Mynd i'r cynnwys

TeloNostiX yn chwyldroi profion telomerau er mwyn helpu i ddiagnosio anhwylderau anghyffredin

Uchod: Dr Kevin Norris

Mae cwmni deillio ym Mhrifysgol Caerdydd, sef TeloNostiX, yn gweddnewid y ffordd y mae Anhwylderau Bioleg Telomerau (TBDs) yn cael eu diagnosio, a hynny drwy ddadansoddiad uwch o hyd telomerau. 

Cyflyrau etifeddol anghyffredin yw TBDs, sy’n cael eu hachosi gan fyrhau cynamserol yn y telomerau, a all arwain at fethiant ym mêr yr esgyrn, anemia aplastig, canser, a chlefydau’r organau. Er bod y cyflyrau’n effeithio ar oddeutu 1,000 o bobl yn y DU, mae nifer fawr o achosion heb eu diagnosio o hyd.

Gan ddefnyddio Dadansoddiad Hyd un Telomere Drwybwn-Uchel (HT-STELA), a ddatblygwyd gan dîm dan arweiniad yr Athro Duncan Baird, mae TeloNostiX yn cynnig profion wedi’i seilio ar DNA sy’n rhoi gwybodaeth cyfraniad uchel. Mae’r dechnoleg arloesol hon nid yn unig yn adnabod y cleifion hynny sydd â TBD, ond hefyd yn darganfod unigolion sydd â thelomerau mor fyr fel eu bod yn wynebu pum gwaith yn fwy o risg o farwoldeb—sef datblygiad arloesol yng nghyswllt deall yr effaith y mae telomerau yn ei chael ar ddisgwyliad oes.

Mae labordy TeloNostiX, sydd wedi’i achredu gan ISO17025, yn cynnig profion telomerau rheolaidd i ganolfannau’r GIG ledled y DU, yn Ewrop a thu hwnt, gan brosesu canlyniadau ymhen chwe diwrnod ar gyfartaledd. Mae clinigwyr wedi canmol HT-STELA fel un o’r profion clinigol mwyaf cywir at ddibenion mesur telomerau, gan sicrhau diagnosis sy’n gynharach ac yn fwy gwybodus ar gyfer cleifion.

Dyma a ddywedodd Dr Kevin Norris, Cyfarwyddwr Ymchwil TeloNostiX: “Rydyn ni’n credu bod yr uniondeb, atgynhyrchioldeb, a’r amser prosesu chwim ar gyfer canlyniadau hyd telomerau a alluogir gan dechnoleg HT-STELA yn nodi gwelliant sylweddol yn nefnydd clinigol o brofion telomerau.”

Mae’r cwmni bellach yn ehangu ei waith ymchwil ar y ddealltwriaeth gysylltiedig â thelomerau at ddibenion trin clefydau megis ffibrosis ysgyfeiniol, gan bwysleisio potensial ehangach profion telomerau ym maes diagnosis clinigol.