Rhwydwaith Biowybodeg Cymru
Mae Rhwydwaith Biowybodeg Cymru’n fforwm i ymchwilwyr a biowybodegwyr rannu eu profiad o weithio gyda data ar ganser, dysgu gan ymchwilwyr canser a biowybodegwyr eraill ac ymgysylltu â siaradwyr gwadd.
Mae Rhwydwaith Biowybodeg Cymru (WBN) ar gyfer unrhyw un sy’n dadansoddi data ar yn ystod ei ymchwil, gan gynnwys myfyrwyr PhD. Bydd pynciau’r cyfarfodydd yn ymdrin ag amrywiol agweddau ar ddata gwyddonol a meddygol, gyda ffocws ar ganser, clefydau prin a chlefydau heintus. O’r grŵp hwn, hoffai WCRC greu carfan Cymreig o fiowybodegwyr i rannu arbenigedd a chynrychioli Cymru mewn rhwydweithiau rhyngwladol.
Drwy ymuno, cewch wybod am ddyddiadau cyfarfodydd a chyfleoedd perthnasol eraill. Gallwch chi ymuno’n rhad ac am ddim, a gallwch chi dynnu’n ôl unrhyw bryd drwy e-bostio Canolfan Ymchwil Canser Cymru.
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 17 Gorffennaf 2025, 12:00 – 12:45pm i ymuno â’r cyfarfod hwn, cofrestrwch ar y rhwydwaith isod.
Mae gan WBN hefyd dudalen GitHub lle maen nhw’n rhannu blogiau a chod, gallwch chi ei chyrchu yma.
Cynhyrchodd cyn-gadeirydd y rhwydwaith, Dr Alex Gibbs, rai modiwlau hyfforddi defnyddiol ar gyfer ymchwilwyr sy’n dechrau prosesu a dadansoddi data RNAseq. I gael mynediad at ddeunyddiau’r cwrs, cliciwch ar wers 1, gwers 2, gwers 3, neu wers 4. Ac i wylio’r tiwtorial fideo cyflenwol, dilynwch y ddolen hon.
Cyfarfod Cyntaf Rhwydwaith Biowybodeg Canser Cymru
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Rhwydwaith Biowybodeg Canser Cymru ar 20 Mawrth 2024, gan nodi dechrau taith gydweithredol i hyrwyddo ymchwil canser…
Penodi Biowybodegydd craidd CReSt i gefnogi ac uwchsgilio ymchwilwyr canser yng Nghymru
Penodwyd Alex Gibbs yn fiowybodegydd craidd Strategaeth Ymchwil Canser (CReSt) Canolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC). Arbenigwr ym maes ymchwil canser yw…