder a dyheadau ar gyfer addysg uwch.
Yn rhan o faes gwyddorau bywyd, arweiniodd ymchwilwyr Canolfan Ymchwil Canser Cymru, Dr Mat Clement, Dr Jaya Vangara, a Dr Kate Liddiard sesiwn ryngweithiol ar ymchwil canser. Hwylusodd pob ymchwilydd weithgareddau mewn grwpiau bach, gan roi cipolwg agos i ddarpar fyfyrwyr meddygol ar yr amrywiaeth o ddulliau a ddefnyddir i drin canser.
Ymhlith yr uchafbwyntiau roedd ymarfer echdynnu DNA o fefus, lle defnyddiodd y disgyblion gynhwysion o’r cartref i ynysu DNA go iawn – ffordd hwyliog a hygyrch o wneud bioleg foleciwlaidd yn gliriach ac yn haws i’w ddeall. Roedd y sesiwn hefyd yn cynnwys gêm diagnosis meddygol, gan herio’r disgyblion i ddatrys posau clinigol a thrin a thrafod sut mae ymchwil yn effeithio ar benderfyniadau gofal iechyd.
Sbardunodd y dull rhyngweithiol hwn drafodaeth, meddwl beirniadol, a gwerthfawrogiad dyfnach o effaith gwyddoniaeth yn y byd go iawn. Drwy gyfuno dysgu gweithredol ag ymchwil ddilys, helpodd tîm Canolfan Ymchwil Canser Cymru ddisgyblion i ddychmygu dyfodol ym maes gwyddoniaeth fiofeddygol, gan gefnogi cenhadaeth Ymddiriedolaeth Sutton i wneud addysg uwch yn fwy hygyrch a chynhwysol.
Dywedodd Dr Mat Clement, Ymchwilydd Canolfan Ymchwil Canser Cymru: “Roedd gan bob disgybl ddiddordeb mawr yn yr hyn yr oedden ni’n ei wneud ac roedd hon yn sesiwn hynod ddiddorol. Roedd yn lot o hwyl – roedd clywed chwerthin o’r ‘bwrdd mefus’ yn wych; dangosodd faint roedden nhw’n mwynhau eu hunain. Mae digwyddiadau fel hyn mor bwysig, nid yn unig i rannu’r hyn rydyn ni’n gwneud fel ymchwilwyr, ond i ddangos i ddisgyblion bod gwyddoniaeth yn faes sy’n hygyrch i bawb.”