Mynd i'r cynnwys

Mae Dr Grace McCutchan, Cymrawd Ymchwil Canolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC), wedi helpu i lansio cynllun peilot fydd yn asesu iechyd yr ysgyfaint yng Nghwm Taf Morgannwg 

Sganiwr CT yr ysgyfaint ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Mae Dr Grace McCutchan, Cymrawd Ymchwil a ariennir gan Ganolfan Ymchwil Canser Cymru, wedi helpu i lansio cynllun peilot arloesol newydd fydd yn asesu iechyd yr ysgyfaint yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Lansiwyd y cynllun peilot, dan arweiniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Rhwydwaith Canser Cymru, ym mis Medi 2023 sef yr Asesiad Iechyd yr Ysgyfaint cyntaf yng Nghymru. Bydd yn helpu i roi rhaglen sgrinio canser yr ysgyfaint ar waith yng Nghymru yn y dyfodol. Bydd y rhaglen beilot yn gweithio gyda meddygfeydd yng ngogledd Rhondda i gynnig sganio CT dos isel i tua 500 o gleifion sydd â risg uchel o ganser yr ysgyfaint. 

Mae ymchwil yn dangos bod canserau’r ysgyfaint sy’n cael eu canfod yn sgil asesiadau iechyd yr ysgyfaint yn fwy tebygol o gael eu canfod yn gynharach, gan leihau’r risg hwyrach o farw o ganser yr ysgyfaint tua 20%. Mae Grace yn aelod o Grŵp Llywio Clinigol y rhaglen beilot a’i rôl yw rhoi cyngor ar sail tystiolaeth ym maes y gwyddorau ymddygiad i annog y cyhoedd i gymryd rhan ac atal canser mewn ffordd integredig. Er mwyn gwneud hyn, aeth Grace ati i helpu i ddatblygu deunyddiau gwybodaeth i’r cyhoedd gan ddefnyddio iaith anfeirniadol y gellid ei deall yn hawdd a thrwy wahodd y cyhoedd i gymryd rhan ar sail tystiolaeth a chymeradwyaeth gan feddygon teulu.

Dyma a ddywedodd yr Athro Kate Brain, a oedd hefyd yn aelod o’r Grŵp Llywio Clinigol: “Bydd asesiadau Iechyd yr Ysgyfaint yn ein helpu i ddod o hyd i ganser yr ysgyfaint yn gynt. Mae hyn yn golygu y bydd mwy o gleifion yn gallu cael gafael ar driniaeth ac yn y pen draw bydd deilliannau canser yr ysgyfaint yn gwella. Mae lansio rhaglen beilot Asesiadau Iechyd yr Ysgyfaint yng Nghwm Taf Morgannwg yn newyddion cyffrous iawn i Gymru. Bydd yn rhoi tystiolaeth hollbwysig i lywio’r gwaith o gyflwyno rhaglen sgrinio canser yr ysgyfaint yn y dyfodol yng Nghymru.”

Mae ymchwil Grace yn canolbwyntio ar leihau anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol ynghlwm wrth ganser a’r ffordd orau o annog pobl i gael asesiad cynnar, annog pobl i chwilio am gymorth os bydd symptomau a cheisio atal canser. Roedd hi ynghlwm wrth yr astudiaeth YESS (Yorkshire Enhanced Stop Smoking) a ariennir gan Ymchwil Canser Yorkshire, dan arweiniad yr Athro Rachael Murray a Mat Callister ym Mhrifysgol Nottingham. Nod astudiaeth YESS yw profi’r ffordd orau o gefnogi cleifion i roi’r gorau i ysmygu pan fyddan nhw’n cael eu sgrinio ar gyfer canser yr ysgyfaint. Bydd canfyddiadau’r astudiaeth hon yn helpu i ddatblygu strategaeth i roi’r gorau i ysmygu yn rhan o’r broses sgrinio canser yr ysgyfaint yng Nghymru.