Mynd i'r cynnwys

Cymorth Cynnwys y Cyhoedd ar gyfer ceisiadau cyllid ymchwil canser galwad byr

Oes gennych chi ddyddiad cau cyllido yn agosáu? A oes angen cyfraniad y cyhoedd arnoch wrth ysgrifennu cynnig ac adolygu dogfennau cleifion?

Nid dim ond rhywbeth ‘dymunol’ yw cynnwys y cyhoedd mewn ceisiadau am gyllid ar gyfer prosiectau ymchwil. Y dyddiau hyn, mae cyllidwyr yn awyddus i weld tystiolaeth o safbwyntiau cyhoeddus drwy gydol y cylch ymchwil, o’r diwrnod cyntaf. Ond weithiau mae galwadau cyllidwyr am geisiadau yn digwydd yn gyflym iawn, sy’n ei gwneud yn fwy o her i recriwtio aelodau o’r cyhoedd i gymryd rhan mewn ymchwil. Dyma lle gall y Grŵp Ymateb Cyflym helpu.

Mae’r Grŵp yn ffordd o gael mynediad at grŵp o bobl â phrofiad o ganser a all ymateb yn gyflym i alwadau am fewnbwn ym mwletin Cynnwys y Cyhoedd wythnosol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Wedi’i sefydlu gan Ganolfan Ymchwil Canser Cymru, sy’n cael ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae’r grŵp yn cynnig proses garlam i recriwtio aelodau cyhoeddus. Cyflawnir hyn drwy grŵp o ddeg o gleifion a gofalwyr â phrofiad o ganser sy’n barod i ymateb yn gyflym pan fydd angen cymorth ar ymchwilwyr.

Mae gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyllid ar gael i dalu honoraria am gynnwys y cyhoedd wrth ddatblygu ceisiadau am gyllid ymchwil, fel yr argymhellwyd gan Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd.

Rhaid gwneud cais o hyd drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ond nod CYCC yw cynnig dewis o ymgeiswyr o fewn 2-3 wythnos.

Meddai Dr Ray Samuriwo, darlithydd yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Caerdydd: “Roedd gweithio gydag aelodau’r Grŵp Ymateb Cyflym ar fy nghais am grant yn bleser pur. Roeddwn i’n ddigon ffodus i weithio gydag ystod amrywiol o bobl, gyda phob un ohonynt yn dod â’u harbenigedd unigryw i’r prosiect arfaethedig.”

I gael gwybod mwy am y grŵp a sut i wneud cais am help gyda’ch ymchwil, cysylltwch â Zoe Evans trwy EvansZ2@caerdydd.ac.uk. Dechreuwch y broses cyn gynted â phosibl er mwyn cael y cymorth sydd ei angen arnoch cyn dyddiadau cau’r cyflwyniad.