
Ar 26 Tachwedd, cyflwynodd Dr Joanna Zabkiewicz (Arweinydd Academaidd Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd Canolfan Meddygaeth Canser Arbrofol (ECMC) Caerdydd) a Julie Hepburn (Arweinydd Lleyg Strategol ECMC/Canolfan Ymchwil Canser Caerdydd) weminar allweddol a ganolbwyntiodd ar sut y gall cynnwys y cyhoedd helpu ymchwil gyn-glinigol.
Nod y cyflwyniad hwn oedd rhoi rhagor o wybodaeth i ymchwilwyr cyn-glinigol a allai fod yn ddibrofiad o ran cynnwys y cyhoedd yn eu hymchwil.
Roedd y cyflwyniad yn esbonio beth yw ystyr cynnwys cleifion a’r cyhoedd ac yn tynnu sylw at y manteision posibl i ymchwilwyr, hyd yn oed pan allai eu hymchwil deimlo’n bell iawn o’r clinig. Mae’r manteision hyn yn cynnwys gwella ansawdd a pherthnasedd ymchwil, gwella cynlluniau ymchwil a sicrhau llwybr i gael effaith. Yn ogystal â hyn mae canlyniadau annisgwyl gwrando ar bobl sydd â phrofiadau bywyd, dod o hyd i syniadau newydd ar gyfer sut y gallai technoleg gael ei defnyddio mewn cyd-destun gwahanol a magu gwell dealltwriaeth o’r heriau y mae angen mynd i’r afael â nhw.
Roedd rhan o’r sesiwn yn canolbwyntio ar bryderon ymchwilwyr ynghylch cynnwys y cyhoedd a’u pryderon cyffredin. Roedd yr ymchwilwyr yn pryderu fwyaf ynghylch y ffaith nad ydyn nhw’n siŵr pa weithgareddau cynnwys y cleifion a’r cyhoedd sy’n addas. Roedden nhw hefyd yn credu bod yr ymchwil yn rhy gymhleth i’r cyhoedd ei deall ac y bydd yn anodd disgrifio’r manteision uniongyrchol i gleifion.
Ar gyfer pob un o’r heriau uchod, cynigiodd Joanna a Julie atebion penodol ond, mewn llawer o achosion, tynnodd hyn sylw at yr angen i gynnwys y cyhoedd yn gynnar er mwyn helpu i gynyddu dealltwriaeth a lleihau rhwystrau canfyddedig.
Mae llawer o gymorth ac adnoddau ar gael ar gynnwys y cleifion a’r cyhoedd a recriwtio cynrychiolwyr perthnasol, a hynny i’r rhai sydd am gynnwys y cyhoedd yn eu hymchwil am y tro cyntaf. Ewch i Cynnwys y cyhoedd yn eich ymchwil | Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.