Mynd i'r cynnwys

Dr Michelle Edwards yn arwain y proses profi gan ddefnyddwyr ar gyfer offeryn cefnogi penderfyniadau CoClarity

Mae ymchwilydd o Ganolfan Ymchwil Canser Cymru, Dr Michelle Edwards, yn gweithio gyda thîm SERENITY ac arbenigwyr datblygu apiau TodayTomorrow® i ddylunio offeryn cefnogi penderfyniadau CoClarity a datblygu ei gynnwys. Mae’r offeryn yn ceisio cefnogi proses penderfynu ar y cyd ar gyfer cleifion sydd â chanser datblygedig ac sy’n gallu cyfrannu at benderfyniad i stopio neu barhau â meddyginiaeth wrth-thrombotig. 

Yn ei rôl bresennol, mae Dr Edwards yn arwain astudiaeth sy’n profi defnyddioldeb. Mae’r astudiaeth hon yn cynnwys Lleisiau Felindre. Grŵp o wirfoddolwyr yw Lleisiau Felindre, ac mae’n cefnogi mentrau sy’n canolbwyntio ar y claf trwy roi gwybodaeth ac adborth sy’n hollbwysig i brosiectau arloesedd gofal iechyd.

Mae’r cyfranogwyr ymroddedig hyn yn rhoi adborth hanfodol ar ddyluniad, defnyddioldeb ac ymarferoldeb y prototeip. Bydd eu cyfraniadau’n llywio’r cam datblygu nesaf yn uniongyrchol, gan sicrhau bod yr offeryn yn diwallu anghenion byd go iawn y cleifion a darparwyr gofal iechyd fel ei gilydd.

“Mae cyfranogiad Lleisiau Felindre wedi bod yn amhrisiadwy,” rhannodd Dr Edwards. “Mae gwybodaeth y gwirfoddolwyr a’u profiad o ganser a gwasanaethau gofal canser yn ein helpu i fireinio’r offeryn fel ei fod yn ymarferol ac yn hawdd ei ddefnyddio. Mae’r cam hwn yn hanfodol i wneud yr offeryn yn effeithiol ar gyfer ystod eang o ddefnyddwyr.”

Yn dilyn cam profi’r prototeip, bydd y tîm datblygu’n ymgorffori adborth y gwirfoddolwyr i optimeiddio datblygiad offeryn CoClarity cyn iddo gael ei brofi gan gleifion â chanser sy’n cymryd meddyginiaeth wrth-thrombotig. Yna, bydd yn cael ei fireinio ymhellach, a bydd ei ddefnydd yn cael ei werthuso’n rhan o dreial hapsamplu rheolyddedig SERENITY. Bydd SERENITY yn asesu effaith yr offeryn ar ganlyniadau cleifion a phrosesau gwneud penderfyniadau.