
Ddydd Mercher 17 Medi, cynhaliwyd digwyddiad dathlu a lansio yn Adeilad Hadyn Ellis Prifysgol Caerdydd i lansio partneriaeth newydd rhwng Prifysgol Caerdydd, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Nod y bartneriaeth yw gwella a chydlynu’r gwaith o ddarparu, cynllunio a datblygu ymchwil canser yng Nghymru.
Clywodd y sawl a fynychodd y digwyddiad am gynlluniau i ‘gyflymu’ ymchwil canser; mae’r cydweithrediad yn golygu y gall y tri sefydliad gwahanol ddod â’u harbenigedd ynghyd, gan adeiladu ar enw da Cymru fel lle blaenllaw yn y byd i gynnal ymchwil canser a chymryd rhan ynddi.
Daeth y digwyddiad ag arbenigwyr canser ynghyd, gan gynnwys gwyddonwyr, ymgynghorwyr, ymchwilwyr a gweithwyr meddygol proffesiynol o bob cwr o’r DU yn Adeilad Hadyn Ellis Prifysgol Caerdydd.
Y gobaith yw y bydd y bartneriaeth yn denu ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol medrus i (dde?) Cymru, yn annog buddsoddiad ac yn cynnig opsiynau newydd o ran triniaeth i gleifion a’u teuluoedd.
Meddai David Fluck, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:
“Mae’r bartneriaeth yn gyfle i ddod â’n hymchwil o safon fyd-eang at ei gilydd. Mae sgiliau a phrofiadau unigryw gan ein gweithwyr ar draws y sefydliadau a gall y rheiny ddwyn budd i waith ei gilydd. Mae’n wych adeiladu ar yr arbenigedd unigryw sydd gennym yng Nghymru, ac yng Nghaerdydd.”
“Rydym yn gryfach gyda’n gilydd, ac rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae’r cydweithio’n datblygu.”
Meddai’r Athro Alan Parker, Pennaeth Mathau Solet o Ganser a Chyfarwyddwr Uned Firoleg Gymhwysol Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd:
“Roedd lansio’r bartneriaeth yn ddigwyddiad ysbrydoledig. Cefais deimlad ein bod wedi tynnu llinell yn y tywod gyda’n gilydd a dechrau pennod newydd lle cymerwn ein cam gorau ymlaen, a hynny yn un tîm sydd wedi ymrwymo i gyflawni ymchwil yng Nghaerdydd.”
Roedd yna benderfyniad cyffredin i sianelu ein hymdrechion i ddatblygu moddion newydd ac arferion gorau er budd cleifion, a hynny wrth feithrin, denu a grymuso’r doniau gorau. Drwy feithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr canser yma yng Nghaerdydd, gallwn ni barhau i yrru ein huchelgais ymlaen gydag egni a phwrpas newydd.
Meddai David Donegan, Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
“Mae Partneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd yn nodi cam pwysig ymlaen i ymchwil canser yng Nghymru.
Drwy uno ein cryfderau ar draws y byd academaidd a gofal clinigol, rydym yn creu platfform pwerus i gyflymu arloesedd, denu buddsoddiad, ac yn y pen draw, ddod â mwy o dreialon arloesol i gleifion Cymru. Nod hyn oll yw cydweithio er mwyn iacháu cleifion. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Felindre wedi arwain nifer o fentrau ymchwil o bwys rhyngwladol sy’n gwneud gwahaniaeth i gleifion canser ledled y byd.
Am ragor o wybodaeth am Bartneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd, ewch i: www.pycc.org.uk