Mae ymgysylltu â chymunedau amrywiol ym maes Cynnwys ac Ymgysylltu â Chleifion a’r Cyhoedd (CYCC) yn hollbwysig at ddibenion ymchwil ar ganser sy’n adlewyrchu anghenion pawb.
Serch hynny, yn aml mae poblogaethau megis grwpiau economaidd-gymdeithasol isel yn parhau i fod heb gynrychiolaeth ddigonol ym maes CYCC. Mae effaith gronnol amryw o rwystrau rhag ymgysylltu â CYCC (er enghraifft, rhwystrau o ran llythrennedd digidol, rhwystrau ariannol ac ieithyddol) yn gallu arwain at dangynrychioli grwpiau economaidd-gymdeithasol isel, gan gyfyngu ar gynwysoldeb ac effeithiolrwydd ymchwil. Isod, ceir rhai sylwadau ar wella amrywiaeth a chynhwysiant ym maes CYCC yn sgil cynnal gweithdai codi ymwybyddiaeth yng nghwmni unigolion o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol isel. Cafodd y gwaith hwn ei ariannu gan Ddyfarniad Arweinwyr Ymchwil Canser y Dyfodol Prifysgol Caerdydd.
Strategaethau Cynhwysiant
Er mwyn meithrin CYCC mewn ffordd gynhwysol ymhlith grwpiau economaidd-gymdeithasol isel, dylai ymchwilwyr anelu at fabwysiadu strategaethau penodol sy’n mynd i’r afael â:
- Allgymorth ac Addysg Gymunedol: Mae’n bosibl bod ymgysylltu’n rhagweithiol â grwpiau economaidd-gymdeithasol isel drwy sefydliadau cymunedol sydd wedi’u hen sefydlu yn ffordd effeithiol o helpu i godi ymwybyddiaeth ynghylch CYCC a’r cyfleoedd sydd ar gael. Mae gweithdai a sesiynau llawn gwybodaeth yn gallu egluro prosesau CYCC, ynghyd â phwysleisio pwysigrwydd y gwaith o gynnwys ac ymgysylltu ym myd ymchwil.
- Magu Ymddiriedaeth drwy fagu Cydberthnasau: Bydd creu cydberthnasau ag arweinwyr a sefydliadau cymunedol yn helpu weithiau i gau’r bwlch ymddiriedaeth rhwng ymchwilwyr a chymunedau. Drwy gydweithio ag unigolion dibynadwy mewn cymunedau economaidd-gymdeithasol isel, caiff sefydliadau ymchwil hwyluso proses fwy dilys o gynnwys ac ymgysylltu.
- Creu Prosesau Recriwtio Cynhwysol: Mae defnyddio sawl ffordd o gyrraedd aelodau posibl ym maes CYCC, gan gynnwys digwyddiadau cymunedol, cyfryngau cymdeithasol a phartneriaethau â sefydliadau lleol, yn bwysig i’w hystyried wrth geisio cyrraedd grwpiau economaidd-gymdeithasol isel. Mae teilwra’r dulliau i fodloni nodweddion unigryw pob cymuned yn hollbwysig.
- Opsiynau Cymryd Rhan Hyblyg: Mae cynnig nifer o ffyrdd o gymryd rhan i bobl – megis cyfarfodydd rhithwir, galwadau ffôn, negeseuon e-bost neu drafodaethau mewn grwpiau bach – yn gallu gweddu i amserlenni a dewisiadau amrywiol. Gall cynnig cymhellion hefyd fod yn fuddiol er mwyn lliniaru rhwystrau ariannol rhag cymryd rhan a dangos gwerth.
- Adborth ac Addasu: Anogir y broses o greu cyfleoedd i gael adborth pan fydd pobl yn gallu lleisio eu barn ac awgrymu gwelliannau i’w profiad o CYCC. Dylai sefydliadau ymchwil fod yn fodlon addasu eu dulliau gweithredu yn seiliedig ar yr adborth, gan ddangos ymrwymiad i arferion sy’n wirioneddol gynhwysol.
Crynodeb
Drwy gynnwys lleisiau unigolion o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol isel ym maes CYCC, gallwn ni helpu i gau’r bwlch rhwng ymchwil wyddonol a phrofiadau bywyd y rheiny y mae canser yn effeithio arnyn nhw. Mae ymgorffori safbwyntiau amrywiol ystod o gleifion ac aelodau’r gymuned yn helpu i sicrhau bod ymchwil yn mynd i’r afael â phryderon yn y byd go iawn, yn blaenoriaethu deilliannau perthnasol ac yn gwella effeithiolrwydd yr ymchwil a’r graddau y mae modd ei defnyddio. Bydd ymdrechion i wella amrywiaeth ym maes CYCC yn helpu weithiau i feithrin cyd-destunau lle caiff cyfraniadau cynhwysol ac ystyrlon ffynnu, gan wella perthnasedd ac effaith deilliannau ymchwil ar ganser yn y pen draw.
Ysgrifennwyd gan Dr Pam Smith, WCRC Arweinydd Academaidd ar gyfer Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd