
Daeth Cynhadledd Canolfan Ymchwil Canser Cymru 2025 ag ymchwilwyr, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a phartneriaid cyhoeddus ynghyd ar gyfer diwrnod o sgyrsiau ysbrydoledig, cysylltiadau ystyrlon, a chynnydd ar y cyd. O brif areithiau pryfoclyd i gyflwyniadau poster craff, roedd y digwyddiad yn arddangos y camau anhygoel sy’n cael eu gwneud mewn ymchwil canser. Darllenwch ymlaen am adroddiad uniongyrchol o uchafbwyntiau gan Bartner Ymchwil PPI WCRC Bob McAlister:
“Pryd bynnag rwy’n meddwl am Gasnewydd, rwy’n cofio’r Bont Gludo fyd-enwog a glannau mwdlyd yr afon. Mae’r Ganolfan Gynadledda Ryngwladol (ICC) bellach yn ymuno â’r rhestr honno. Roedd yn amlwg pam fod y lleoliad bendigedig hwn wedi’i ddewis ar gyfer Cynhadledd Ymchwil Canser Cymru 2025. Mae’n drawiadol. Roedd staff Canolfan Ymchwil Canser Cymru yn gwenu wrth fy nghyfarch i ac yn rhoi laniard i fi wrth gyrraedd. Roedd naws gadarnhaol yno wrth i’r cynrychiolwyr eraill gyrraedd ac roedd trafodaethau ynghylch ymchwil eisoes yn digwydd.
Dyma gyfle i gwrdd a rhannu syniadau ymchwil – dyna ddiben y digwyddiad. Dyma beth y dylai ‘Canolfan’ ei wneud i’r rhai sy’n ymwneud â phwnc ac ar y diwrnod hwn, y pwnc oedd Ymchwil Canser. Es i yno i weithredu yn Bartner Ymchwil y Cyhoedd (RP) yn y WCRC. Rydyn ni’n cael ein cynnwys yn y digwyddiad a phopeth sy’n bwysig. Roedd gen i stondin yn arddangos ein herthyglau cynnwys cleifion a’r cyhoedd, sy’n amlinellu sut rydyn ni’n helpu i gyfrannu ac i wneud sylwadau ar waith ymchwil. Roedd y digwyddiad yn gyfle gwerthfawr i gwrdd ag eraill. Roedd Julie Hepburn, Prif Bartner Ymchwil y Cyhoedd yno er mwyn ateb y cwestiynau heriol i gyd.
Roedd y diwrnod hefyd yn ymwneud â rhannu gwybodaeth ac ar ôl clywed anerchiad agoriadol ysgogol yr Athro Mererid Evans, yr Athro Serena Nik-Zainal oedd yn cynnal y ddarlith gyntaf. Mae’n arbenigwr ar ei phwnc Rwy’n gallu dychmygu’r sleidiau nawr, roedden nhw mor fanwl ac yn amlwg yn golygu llawer i bobl eraill oedd yno. Un o’r pethau am yr ICC roeddwn i’n ei hoffi’n fawr oedd y ffenestri gwydr o’r llawr i’r nenfwd a oedd yn fodd o weld y goedwig yn ystod y gwanwyn. Roedd hynny’n arbennig iawn ar ddiwrnod mor heulog â heddiw. Brian Webber oedd yn cyflwyno ar ôl y prif siaradwr. Bu’n trafod safbwynt y claf ar y clefyd a thriniaeth yng nghyd-destun astudiaeth ymchwil.
A finnau’n berson sydd wedi cyflwyno’n rheolaidd rwy bob tro’n edrych am ‘ymgysylltiad y gynulleidfa’. Roedd y gynulleidfa wir yn ymgysylltu, sy’n golygu bod y siaradwr wedi dewis cynnwys y ddarlith yn dda. Mae’n dipyn o gamp pan rydych chi’n ystyried yr amrywiaeth o bobl a’u cefndiroedd mewn labordai a chlinigau oedd yno. Roedd y GIG, prifysgolion, elusennau a Llywodraeth Cymru i gyd yn cael eu cynrychioli. Roedd cyllidwyr a’r rhai sy’n geiswyr cyllid yn cael boddhad mewn digwyddiad lle mae cynnydd yn cael ei gyhoeddi a phethau sydd angen eu rhoi ar waith o hyd ddim yn cael eu hanwybyddu.
Roedd rhaglen y gynhadledd yn llwyddiannus diolch i’r lleoliad a’r undod sy’n deillio yn sgil gwaith ymchwil canser. Mae’r afiechyd yn ymwneud â phobl ac mae pawb yn adnabod rhywun sydd wedi’i effeithio.
O’n stondin ni, roeddwn i’n gallu gweld posteri ymchwil yn nodi llawer o’r gwaith sy’n cael ei wneud neu ei ystyried. Calonogol iawn.
Yn bersonol, y peth gorau i fi oedd cyflwyno gwobr ar y llwyfan am gynnwys poster yn ymwneud â chynnwys cleifion a’r cyhoedd. Amy Case oedd yr enillydd haeddiannol.
Wedyn, fe rannais i lifft nôl i’r orsaf drenau gyda’r nos gyda Dr Ben O’Leary, y ‘dadleuwr’ difyr oedd ar y llwyfan. Roedd ganddo lawer o draethodau i’w marcio ar y trên yn ôl i Lundain. Roedd hynny hefyd yn dweud llawer am y diwrnod.”