Mynd i'r cynnwys

Dathlu blwyddyn o PIRIT: trawsnewid ymchwil drwy gynnwys y cyhoedd

(Chwith) Bob McAlister, Partner Ymchwil WCRC, Dr Alisha Newman, Arweinydd Prosiect PIRIT, Dr Kathy Seddon, Partner Ymchwil WCRC (gwaelod ar y dde)

Mae Pecyn Cynnwys y Cyhoedd mewn Effaith Ymchwil (PIRIT) yn nodi blwyddyn ers ei lansio yng Nghynhadledd Marie Curie ym mis Chwefror 2023.

Nod yr adnodd rhad ac am ddim hwn a gynhyrchwyd ar y cyd yw helpu ymchwilwyr sy’n gweithio gyda’r cyhoedd i gynllunio sut i ymwneud ag ymchwil mewn modd ystyrlon, ochr yn ochr â helpu i olrhain a dangos y gwahaniaeth mae hynny’n ei wneud. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r pecyn cymorth nid yn unig wedi trawsnewid y ffordd y mae ymchwilwyr yn mynd i’r afael â chynllunio a gwerthuso sut mae’r cyhoedd yn cael eu cynnwys trwy ei ddull pragmatig, mae hefyd yn esiampl o gydweithio yn y gymuned ymchwil.

Partneriaethau PIRIT: Blwyddyn o gydweithio

Ffrwyth gwaith cydweithrediad rhwng Canolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC) a Chanolfan Ymchwil Marie Curie (MCRC) yw PIRIT. Mae’r prosiect wedi’i gynhyrchu gydag aelodau o’r cyhoedd ac yn enghraifft wych o bartneriaeth rhwng ymchwilwyr a’r cyhoedd. Mae saith ar hugain o gyfranwyr cyhoeddus i gyd, gan gynnwys pedwar sy’n aelodau o dîm y prosiect, sydd wedi cymryd rhan weithredol yn y gwaith o lunio PIRIT. Roedd eu gwaith yn amrywio o bennu hyd a lled prosiectau, dylunio cyfarpar, datblygu cynnwys a threialu, i ledaenu a llywio cynlluniau gweithredu.

Drwy gydol 2023, mae tîm PIRIT wedi canolbwyntio ar ymdrechion penodol i ymgysylltu, gan gyflwyno a thrafod gyda chynulleidfaoedd amrywiol trwy gyfrwng cynadleddau, cyflwyniadau, gweithdai, a digwyddiadau hyfforddi. Llwyddodd y gweithgareddau i gryfhau perthnasoedd sy’n bodoli eisoes yn ogystal â chreu rhai newydd gyda’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.

Ymgysylltu byd-eang a chymeradwyaeth genedlaethol

Mae PIRIT wedi mynd y tu hwnt i ffiniau gan ei fod wedi cael ei lawrlwytho ar dros 800 o achlysuron ar draws 14 o wledydd, o Awstralia i UDA. Mae hyn yn dangos y diddordeb eang yn y gwaith a pha mor weithgar yw’r cymunedau ymchwil a’r rhai sy’n cynnwys y cyhoedd. 

Mae arianwyr a rheoleiddwyr ymchwil, gan gynnwys Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR), a’r Awdurdod Ymchwil Iechyd, wedi cymeradwyo a hyrwyddo’r gwaith o ledaenu’r pecyn cymorth, gan gynnal gweminarau a gweithdai PIRIT, a’u cynnwys mewn blogiau, tudalennau adnoddau a mwy. Yn fwyaf nodedig, mae arianwyr ymchwil Marie Curie ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi ymgorffori PIRIT yn eu canllawiau ar gyfer gwneud cais am grant. 

Dywedodd Peter Gee, Uwch-reolwr Cynnwys y Cyhoedd yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: 

“Mae PIRIT yn hynod ddefnyddiol i ni yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae’n rhan o’n canllawiau i ymchwilwyr wrth wneud cais am gyllid ac mae’n gwneud yn siŵr bod cynnwys y cyhoedd yn rhan o bopeth a wnawn. Gall aelodau’r cyhoedd ac ymchwilwyr ei ddefnyddio’n rhwydd ac rydym yn edrych ymlaen at gael mwy o adborth ar sut mae wedi gweithio’n ymarferol, gan lywio ymchwil sy’n newid bywydau.”

Dywedodd Jim Elliott, Arbenigwr Cynnwys y Cyhoedd yn yr Awdurdod Ymchwil Iechyd:

“Mae PIRIT yn set syml o gyfarpar sydd wedi’i chynllunio’n dda ac yn seiliedig ar Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd. Gall helpu unrhyw sefydliad neu dîm ymchwil i gynllunio sut i gynnwys cleifion a’r cyhoedd yn ei weithgareddau ymchwil, a chofnodi’r effaith a geir ar y gweithgareddau hynny. Mae’n cyd-fynd yn berffaith ag amcanion menter partneriaeth Ymrwymiad ar y Cyd i Gynnwys y Cyhoedd mewn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ymgorffori cynnwys y cyhoedd fel elfen sefydledig ym mhob ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.”

Ymrwymiad ar y Cyd i Gynnwys y Cyhoedd – gweithdy ymrwymo i newid, 24 Ebrill 2023*

PIRIT ar waith

Mae ymchwilwyr yn defnyddio PIRIT yn gynyddol i’w helpu i gynllunio ymchwil ac arddangos yr effaith wirioneddol y mae cynnwys y cyhoedd yn ei chael. Mae’r pecyn cymorth o fudd i ymchwilwyr sydd â lefelau amrywiol o brofiad ym meysydd ymchwil a chynnwys y cyhoedd, ac mae’n llywio ystod eang o arferion. Eglurodd Alisha Newman, Arweinydd Gweithredu a Lledaenu PIRIT:

“Mae myfyrwyr PhD unigol a thimau ymchwil mawr fel ei gilydd yn defnyddio PIRIT. Mae ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa wedi rhoi adborth cadarnhaol ar yr Adnodd Cynllunio gan ei fod wedi eu helpu i lunio syniadau a thrafodaethau am weithgareddau cynnwys y cyhoedd. Mae hefyd wedi helpu i bennu costau eu grantiau yn fwy cywir, gan fod y ffigurau wedi’u seilio’n agosach ar yr hyn y mae’r cyhoedd yn debygol o fod yn rhan ohono ac unrhyw gymorth y gallai fod ei angen arnynt. Mae’r ffordd y defnyddir y Teclyn Olrhain yn esblygu hefyd, gan fod sawl canolfan ymchwil yn ei ddefnyddio i gofnodi effaith cynnwys y cyhoedd ar wneud penderfyniadau ar lefel canolfannau ac mewn astudiaethau unigol.”

Defnyddir PIRIT yn astudiaeth SERENITY sy’n canolbwyntio ar y defnydd o Therapi Antithrombotig mewn gofal diwedd oes. Mae’r astudiaeth €6m hon a ariennir gan Ymchwil ac Arloesedd Horizon Ewrop yn cynnwys dros hanner cant o ymchwilwyr a chlinigwyr o 8 gwlad ac 14 o sefydliadau ar draws Ewrop. Mae tîm Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd SERENITY yn defnyddio’r pecyn cymorth yn rhan o’u strategaeth cynnwys cleifion a’r cyhoedd ar gyfer yr astudiaeth ar draws 6 phecyn gwaith.

Dywedodd Dr  Michelle Edwards, Ymchwilydd WCRC ac Arweinydd Cynnwys y Cyhoedd ar gyfer astudiaeth SERENITY:

“Mae PIRIT wedi bod yn amhrisiadwy yn astudiaeth SERENITY hyd yma, gan roi cymorth hanfodol ar gyfer cynllunio a gwerthuso effaith gweithgareddau cynnwys y cyhoedd.”

Mae’r pecyn cymorth wedi dylanwadu ar astudiaeth COBra hefyd. Prosiect aml-gam yw hwn sy’n ceisio datblygu set o ganlyniadau craidd ar gyfer treialon tiwmor yr ymennydd. Defnyddiwyd y ddau declyn PIRIT yn ystod yr astudiaeth gan ymchwilwyr a’r cyhoedd a gymerodd ran i adolygu cynlluniau presennol a mapio gweithgareddau yn y dyfodol. Dywedodd Elin Baddeley, Cydymaith Ymchwil ar yr astudiaeth a ariennir gan Elusen Tiwmor yr Ymennydd: 

“Fe wnaeth defnyddio PIRIT helpu i sbarduno trafodaethau hanfodol, gan feithrin cyfleoedd amrywiol i gymryd rhan. Arweiniodd hyn at recriwtio pum aelod ychwanegol o’r cyhoedd, gan gyfoethogi datblygiad ein hastudiaeth a chael dealltwriaeth amhrisiadwy i wella profion a gynhelir mewn arolygon.”

Wrth fyfyrio ar daith PIRIT hyd yma, dywedodd Bob McAlister, aelod o’r cyhoedd yn nhîm PIRIT: 

“Ar ôl chwarae rhan bersonol yn natblygiad Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd, roeddwn yn ymwybodol o’r her a’r cyfle oedd yn dod yn sgîl y Safon Effaith. Mae PIRIT yn fap llwybr ac yn declyn ar gyfer deall, rhagweld a chofnodi’r gwahaniaeth y bydd cyfranwyr cyhoeddus yn ei wneud i’r daith ymchwil. Rwy’n annog eraill i roi cynnig arni.”

Cipolwg ar y dyfodol: camau nesaf PIRIT

Mae datblygiadau cyffrous o’n blaenau ar gyfer PIRIT, a bydd papur yn cael ei gyhoeddi am ei ddatblygiad a’i werthusiad. Mae’r map ffordd hefyd yn cynnwys cynllun ar gyfer lledaenu a gweithredu, yn ogystal â’r posibilrwydd o chwilio am gyllid ar gyfer gwerthusiad ehangach. Er mwyn ateb y galw cynyddol gan unigolion a sefydliadau am arddangosiadau PIRIT, bydd fideo o daith y pecyn cymorth a dogfen cwestiynau cyffredin yn cael eu hychwanegu at y dudalen ar y we.

Mae Alisha Newman, Arweinydd Prosiect PIRIT, yn edrych ymlaen at y dyfodol, a dywedodd:

“Mae llwyddiant PIRIT a’r effaith y mae wedi’i chael mewn blwyddyn yn unig yn wirioneddol ryfeddol. Pleser o’r mwyaf yw gweld ymchwilwyr a chyfranwyr cyhoeddus yn cofleidio’r pecyn cymorth. Wrth i ni edrych ymlaen, mae PIRIT yn parhau i yrru arferion gorau o ran cynnwys y cyhoedd a gwerthuso’r effaith. Bydd yn cynorthwyo cymunedau ymchwil i feithrin partneriaethau ystyrlon gyda’r cyhoedd i gyflawni ymchwil sydd o fudd gwirioneddol i’r cyhoedd.”

Mae modd lawrlwytho pecyn cymorth PIRIT yn rhad ac am ddim ac mae ar gael i bawb.

*Delwedd uchod: mynychwyr sesiwn PIRIT yn ymddangos o’r chwith i’r dde: Gail Johnson, former Programme manager R&D Division, Health and Social Care Northern Ireland, Simon Turpin, Policy Officer, Association of Medical Research Charities, Dan Wake, Policy Manager, Universities UK, Jim Elliott, Public Involvement Specialist, Health Research Authority, Margaret Grayson, Public Contributor, Health and Social Care Northern Ireland, Maryrose Brennan, Public Contributor, Chief Scientist Office Scotland, Alisha Newman, PIRIT Implementation and Dissemination Lead, Marie Curie Research Centre, Cardiff, Adam Goodyear, Senior Manager: Research Policy, Science Research and Evidence Directorate, Department of Health and Social Care, Alice Williams Head of Patient and Public Involvement (Innovation, Research and Life Sciences), NHS England, Peter Gee, Senior Public Involvement Manager, Health and Care Research Wales, Steve Scott, Public Engagement Manager,  UK Research and Innovation