Gwasanaeth Adolygu Tystiolaeth Gofal Lliniarol (PaCERS)
Mae PaCERS yn wasanaeth adolygu tystiolaeth cyflym i gynorthwyo gweithwyr proffesiynol a phobl eraill sy’n gwneud penderfyniadau ac sy’n gweithio ym maes gofal lliniarol.
Adolygiadau Cyflym
Mae gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol a chomisiynwyr yn cydnabod pwysigrwydd cysylltu ymarfer clinigol yn agosach â thystiolaeth. Fodd bynnag, mae diffyg amser yn aml yn rhwystr sylweddol, yn enwedig o ran lleoli, darllen ac asesu llenyddiaeth berthnasol.
Sefydlwyd PaCERS yn 2015 fel gwasanaeth unigryw sy’n ymateb i alwadau brys a chlinigol am dystiolaeth. Ein nod yw cefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a phenderfynwyr eraill o fewn cylch gorchwyl gofal lliniarol.
Cynhelir Adolygiadau Cyflym o fewn 8-10 wythnos gan ddefnyddio dulliau adolygu systematig diwygiedig, gyda chwestiwn ymchwil wedi’i fireinio’n helaeth.
Gofyn am Adolygiad Cyflym
Bydd PaCERS yn ymateb i alwadau am dystiolaeth gan grwpiau / sefydliadau proffesiynol. Dylid gwneud ceisiadau trwy lawrlwytho’r Ffurflen Gais a’i hanfon mewn e-bost i PaCERSWCRC@caerdydd.ac.uk. Defnyddiwch y cyfeiriad e-bost hwn i gael gwybodaeth bellach am y gwasanaeth hwn.
Gweler y fethodoleg adolygu gyhoeddedig yma.