Mynd i'r cynnwys

Mae ymchwil sy’n canolbwyntio ar y claf yn hanfodol i welliannau sy’n seiliedig ar werth mewn gofal iechyd

Mae arweinydd thema CReSt yr Athro Simon Noble yn esbonio pam mae ymchwil oncoleg liniarol a chefnogol yn rhan annatod o ddeall manteision a beichiau triniaethau ar draws mathau o ganser, ac yn hanfodol i ddod â phersbectif y claf i ddarparu gwell gofal canser ledled Cymru ac yn rhyngwladol.

Mae oncoleg gefnogol a lliniarol yn canolbwyntio ar gefnogi’r person â chanser i reoli effeithiau niferus ei salwch a’i driniaeth. Er bod oncolegwyr yn cynllunio triniaeth o amgylch y tiwmor ei hun, mae oncoleg gefnogol a lliniarol yn edrych ar effaith y clefyd a’r driniaeth ar gorff yr unigolyn, ei symptomau ac ansawdd bywyd bob dydd.  Mae’r ymchwil hon yn darparu tystiolaeth hanfodol ar gyfer y gofal canser cyfannol sy’n helpu cleifion i wneud penderfyniadau gwybodus drwy gydol eu taith canser.

Mae deall natur y dewisiadau sy’n ymwneud â thriniaeth i gleifion yn hynod bwysig, yn enwedig os yw’r bobl hynny mewn perygl o ganlyniadau gwaeth. Rydym eisiau gwybod am daith yr unigolyn, ac a yw’r cydbwysedd yn iawn i’r person o ran y beichiau yn erbyn buddion rhai llwybrau triniaeth.

Mae sawl enghraifft o sut rydym yn ceisio gwneud hyn yng Nghymru. Mae ymchwilwyr yng Nghanolfan Ymchwil Marie Curie ym Mhrifysgol Caerdydd yn gweithio i ddeall pa mor barod mae pobl sy’n cael diagnosis o ganser ar gyfer gwneud penderfyniadau cymhleth iawn am eu triniaeth, y gefnogaeth maent wedi’i chael, a sut y gallwn ni fel gweithwyr gofal iechyd proffesiynol rymuso’r person – a’r rhai sy’n agos atynt – yn y broses benderfynu. Bydd gwella’r ddealltwriaeth a’r parodrwydd hwnnw’n golygu sgwrs fwy gwybodus a chyfartal rhwng oncolegwyr a’u cleifion – gan arwain at gynlluniau triniaeth wedi’u cyd-gynhyrchu’n effeithiol. 

Mae’r Athro Simon Noble hefyd yn arwain astudiaeth fawr iawn ledled Ewrop o’r enw Astudiaeth Serenity (Serenity Study) – a ariennir gan Raglen Grantiau Horizon yr Undeb Ewropeaidd, sy’n ceisio deall safbwyntiau cleifion a theuluoedd ar fanteision a beichiau triniaethau ar gyfer clotiau sy’n gysylltiedig â chanser. Bydd hyn eto yn rhoi’r unigolyn a’r rhai sy’n agos atynt wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, ac yn creu templed rhyngwladol ar gyfer cefnogi’r unigolion hynny i wneud penderfyniadau gwybodus sydd wedi’u personoli i’w profiadau eu hunain a chyd-destun eu salwch canser.

Maes ymchwil arall yw deall yn well pa ganlyniadau sydd bwysicaf i’r person â chanser wrth fesur llwyddiant ymyriadau fel cemotherapi neu radiotherapi, neu’n wir ymyriadau gofal lliniarol hyd at gefnogi’r rhai sy’n agos at y person yn dilyn profedigaeth. Unwaith eto, mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a’r Canolfan Ymchwil Marie Curie wedi bod yn weithgar wrth weithio gyda’r rhai yr effeithiwyd arnynt i gynhyrchu setiau o ganlyniadau i’w defnyddio mewn ymchwil sy’n adlewyrchu’r egwyddorion hynny orau – datblygwyd y ‘setiau canlyniadau’ hyn ym meysydd triniaethau tiwmor yr ymennydd, rhwystrad y coluddyn sy’n gysylltiedig â chanser, ymyriadau gofal lliniarol ac mewn gofal profedigaeth.

Maes archwilio pellach yw sut i ddefnyddio gwybodaeth yr ydym yn ei chasglu fel mater o drefn ac fel rhan o ofal i ddeall sut mae person yn rhyngweithio â’r systemau gofal o’u cwmpas ac a ydynt yn derbyn y gofal cywir ar yr adeg gywir. Mae llawer i’w ddysgu o hyd am sut y gallem gysylltu gwybodaeth arferol gyda’n gilydd i greu map cynhwysfawr o sut mae rhwydweithiau a thriniaethau gofal yn effeithio ar brofiadau personol. Bydd deall y cwestiynau sydd yn cael ei gofyn yn well, ac ymgysylltu â chleifion a’r cyhoedd yn y broses hon, yn creu cyfleoedd i fireinio gofal a sicrhau bod y clystyrau cymorth cywir o amgylch anghenion unigol unigolyn. Ar hyn o bryd mae ymchwilwyr gofal cefnogol a lliniarol yng Nghymru yn edrych ar y materion hyn yn y rhai sydd â salwch na ellir ei wella ac sy’n agosáu at flwyddyn olaf bywyd, a hefyd yn edrych ar ddata diogelwch a sut y gellir defnyddio hynny’n ddeallus ac yn gyflym i ysgogi gwelliannau i ofal. 

Mae gan hyn oblygiadau mawr i’r unigolyn o ran sut y gallant fyw ei bywyd, ond hefyd i’r GIG o safbwynt gofal iechyd sy’n seiliedig ar werth. Nid yw gwerth yn ymwneud â’r gost, mae’n ymwneud â’r gallu i sicrhau bod y claf yn derbyn y driniaeth fwyaf effeithiol ac effeithlon. 

Yn ogystal â datblygu a chynnal ein hymchwil ein hunain, rydym hefyd yn gweithio’n agos gydag ymchwilwyr eraill ledled y DU i sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn cael mynediad at dreialon clinigol lliniarol a chefnogol pwysig dan arweiniad grwpiau ymchwil eraill. Un enghraifft o’r fath yw’r treial CHELsea II, sy’n archwilio rôl hydradiad artiffisial â chymorth clinigol ar ddiwedd oes. Mae sawl grŵp gofal lliniarol ledled Cymru yn recriwtio i’r astudiaeth bwysig hon. 

Ein huchelgais yw gwneud y mwyaf o’r hyn y gall CReSt ei gyflawni trwy gysylltu ein gwaith mewn gofal cefnogol a lliniarol ag ymchwilwyr ar draws ystod o ganserau gwahanol. Rydym yn gweithio’n gyson i ddefnyddio ein setiau sgiliau mewn ffordd sy’n drosglwyddadwy i’r themâu eraill o fewn CReSt. Os nad yw safbwynt cleifion yn flaenoriaeth, yna byddwn yn colli’r craidd o’r hyn y mae gofal iechyd seiliedig ar werth yn ei olygu.