
Gyda chefnogaeth gan Ganolfan Ymchwil Canser Cymru, mae ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd wedi derbyn cymrodoriaeth fawreddog i helpu i fynd i’r afael ag un o’r heriau mwyaf ym maes canser yr arennau: diagnosis cynnar.
Derbyniodd Dr Huw Morgan, biolegydd canser yn Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewrop, gwerth chwe mis o gyllid pontio gan Ganolfan Ymchwil Canser Cymru ym mis Hydref 2024. Gan adeiladu ar y gefnogaeth gynnar hon, mae bellach wedi derbyn Cymrodoriaeth Uwch Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i arwain prosiect tair blynedd newydd sy’n canolbwyntio ar ddatblygu prawf syml sy’n defnyddio wrin i ganfod canser yr arennau.
Canser yr arennau yw’r chweched canser mwyaf cyffredin yn y DU, ac mae nifer yr achosion yn cynyddu’n gyflym. Ond er gwaethaf hynny, mae’r maes yn parhau i gael ei danariannu ac nid oes digon o ymchwil iddo’n bodoli. Brawychus yw nodi bod bron i hanner y cleifion yn cael diagnosis hwyr, sy’n golygu bod opsiynau triniaeth yn gyfyngedig a chyfraddau goroesi yn gostwng yn sylweddol. Gall cael diagnosis cynnar arwain at gyfraddau goroesi sy’n fwy na 90%. Serch hynny, nid oes prawf diagnostig anymwthiol ar gael ar hyn o bryd.
Nod prosiect Dr Morgan yw newid hynny drwy ddilysu panel o fiofarcwyr mewn samplau wrin. Y nod yw cynhyrchu offeryn diagnostig hygyrch a chost-effeithiol y gellid ei ddefnyddio mewn meddygfeydd teulu, clinigau cymunedol, neu leoliadau gofal iechyd ehangach.
“Mae ein gwaith yn ymwneud â rhoi offeryn syml i glinigwyr a allai drawsnewid deilliannau i gleifion,” meddai Dr Morgan. “Drwy roi diagnosis cynnar o ganser yr arennau, gallwn achub bywydau.”
Yn ogystal â diagnosteg, mae labordy Dr Morgan yn archwilio bioleg datblygiad cynnar tiwmorau, gan ganolbwyntio’n arbennig ar rôl bôn-gelloedd canser a phoblogaethau o gelloedd sy’n achosi tiwmorau. Credir bod y celloedd hyn yn chwarae rhan allweddol wrth sbarduno ymwrthedd i driniaeth ac achosion sy’n dychwelyd, gan dynnu sylw at dargedau newydd posibl i therapïau yn y dyfodol.
Mae’r prosiect yn dwyn ynghyd tîm rhyngddisgyblaethol o glinigwyr, peirianwyr diagnostig, a phartneriaid y Banc Bio, gyda mewnbwn cryf gan gleifion a’r cyhoedd i sicrhau bod yr ymchwil yn diwallu anghenion y byd go iawn. Drwy alluogi canfod canser yn gynnar, mae Dr Morgan yn gobeithio y bydd y prawf yn lleihau anghydraddoldebau gofal iechyd ac yn gwella cyfraddau goroesi yn sylweddol.