Mynd i'r cynnwys

Galwad am ddatganiadau o ddiddordeb: Swyddi arweinyddiaeth mewn data genomig canser ar gyfer ymchwil yng Nghymru 

Mae Canolfan Ymchwil Canser Cymru yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb ar gyfer dwy swydd ran-amser am gyfnod penodol, i arwain gweithgarwch cydweithredol yng Nghymru sy’n sbarduno cynnydd o ran sicrhau bod data genomig canser ar gael ar gyfer ymchwil.

Rolau sydd ar gael:

– Swydd 1: Uwch-arweinydd Clinigol CreST ar gyfer ymchwil genomeg canser
Clinigydd / academydd clinigol / clinigydd anrhydeddus neu academydd clinigol anrhydeddus sy’n gweithio ym maes canser sydd â diddordeb mewn ymchwil a/neu brofiad o ymchwil a’r gwasanaeth genomeg glinigol (un diwrnod yr wythnos, Gradd D6).

– Swydd 2: Arweinydd academaidd CReSt ar gyfer ymchwil genomeg canser
Arbenigwr technegol/gwyddonol sydd â gwybodaeth arbenigol am ddefnyddio data genomig a dealltwriaeth o’r heriau llywodraethu gwybodaeth sy’n gysylltiedig â rhannu data genomig (hyd at ddau ddiwrnod yr wythnos, Gradd 8 Prifysgol Caerdydd neu gyfwerth mewn sefydliadau eraill). 

Mae’r ddwy swydd yn rhan-amser am gyfnod penodol hyd at ddiwedd 31 Mawrth 2025 ac ar gael o 1 Medi 2023.  

Croesewir y cyfle am secondiad – sylwer, os ydych yn aelod o staff Prifysgol Caerdydd neu’n aelod o sefydliadau eraill sydd â diddordeb yn y swydd hon fel rhan o secondiad, bydd yn rhaid i chi gael caniatâd eich rheolwr llinell presennol cyn gwneud cais.

Mae cyllid Canolfan Ymchwil Canser Cymru ar gyfer y swyddi hyn ar gael tan ddiwedd Mawrth 2025; gall union ddyddiad gorffen y swyddi fod yn gynt yn dibynnu ar radd/band yr unigolyn, er mwyn cyfateb i’r arian sydd ar gael. 

Cefndir i’r swyddi

Lansiwyd CreST, y strategaeth Cymru gyfan gyntaf ar gyfer ymchwil canser, yn 2022. Ei nod allweddol yw meithrin gallu a màs critigol o ymchwil o amgylch chwe thema, er mwyn cryfhau a chanolbwyntio’r sylfaen ymchwil yng Nghymru. Mae setiau data mawr, wedi’u curadu’n dda, yn adnodd sylfaenol allweddol a fydd yn cefnogi ymchwil i ddigwydd ym mhob thema. Mae llawer o randdeiliaid eisoes yn gweithio yn y maes hwn, rhai â ffocws ar ganser ac eraill â chylch gwaith ar draws y clefyd; bydd gwaith cydlynu’n hanfodol er mwyn sicrhau bod setiau data ar gael ac yn cael eu defnyddio mewn ymchwil. 

Cyhoeddwyd Cynllun Cyflawni Genomeg Cymru hefyd yn 2022, gan nodi uchelgeisiau i gynyddu’n sylweddol faint o waith dilyniannu genomau cyfan a phroffiliau profion genomig sy’n cael eu cynnal mewn lleoliad gwasanaeth. Mae’r data hwn yn gyfle ymchwil mawr ac mae blaengynllun strwythuredig ar gyfer buddsoddi mewn ymchwil yn mynd i fod yn hanfodol, yn ogystal â dull ‘Unwaith i Gymru’ i alluogi cydweithredu mewn gwaith ymchwil a chysylltiadau data i ddigwydd mewn modd effeithlon. Bydd angen i’r ateb alluogi tryloywder a safoni mynediad ochr yn ochr â diogelwch data ar gyfer data genomig y GIG mewn model sy’n bodloni ymchwilwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol a chleifion ynghylch sut y caiff y data hwnnw ei gyrchu a’i ddefnyddio ar gyfer ymchwil canser. 

Mae’r swyddi rhan-amser hyn wedi’u lleoli o fewn Canolfan Ymchwil Canser Cymru ac fe’u hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, i gataleiddio gweithredu CreST trwy ‘ddatgloi’ data mewn ffordd sy’n galluogi ymchwil canser yn y dyfodol. Bydd yr unigolion a benodir yn cymryd rhan flaenllaw wrth gydlynu, dylanwadu, cysylltu a hwyluso dull systemau o ddefnyddio data cleifion a phoblogaeth, yn enwedig data genomig a gesglir mewn lleoliad gwasanaeth. 

Gweithgareddau, allbynnau a chanlyniadau disgwyliedig

Bydd yr unigolion a benodir yn gweithio gyda’i gilydd, ac yn cysylltu’n agos â rhanddeiliaid, gan gynnwys Canolfan Ymchwil Canser Cymru, Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan, Partneriaeth Genomeg Cymru, arweinydd digidol Llywodraeth Cymru, Parc Geneteg Cymru, prosiect Amgylchedd Ymchwil Dibynadwy Canser, cronfa ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw, a rhanddeiliaid eraill. 

Bydd deiliaid y swyddi yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid i bennu’r llwybr a’r fframwaith llywodraethu y gall data genomig eu defnyddio i lifo i ymchwilwyr yng Nghymru, a sicrhau bod anghenion ymchwilwyr canser yn cael eu cynrychioli wrth ddatblygu cynlluniau gweithredu ar gyfer y Cynllun Cyflawni Genomig. 

Ar ddiwedd y cyllid, bydd disgwyl i ddeiliaid y swyddi allu dangos eu bod wedi cyflawni’r canlynol:

• Eglurder ynghylch y rhwystrau a’r atebion posibl o ran data genomig canser y GIG gan gleifion yng Nghymru yn cael ei wneud yn hygyrch ar gyfer ymchwil

• Llinellau deialog clir a chynhyrchiol rhwng uwch-gynrychiolwyr yn y gymuned ymchwil canser ac mewn sefydliadau yng Nghymru sydd â chylch gwaith data genomig

• Cydgrynhoad o gysylltiadau â mentrau data genomig mewn rhannau eraill o’r DU, ac eglurder ynghylch lle/sut y gall Cymru elwa ar y cysylltiadau hyn

Disgwylir i ddeiliaid y swyddi fod yn rhan o dîm arwain Grŵp Data Canser Canolfan Ymchwil Canser Cymru, sy’n cael ei sefydlu ar hyn o bryd, a bydd gan y grŵp gefnogaeth weinyddol gan dîm Canolfan Ymchwil Canser Cymru. Byddant hefyd yn cyfarfod bob mis yn fras gydag aelod o dîm arwain Canolfan Ymchwil Canser Cymru / CReSt, i ddarparu goruchwyliaeth o safbwynt ehangach CReSt, a byddant yn cyfrannu diweddariadau i adroddiadau chwarterol a diwedd blwyddyn Canolfan Ymchwil Canser Cymru i’r cyllidwr ac yn mynychu cyfarfodydd Pwyllgor Llywio Canolfan Ymchwil Canser Cymru / CReSt ddwywaith y flwyddyn ar gais. 

Y broses ymgeisio

Os hoffech wneud cais am Swyddi 1 neu 2, cyflwynwch ddatganiad o ddiddordeb yn disgrifio eich addasrwydd ar gyfer y rôl (datganiad o ddim mwy na 500 gair) ynghyd â’ch CV i DCG-HR@caerdydd.ac.uk erbyn 12pm canol dydd ar Dydd Llun 30 Hydref2023 fan bellaf.  Nodwch yn glir pa swydd(i) y mae gennych ddiddordeb ynddi/ynddynt. 

Am ymholiadau anffurfiol am y swyddi, cysylltwch â’r Athro Mererid Evans – e-bost: wcrc@caerdydd.ac.uk