Cyn i mi ymddeol, ro’n i wedi bod yn meddwl yn ddwys am yr holl bethau roeddwn i’n mynd i’w gwneud pan nad oedd yn rhaid i mi weithio 5 diwrnod yr wythnos fel Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Caerdydd. Daeth hobïau amrywiol i’r meddwl – cerdded bryniau, fel aelod brwd o’r cerddwyr, garddio, gwyliau braf… a pheidio gorfod codi am 6.15am bob bore i osgoi awr frys y bore! Doedd Cynnwys y Cyhoedd mewn ymchwil ddim ar fy rhestr ar y pryd.
Yr wythnos yr ymddeolais, dechreuais deimlo’n sâl am rai diwrnodau ar y tro, ac yna’n iawn am rai diwrnodau. Arweiniodd hyn, 3 mis yn ddiweddarach, at ddiagnosis o ganser y coluddyn Cam 3, a newidiodd bopeth. Chwe mis yn ddiweddarach, ar ôl gorffen cemotherapi, ailystyriais fy syniadau ar beth i’w wneud ar ôl ymddeol a dod ar draws Cynnwys y Cyhoedd drwy’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR), ac yna sylweddoli bod gennym ni ein cymuned Cynnwys y Cyhoedd ein hunain yng Nghymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Ar ôl cael triniaeth canser, a hefyd o ystyried fy niddordeb gydol oes mewn gwyddoniaeth feddygol trwy fy ngradd mewn Ffisioleg (na ddefnyddiwyd erioed mewn swydd ymchwil gwyddoniaeth), ro’n i’n meddwl y byddai bod yn gynrychiolydd cleifion mewn ymchwil feddygol yn rhywbeth a fyddai o ddiddordeb i mi.
Dechreuais wneud cais am swyddi trwy Fwletin Cynnwys y Cyhoedd HCRW ac ymunais â’r Gymuned Cynnwys y Cyhoedd, ond cymerodd amser i mi gael fy nerbyn ar fy Ngrŵp Rheoli Treialon cyntaf. Roedd y cyfarfodydd i gyd wyneb yn wyneb bryd hynny a roddodd gyfle i mi gwrdd â phobl go iawn a dod i’w hadnabod. Nawr bod y rhan fwyaf o’r cyfarfodydd ar-lein, rwy’n meddwl ei bod hi’n anoddach meithrin y perthnasoedd hynny, yn enwedig ar gyfer rhywun sy’n newydd i’r rôl. Nawr, rydw’n hapus i gael y rhan fwyaf o gyfarfodydd ar-lein – mae’n wyrddach ac yn golygu llai o oriau yn teithio ar yr M4.
Mae’r rhan fwyaf o’m gwaith yn ymwneud â chanser y coluddyn gan mai dyna lle mae fy mhrofiad. Mae wedi effeithio ar dri aelod agos o’r teulu – fy mam, a fu farw ohono yn 91, fi a fy merch, y ddau yn oroeswyr a gafodd ddiagnosis yn 59 a 35 oed. Yn ddealladwy, gan nad oedd fy merch a minnau wedi cael profion sgrinio’r coluddyn (cyrhaeddodd fy un cyntaf bedair wythnos ar ôl llawdriniaeth), rwy’n angerddol am ddiagnosis cynnar a sgrinio am ganser.
Yn ogystal â bod yn rhan o sawl grŵp rheoli treialon, ro’n i hefyd yn aelod o Bwyllgor Arwain y Colon a’r Rhefr NICE, a gyflwynodd adroddiad yn 2020. I mi yn bersonol, daeth dau ganlyniad arbennig o bwysig allan o hyn. Un oedd lleihau’r amser sydd ei angen ar gyfer cemotherapi adjiwfant ar gyfer canser y coluddyn o wyth cylch i lawr i bedwar, sy’n lleihau’n sylweddol nifer y cleifion sy’n datblygu niwropathi perifferol cronig sy’n gysylltiedig ag oxaliplatin (sydd gennyf fi). Yr ail oedd yr alwad ymchwil a wnaed am fwy o ymchwil ar LARS (problemau’r coluddyn a achosir gan lawdriniaeth echdoriad blaen isaf). Yn ffodus, dyfarnwyd y cyllid ymchwil ar gyfer hyn i Julie Cornish, meddyg ymgynghorol yr oeddwn wedi gweithio gyda hi yn flaenorol ac sydd bellach yn arwain y treial POLARiS i driniaethau ar gyfer y cyflwr hwn. Rydw i bellach yn gyd-ymgeisydd ar y treial hwn, sydd newydd ddechrau.
Felly, sut ydw i’n elwa o gymryd rhan fel aelod o’r cyhoedd mewn ymchwil feddygol? Mae ymchwil feddygol i ganser yn bwnc sydd o ddiddordeb mawr i mi ac mae fy ngwybodaeth am bynciau meddygol, er nad yw’n ofynnol ar gyfer gwaith cynnwys y cyhoedd, yn ddefnyddiol o ran deall rhywfaint o’r derminoleg sy’n cael ei defnyddio. Rydw i hefyd yn teimlo ’mod i’n gwneud rhywbeth defnyddiol iawn gyda fy amser. Mae hobïau’n iawn, ond allan nhw ddim llenwi eich holl amser ar ôl ymddeol!
Rydw i wir yn mwynhau’r hyn rydw i’n ei wneud ac yn gwerthfawrogi’r ffrindiau newydd rydw i wedi’u gwneud dros y blynyddoedd diwethaf, sy’n rhywbeth arall a all fod yn anoddach i’w wneud pan fyddwch chi wedi ymddeol.
Yn ogystal â’r gweithgareddau bara menyn o edrych ar grynodebau lleyg a thaflenni gwybodaeth cleifion y mae PPI yn ymgymryd â nhw, mae cyfleoedd hefyd, i’r rhai sydd â diddordeb, i edrych ar faterion yn ymwneud â strategaethau a llywodraethu ymchwil feddygol. Mae’r rhain yn faterion rydw i wedi ymrwymo iddynt ar lefel ddofn trwy fy rôl fel Partner Ymchwil Arweiniol Lleyg ar gyfer Canolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC). Rhaid i mi gyfaddef ’mod i weithiau’n ei chael hi’n anodd siarad mewn cynadleddau neu gynrychioli grŵp ymchwil mewn cyfarfod ariannu lefel uchel, ond mae’r boddhad wedi hynny yn drech na’r pryder sy’n arwain at weithgareddau o’r fath!
Ond peidiwch â diystyru cynnwys y cyhoedd os nad yw’r mathau hyn o weithgareddau yn apelio. Mae ystod a lefel y cyfleoedd yn amrywiol iawn, gall pobl ddewis sut maen nhw am gymryd rhan.
Y ffordd orau o ddarganfod beth sydd ar gael yw trwy gofrestru ar gyfer bwletin wythnosol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymrusy’n rhestru cyfleoedd rheolaidd.