CReSt: Strategaeth Ymchwil Canser Cymru
Lansiwyd strategaeth ymchwil canser genedlaethol gyntaf Cymru (CReSt) yn 2022. Ei nod yw adeiladu ar feysydd o gryfder er mwyn cynyddu dyfnder a graddfa gweithgarwch canser yng Nghymru.
Mae strategaeth CReSt yn ymwneud â sefydliadau ledled Cymru yn cydweithio, gyda ffocws ac ar raddfa. Ers lansio’r strategaeth, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol a buddsoddiadau newydd mawr mewn ymchwil yng Nghymru, a chaiff uchafbwyntiau’r rhain eu hamlinellu yn ein hadroddiad 2026.

Symud ymlaen: Strategaeth Ymchwil Canser Cymru

Strategaeth ymchwil danser Cymru, CReSt: Dathlu ein cynnydd ar y cyd
Y chwe thema CReSt lle mae ein cynnydd yn canolbwyntio yw:

Oncoleg mecanistig a manwl
Edrych ar sut y gall geneteg effeithio ar bwy sy’n cael canser, sut mae’r canser hwnnw’n ymddwyn, a chanfod ffyrdd o drin canserau â ‘llofnodion’ genetig penodol.

Imiwno-oncoleg
Deall sut mae ymatebion imiwn ein cyrff yn newid pan fydd canser yn datblygu, a dod o hyd i ffyrdd o ddefnyddio’r system imiwnedd i helpu i frwydro yn erbyn canser.

Radiotherapi
Archwilio sut y gall radiotherapi ladd celloedd canser tra’n cyfyngu ar yr effaith ar weddill y corff.

Treialon clinigol canser
Dod â thriniaethau newydd addawol i gleifion mewn treialon a phrofi ffyrdd newydd o roi triniaethau presennol.

Oncoleg gefnogol a lliniarol
Dod o hyd i’r ffyrdd gorau o ofalu am gleifion â chanser, fel rheoli poen, rheoli sgîl-effeithiau a chymorth iechyd meddwl.

Ymchwil atal, canfod cynnar, gofal sylfaenol a gwasanaethau iechyd
Dod o hyd i ffyrdd newydd o atal canser a’i ganfod yn gynnar, a gwneud yn siŵr bod gwasanaethau iechyd yng Nghymru yn cael eu hategu gan wyddoniaeth gref.
Y diweddaraf ar CReSt
Adroddiad newydd yn dathlu cynnydd strategaeth ymchwil canser genedlaethol gyntaf Cymru
Mae adroddiad newydd a ryddhawyd i gyd-fynd â Chynhadledd Ymchwil Canser Cymru 2026 yn amlygu effaith strategaeth ymchwil canser unedig…
Mae Canolfan Ymchwil Canser Cymru wedi lansio Dyfarniad Dechrau Gyrfa i gefnogi ymchwilwyr canser ar ddechrau eu gyrfa
Ym mis Gorffennaf 2025, roedd Canolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC) yn falch o gyhoeddi lansiad Dyfarniad Dechrau Gyrfa, gan gynnig…