Mynd i'r cynnwys

O gydweithio i ymrwymo: Lansio Partneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd gan Bob McAlister

Bob McAlister yn lansiad y CCRP

Dychmygwch rywun o Seland Newydd, Gwyddel a menyw o Loegr yn cwrdd yng Nghaerdydd ar brynhawn dydd Mercher glawog ym mis Medi – beth allai ddigwydd? Lansio Partneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd (CCRP) yn swyddogol o flaen cynulleidfa werthfawrogol yn Adeilad Haydn Ellis Prifysgol Caerdydd.

Am ddiwrnod cofiadwy! Dyma uchafbwynt gwaith caled sylweddol ac ymdrech gan y sawl sydd wrthi’n cydweithio’n draws-sefydliadol, gan ddangos mai ffurfioli’r bartneriaeth hon yw’r cam rhesymegol wrth symud ymlaen. Yn y maes ymchwil hwn, mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, Ymddiriedolaeth GIG Felindre a Phrifysgol Caerdydd yn gweithredu fel un corff. Dyma ymdrech ar y cyd i ddatblygu ymchwil a fydd yn gwella canlyniadau triniaethau i gleifion, a dylai ddod â buddsoddiad i’r ardal gyfan.

Nid yn unig y mae ymchwil canser yn hanfodol i ddyfodol iechyd y boblogaeth, ond mae hefyd yn digwydd mewn amgylchedd cystadleuol iawn. Mae canolfannau rhagoriaeth mawr eraill yn y DU sy’n cystadlu i gael y cyllid cyfyngedig hwn sy’n hwyluso’r ymchwil. Mae’n amlwg mai un o brif amcanion Partneriaeth Ymchwil Canser Cymru yw gwneud Caerdydd, a Chymru felly, yn gyrchfan ddeniadol ar gyfer buddsoddiad o’r fath. 

Roedd yn fraint cael bod yn bresennol, ac rwy’n teimlo’n ffodus bod fy rôl yn bartner ymchwil cyhoeddus (lleyg) yng Nghanolfan Ymchwil Canser Cymru wedi rhoi’r cyfle i mi fod yn rhan o’r digwyddiad. Yn unol ag ysbryd y digwyddiad, roedd gen i gysylltiadau eisoes â Strategaeth Ymchwil Felindre a’r Ganolfan Meddygaeth Canser Arbrofol ym Mhrifysgol Caerdydd – felly rwy’n drawsffiniol. Yn ogystal â hyn, mae llawer o’r clinigwyr a’r nyrsys ymchwil rwy’n cyfarfod â nhw yn cael eu cyflogi gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro. 

Cafodd y llinell agoriadol oedd gen i am y triawd rhyngwladol yn dod at ei gilydd ei hadleisio yn ystod y lansiad gan yr Athro Wendy Larner, Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, a siaradodd ynghyd â’r Prif Weithredwyr David Donegan (Ymddiriedolaeth GIG Felindre) a Suzanne Rankin (Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro). Roedd yn arwyddocaol iawn bod y tri arweinydd hyn (y ‘tri mawr’) yn bresennol ac yn amlwg yn ymroddedig ac yn angerddol am Bartneriaeth Ymchwil Canser Cymru. Yn ogystal â’r uwch arweinwyr, fe wnes i gydnabod llawer o aelodau’r gynulleidfa rwy wedi ymwneud â nhw drwy fy ngwaith cynnwys y cyhoedd. Roedd unigolion allweddol y tu ôl i’r fenter hon, sef yr Athro Mererid Evans a’r Athro Awen Gallimore, yn arwain y diwrnod yn ystyriol – oedd yn uchafbwynt eu hymdrechion nhw ac eraill.

Yn aelod o’r cyhoedd, rwy’n gwybod y gall gweithlu iechyd gweithredol ymchwil ddod â gwell canlyniadau triniaeth i gleifion. Mae hynny bob amser yn fy annog yn fy rôl fel person lleyg i gynnig sylwadau a barn ar gynigion ymchwil.  

Denise Calder, sy’n arwain partneriaeth ymchwil academaidd ac iechyd tebyg yn yr Alban, oedd prif siaradwr y digwyddiad, a chafwyd anerchiad eithriadol ac ysbrydoledig ganddi. Soniodd yn glir am y camau sydd eu hangen i droi bwriadau da Partneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd yn ganlyniadau pendant. Fodd bynnag, bydd y fenter yn gofyn am adnoddau ychwanegol a bydd angen neilltuo amser ar ei chyfer, a dyma lle gall y triawd o uwch arweinwyr a soniais amdanyn nhw wneud cyfraniad sylweddol.