Mynd i'r cynnwys

Datgloi grym y Pecyn Cymorth Cynnwys y Cyhoedd ym maes Effaith Ymchwil (PIRIT): Yr hynt a wnaed yn yr Astudiaeth SERENITY drwy Gynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd

Nod yr Astudiaeth SERENITY, sef prosiect Ewropeaidd Horizon arloesol, yw chwyldroi’r gefnogaeth a gynigir o ran gwneud penderfyniadau ar gyfer clinigwyr, cleifion â chanser datblygedig a’u gofalwyr.

Wrth galon y prosiect hwn yw’r Tîm Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd (PPI) ym Mhrifysgol Caerdydd: Yr Athro Anne Marie Nelson, Dr Michelle Edwards, Dr Elin Baddeley a Dr Kathy Seddon. Yn rhan o’u strategaeth o gynnwys y cleifion a’r cyhoedd ar draws chwe phecyn gwaith o bwys, maent wrthi’n ymgymryd â’r gwaith o ymgorffori’r pecyn cymorth PIRIT (Teclyn Asesu Cynnwys y Cyhoedd ym maes Effaith Ymchwil) yn strategol.

Llywio’r drafodaeth

I roi cychwyn ar y drafodaeth, gwnaeth grŵp o gyfranwyr cyhoeddus o’r DU gymryd rhan weithredol mewn dau weithdy. Gan ffocysu ar ganfyddiadau a ddaeth yn sgil adolygiad realaidd o’r llenyddiaeth ar wneud penderfyniadau a rennir a’r broses raddol o leihau rhagnodi presgripsiynau yng nghyd-destun gofal diwedd oes, aeth y cyfranwyr ati i gyflwyno a rhannu eu cipolygon gwerthfawr.

Yn y gweithdy cyntaf, bu i’r cyfranwyr gymryd rhan mewn trafodaethau ar wella cyfathrebu rhwng meddygon, cleifion a theuluoedd, a hynny yng nghyd-destun pontio i ofal cysur. Ymhlith y pwyntiau allweddol ac arwyddocaol a bwysleisiwyd yn ystod y trafodaethau oedd cyfathrebu’n effeithiol, amseru sgyrsiau hanfodol mewn modd call, ac ystyried yr hyn sydd orau gan unigolion ar lefel bersonol a sensitifrwydd diwylliannol. Daeth y cipolygon gwerthfawr hyn a grybwyllwyd yn rhan ganolog o’r dadansoddiad dilynol ar yr adolygiad realaidd.

Yn yr ail weithdy, gwnaeth y cyfranwyr gyfoethogi’r broses ymhellach drwy adolygu a darparu sylwebaeth feddylgar ar y theori a ddatblygwyd ar sail canfyddiadau’r adolygiad. Sicrhaodd y dull cydweithredol hwn mai rhan annatod a gafodd safbwynt y claf a’r cyhoedd wrth lunio hynt y prosiect.

Dyma a ddywedodd Kathy Seddon, Partner Ymchwil yn y Prosiect Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd (PPI):

“Roedd yn brofiad hynod ddiddorol i gael clywed canfyddiadau cychwynnol yr adolygiad realaidd. Gwnaeth y grŵp ymgysylltu â’r rhain yn fawr gan gynnig cipolygon gwerthfawr inni ar eu profiadau byw eu hunain. Roedd safbwynt y cleifion ar y sgyrsiau â gweithwyr gofal proffesiynol wedi ychwanegu ehangder a helaethrwydd i’r canfyddiadau”. 

Ymgysylltu’n effeithiol mewn cyfweliadau ansoddol

Mae’r Astudiaeth SERENITY hefyd wedi olrhain yr effaith y mae cynnwys y cyhoedd yn ei chael o fewn pecyn gwaith, gan ganolbwyntio ar gyfweliadau ansoddol a oedd yn treiddio i brofiadau clinigwyr a chleifion o’r penderfyniadau a wneir o ran meddyginiaethau gwrththrombotig. Bu’r cyfranwyr chwarae rhan hanfodol wrth adolygu gwybodaeth yr unigolion a gymerodd ran, y canllawiau cynnal cyfweliadau, a themâu cychwynnol a ddeilliwyd o ddata’r cyfweliadau. Gwnaeth eu mewnbwn yn yr astudiaeth hon sicrhau y talwyd sylw digonol at y rôl bwysig y mae gofalwyr yn eu chwarae wrth wneud penderfyniadau, i gyd tra’n ceisio tawelu meddyliau cyfranogwyr rhag iddynt deimlo eu bod yn cael eu gorlethu â chwestiynau.

PIRIT ar waith: ymgysylltu â phanel defnyddwyr y Gronfa ddata Cysylltu Gwybodaeth Ddienw a Diogel (SAIL)

Mae PIRIT bellach yn chwarae rhan allweddol mewn gweithgaredd sydd ar y gweill â phanel defnyddwyr SAIL ym Mhrifysgol Abertawe. Nod yr ymgysylltiad hwn yw casglu barn y panel ar ddata epidemiolegol a gasglwyd gan garfan o gleifion canser yng Nghymru. Bydd y data hwn, sy’n rhan o becyn gwaith SERENITY arall, yn cyfrannu’n sylweddol at lywio’r gwaith o ddatblygu a gwerthuso’r teclyn asesu gwneud penderfyniadau a rennir. Ymgysylltodd y panel SAIL yn frwdfrydig â SERENITY, ac fe wnaeth y drafodaeth ysgogi ac ennyn rhai syniadau gwych ar gamau nesaf y prosiect, megis y posibilrwydd o ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn y teclyn gwneud penderfyniadau.

Edrych i’r dyfodol: PIRIT a Dyfodol yr Astudiaeth SERENITY

Wrth i’r Astudiaeth Serenity fynd rhagddi, bydd PIRIT yn bwrw ati i helpu i lywio ac arwain yr ymchwil. Ymhlith y cynlluniau ar gyfer y dyfodol y mae defnyddio PIRIT mewn astudiaeth Consensws Delphi er mwyn penderfynu ar yr hyn y bydd yn cael ei gynnwys yn y teclyn gwneud penderfyniadau a rennir. Bydd y cyfranwyr cyhoeddus yn weithredol wrth ddatblygu cydrannau ar gyfer y teclyn, ac yn cymryd rhan yn y broses o’u gwerthuso drwy hapdreial rheoledig.

Ar ddiwedd yr astudiaeth, bydd adroddiad cynhwysfawr yn cael ei roi i’r tîm PIRIT, gan dynnu sylw at y defnydd strategol o PIRIT a’i effeithiolrwydd wrth wella cyfranogiad y cleifion a’r cyhoedd yn yr Astudiaeth SERENITY. Mae’r dull newydd hwn nid yn unig yn ail-lywio’r tirwedd ym maes ymchwil canser ond hefyd yn gosod cynsail ar gyfer gwneud penderfyniadau ar y cyd mewn prosiectau ymchwil feddygol.  

Dyma a ddywedodd Kathy Seddon, Partner Ymchwil yn y Prosiect Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd (PPI): “Pleser gwirioneddol yw gweld a bod ynghlwm â’r prosiect yma ar y defnydd arloesol o PIRIT sy’n rhan o strategaeth SERENITY PPI. A minnau’n un o’i ddylunwyr, mae’n gyffrous cael gweld yr hyblygrwydd y mae’n ei gynnig ar waith.”

I lawrlwytho pecyn cymorth PIRIT, ewch i’r wefan