Mynd i'r cynnwys

Prif Bartner Ymchwil Lleyg Canolfan Ymchwil Canser Cymru, Julie Hepburn, yn dadlau o blaid cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil canser yn ystod digwyddiad Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Gwnaeth Julie Hepburn draddodi araith rymus yn y digwyddiad Canser – Canfod a Gwneud Diagnosis, a gynhaliwyd yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru’n ddiweddar. Ac yntau wedi’i drefnu ar y cyd ag Academi’r Gwyddorau Meddygol, daeth y digwyddiad hwn ag arloeswyr ac ymchwilwyr mewn sawl maes ynghyd er mwyn trafod pwnc hollbwysig, sef canfod a gwneud diagnosis o ganser yn gynnar.

Diben Rhaglen Traws Sector Academi’r Gwyddorau Meddygol yw meithrin arloesedd ym maes iechyd, a hynny drwy ddefnyddio digwyddiadau rhwydweithio a chynlluniau cyllid cydweithredol i gysylltu arloeswyr ac ymchwilwyr traws sector. Gwnaeth y digwyddiad yng Nghymru amlygu manteision cydweithio traws sector o ran gwella sut rydyn ni’n canfod ac yn gwneud diagnosis o ganser yn gynnar, gan bwysleisio pwysigrwydd ymdrechion unedig i greu atebion cynaliadwy a gwella ansawdd gofal.

Cafodd y cyfranogwyr eu cyflwyno i’r Rhaglen Traws Sector a’r hybiau rhwydweithio gan gynrychiolwyr Academi’r Gwyddorau Meddygol a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Yn ystod y digwyddiad, cafwyd trafodaethau bwrdd, cyfleoedd i rwydweithio a sesiynau estynedig i’r cyfranogwyr drin a thrafod diddordebau cyffredin a chyfleoedd posibl i gydweithio.

Un o brif uchafbwyntiau’r digwydd oedd sgwrs Julie Hepburn, sef ‘Cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil canser – gweithio gyda’r cyhoedd nid ar eu cyfer’. Rhannodd Julie ei phrofiadau o gynnwys y cyhoedd a chleifion ym maes canfod a gwneud diagnosis o ganser yn gynnar, gan annerch cynulleidfa a fu’n cynnwys cwmnïau masnachol, elusennau ac ymchwilwyr. Dyma a ddywedodd Julie:

“Fe ges i fy ngwahodd i gyflwyno sgwrs yn y cyfarfod hwn gan Academi’r Gwyddorau Meddygol, a gynhaliodd y digwyddiad ar y cyd â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.  Fy mriff oedd sôn am brofiad y claf, ynghyd â’m profiad fy hun o gynnwys y cyhoedd a chleifion ym maes canfod a gwneud diagnosis o ganser yn gynnar.

Gan fod cwmnïau masnachol ac elusennau’n bresennol yn y digwyddiad, yn ogystal ag ymchwilwyr yn y maes, fe wnes i fanteisio ar y cyfle i dynnu sylw’r cwmnïau masnachol at werth cynnwys y cyhoedd a chleifion. Dyna union beth y gwnes i mewn sgwrs a gyflwynais yn Llundain ym mis Mehefin yn y gynhadledd allanoli treialon masnachol, a hynny i gynulleidfa oedd yn cynnwys sefydliadau ymchwil fferyllol a chlinigol. Yn y ddau ddigwyddiad, defnyddiol iawn oedd gallu siarad â chynrychiolwyr masnachol yn ystod y sesiynau rhwydweithio.”

Gwnaeth y digwyddiad danlinellu’r galw mawr am gydweithio traws sector ym maes ymchwil canser, gyda’r nod o ysgogi arloesedd a gwella canlyniadau i gleifion ledled Cymru a thu hwnt.