Ein hymchwilwyr
Mae’r CYCC yn cefnogi ymchwil sy’n cyd-fynd â chwe thema CReSt, ar draws y sbectrwm o ymchwil cyn-glinigol i ymchwil glinigol.

Clair Brunner
Cofrestrydd oncoleg glinigol yw Clair yn ne Cymru sy’n gwneud cymrodoriaeth ymchwil radiotherapi ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe a Phrifysgol Abertawe. Mae fy ngwaith ymchwil cyfredol yn canolbwyntio ar sut rydyn ni’n gallu defnyddio delweddu i wella deilliannau yn sgil radiotherapi yn achos canser yr oesoffagws. Un agwedd ar fy ngwaith yw asesu’r effaith bosibl o ddefnyddio MRI yn y broses o gynllunio triniaethau radiotherapi yn achos canserau’r oesoffagws.

Dr Grace McCutchan
Mae Dr McCutchan yn arwain ac yn cefnogi prosiectau am agweddau ymddygiadol sgrinio, atal a chanfod canser yn gynnar, gyda ffocws penodol ar leihau anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol mewn canser. Mae hi’n defnyddio dulliau gwyddor ymddygiadol i werthuso derbynioldeb, defnydd ac effaith arloesiadau atal a diagnosis poblogaeth newydd.

Dr Ashley Pridgeon
Mae Dr Ashley Pridgeon yn Fiowybodegydd yng Ngwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan. Mae’n gweithio’n agos gydag Is-adran Canser a Geneteg Prifysgol Caerdydd, lle mae’n canolbwyntio ar helpu i ddatblygu a rhoi dadansoddiad o amrywiadau strwythurol ym maes diagnosteg glinigol ar waith.

Manon Jones
Mae Manon Jones yn rhan o labordy Dr Clement, ac yn cefnogi’r ymchwil i ganfod antigenau newydd sy’n gysylltiedig â thiwmorau mewn glioblastoma i wella ymatebion celloedd-T gwrth-diwmor. Cyn hyn, bu’n ymchwilio i glioma a medulloblastoma yn ystod ei BSc a’i MRes, gan ddatblygu damcaniaethau o setiau data trawsgrifiadol a’u profi’n swyddogaethol gan ddefnyddio modelau sfferoid tiwmor yr ymennydd. Yn ymchwilydd ar ddechrau ei gyrfa, mae hi’n awyddus i ehangu’r sylfaen hon i ddilyn gyrfa hirdymor ym maes ymchwil ar ganser, gyda’r nod o gyfrannu at well canlyniadau i gleifion.

Dr Jaya Lakshmi Vangara
Mae ymchwil Dr Lakshmi Vangara yn canolbwyntio ar “fodelau canser ar gyfer potensial cyn-glinigol firotherapïau manwl” yn nhîm VITAL (Labordy Imiwnotherapiau Feirysol a Therapiwteg Uwch) ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei phrosiect yn canolbwyntio ar ddatblygu firotherapïau ac asesu eu heffeithiolrwydd mewn ystod o fathau o ganser.

Dr Mathew Clement
Mae Dr Clement yn Niwroimiwnolegydd sy’n cyfuno technegau ymchwil niwroleg ac imiwnoleg uwch â’i gilydd. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar astudio canser yr ymennydd, gan arbenigo ym maes ymchwil Glioblastoma (GBM). Mae ei ymchwil yn archwilio rhyngwyneb y system imiwnedd a GBM ac yn archwilio’n benodol rôl allweddol celloedd T yn ystod clefydau.

Dr Michelle Edwards
Mae ymchwil Dr Edwards yn canolbwyntio ar brofiadau cleifion o driniaeth canser pan fydd canser wedi lledaenu. Mae hi wedi bod yn gweithio ar adolygiad o gymorth penderfyniadau a chyfathrebu i gleifion ac ymchwil i ddatblygu ymyriad i gefnogi cleifion i ddeall eu hopsiynau a gwneud penderfyniadau gwybodus.

Dr Kate Liddiard
Mae Fariba Mirani Sargazi yn fyfyrwraig PhD mewn Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Bangor. O dan oruchwyliaeth Dr. Jonathan Blank, ei phrif nod yw pennu a yw MRE11 yn cael ei lactyleiddio mewn ymateb i driniaeth ataliwr MCT1 yn y model canser ofari sy’n gwrthsefyll cisplatin a’r model rhiant, ac i ddeall sut mae hyn yn effeithio ar sensitifrwydd i’r atalydd a’r cisplatin.

Dr Carly Bliss
Mae Dr Bliss yn Ddarlithydd ym maes Imiwnoleg Canser ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae’n datblygu therapïau canser cyn-glinigol sy’n defnyddio adenofirysau. Yn rhan o’r ymchwil hon defnyddir dull newydd o harneisio ac ailgyfeirio celloedd T gwrthfeirysol yn erbyn canser, yn ogystal â strategaethau ar gyfer brechlyn canser sy’n defnyddio fectorau newydd yn seiliedig ar seroteipiau adenofirws prin i symbylu ymatebion imiwnedd yn erbyn tiwmorau.

Dr Namrata Rastogi
Mae Dr Namrata yn Gymrawd Ymchwil yn y Sefydliad Ymchwil Ewropeaidd ar Fôn-gelloedd Canser, Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd. Ar hyn o bryd mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar haematopoiesis malaen a lewcemia myeloid acíwt. Mae hi’n defnyddio bôn-gelloedd a chelloedd cenedlyddol hematopoietig a samplau cleifion, normal, i astudio rôl ffactorau trawsgrifio a rheoleiddwyr epigenetig o ran Lewcemia Myleoid Aciwt (AML) a sut y gellir defnyddio’r rhain ar gyfer therapi wedi’i dargedu o ran AML.

Dr Andrew Pierce
Mae Dr Pierce yn gweithio yn Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd-orllewin ym Mhrifysgol Bangor. Mae ei waith wedi canolbwyntio ar ddod o hyd i lwybrau sydd ag amhariadau arnynt mewn neoplasmau Myelo-luosogol gyda diddordeb arbennig mewn ail-bwrpasu cyffuriau o afiachusrwyddau eraill i iachau yn hytrach na rheoli’r clefydau hyn.

Kez Cleal
Kez’s ymchwil yn canolbwyntio ar nodweddu a deall y newidiadau genetig sy’n digwydd mewn celloedd canser ar lefel strwythurol. Rydym yn defnyddio technegau cyfrifiadurol datblygedig i ddadansoddi llawer iawn o ddata genomig gan gleifion canser, a’n nod yw adnabod patrymau ad-drefnu fydd hwyrach yn ddefnyddiol at ddibenion diagnostig a phrognostig, ac o bosibl at ddod o hyd i lwybrau triniaeth.

Dr James Powell
Mae Dr Powell yn niwro-oncolegydd yng Nghanolfan Ganser Felindre. Mae’n trin cleifion â thiwmorau ar yr ymennydd â radiotherapi a therapïau systemig fel cemotherapi. Mae’n cymryd rhan mewn sawl treial clinigol yn asesu triniaethau newydd ar gyfer tiwmorau ar yr ymennydd. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar diwmorau ar yr ymennydd, gan gynnwys glioblastoma multiforme, ac mae wedi arwain prosiectau cydweithredol clinigol gyda Chanolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) sy’n astudio rôl technegau sganio MRI uwch ymhlith cleifion â thiwmorau ar yr ymennydd.

Dr Ashley Poon-King
Mae Dr Ashley Poon-King yn gofrestrydd oncoleg glinigol yn Ne Cymru. Mae’n gymrawd ymchwil glinigol ym meysydd radiotherapi, genomeg ac imiwnoleg. Mae ei hymchwil bresennol yn ymchwilio i hyd a swyddogaeth telomer yn DNA y tiwmor ymhlith cleifion â chanser y pen a’r gwddf a chleifion â chanser yr ysgyfaint, gan gynnwys ei gysylltiad â chanlyniadau clinigol. Mae ei hymchwil hefyd yn archwilio deinameg telomerau lewcocyt dilyniannol ymhlith cleifion sy’n cael radiotherapi dos uchel diffiniol neu gynorthwyol ar gyfer canser y pen a’r gwddf.

Dr Arron Lacey
Mae Dr Arron Lacey yn Uwch-ddarlithydd Biowybodeg Canser a Gwyddor Data sy’n canolbwyntio ar iechyd poblogaethau yn SAIL Databank a genomeg canser yn y grŵp ymchwil Bioleg Atgenhedlu ac Oncoleg Gynaecolegol ym Mhrifysgol Abertawe. Ffocws cyffredinol ei ymchwil yw helpu i bontio genomeg canser ac iechyd poblogaethau ar raddfa fawr, ac mae’n gweithio ar atebion technolegol a strategol i gyfuno data aml-foddol (delweddu, profi genetig drwy Wasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan) er mwyn creu Adnodd Data Cenedlaethol ar gyfer Canser yn SAIL Databank.

Dr Agisilaos Zerdelis
Mae Dr Zerdelis yn gofrestrydd arbenigedd ar gyfer haematoleg yn Ne Cymru ac yn gymrawd ymchwil ar dreialon canser cyfnod cynnar. Mae’n gwneud ymchwil labordy ym maes lewcemia myeloid acíwt, ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn gwahaniaethu celloedd myeloid yn strategaeth newydd ar gyfer trin lewcemia

Dr Kate Milward
Mae Dr Milward yn ymchwilydd ôl-ddoethurol yn nhîm y Labordy Imiwnotherapïau Firaol a Therapiwteg Ddatblygedig (VITAL) ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei hymchwil yn ceisio manteisio ar y cyfoeth o wybodaeth wyddonol ym meysydd ymchwil brechlynnau a firotherapi a’i defnyddio i drin canser

Dr Laura Baker
Swyddog Ymchwil a Gwyddonydd Data ym Mhrifysgol Abertawe yw Mae Dr Baker sy’n canolbwyntio ar iechyd y boblogaeth gan ddefnyddio data cenedlaethol sydd ar gael ym Manc Data SAIL. Nod ymchwil Mae Dr Baker yw tynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael gan ddefnyddio ffynonellau data canser a gesglir yn rheolaidd yng Nghymru, gan roi cipolwg ar wasanaethau canser a chanlyniadau i gleifion yng Nghymru.

Alex Gibbs
Mae Alex Gibbs yn fiowybodegydd craidd CReSt gyda chefndir mewn ymchwil canser, yn benodol canser y croen. Mae ganddo hefyd brofiad mewn dilyniannu RNA a dadansoddiadau biowybodeg dilyniannu RNA un gell. Ei rôl bresennol yw cefnogi holl ymchwilwyr canser cymru gyda’u hanghenion biowybodeg, gan eu helpu i uwchsgilio a chaffael yr arbenigedd sydd ei angen arnynt i ddadansoddi eu data. Cyflwynir hyn trwy gyfeirio ymchwilwyr at y tudalennau a’r adnoddau dysgu perthnasol, neu drwy addysgu a thiwtorialau.

Dr Garan Jones
Dechreuodd Dr Garan Jones ei swydd fel Cymrawd Ymchwil CReST ddechrau Ionawr 2024. Mae ei gylch gwaith yn weddol fwrddol ac yn cynnwys datblygu dulliau arloesol o ymchwilio i ganser, canolbwyntio ar diwmor niwroendocrin, a dod â ffynonellau cyllid newydd i mewn. Mae diddordebau ymchwil cyfredol Dr Jones yn canolbwyntio ar ddilyniant darllen hir a dadreoleiddio splicing mewn tiwmorau.

Dr Timothy Stone
Mae Dr Timothy Stone yn Gymrawd Ymchwil CReST sydd wedi cwblhau a chyhoeddi prosiect ymchwil mewn diagnosteg canser epigenetig yn UCL yn ddiweddar. Mae hefyd wedi gweithio yng Nghanolfan yr MRC ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig yng Nghaerdydd. Mae ei rôl bresennol yn cwmpasu amrywiaeth eang o gyfleoedd, yn canolbwyntio’n bennaf ar feithrin cydweithrediadau a defnyddio ei arbenigedd i bontio bylchau mewn ymchwil canser yng Nghaerdydd.