Mynd i'r cynnwys

Tîm Canolfan Ymchwil Canser Cymru yn ymuno â’r Grŵp Trawsbleidiol ar Ymchwil Feddygol yn y Senedd 

L-R Dr Mat Clement, Dr Michelle Edwards, Dr Alex Gibbs, Sarah Hughes and Julie Hepburn

Ddydd Mercher 3 Gorffennaf ymunodd aelodau o Ganolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC) â digwyddiad y Grŵp Trawsbleidiol ar Ymchwil Feddygol yn y Senedd. Y pwrpas oedd arddangos ymchwil feddygol yng Nghymru. Roedd y digwyddiad yn cynnwys tua 25 o sefydliadau a sefydliadau ymchwil, ac yn pwysleisio rôl hanfodol ymchwil feddygol wrth wella economi a sector gofal iechyd Cymru.

Russell George AS ( Y Blaid Geidwadol) oedd y cadeirydd. Mae’r Grŵp Trawsbleidiol ar Ymchwil Feddygol wedi bod yn hyrwyddo ymchwil feddygol ers ei sefydlu ym mis Tachwedd 2018. Nod y grŵp, sy’n cynnwys Aelodau o’r Senedd o amrywiol bleidiau gwleidyddol, cynrychiolwyr y trydydd sector, gweithwyr proffesiynol y diwydiant, cleifion, a chlinigwyr, yw gwella’r amgylchedd ymchwil feddygol yng Nghymru.

Daeth nifer o bobl i’r digwyddiad ac roedd Russell George AS cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol (CPG), a’r Dirprwy Lywydd David Rees AS ymhlith y prif siaradwyr. Cafodd tîm WCRC gyfle i rwydweithio, mwynhau cinio, ac ymgysylltu ag Aelodau Seneddol a’u staff i drafod effaith eu hymchwil a phrosiectau parhaus allweddol.

Dywedodd Dr Mat Clement a aeth i’r digwyddiad gyda thîm WCRC:

“Roedd y digwyddiad yn y Senedd yn gyfle hyfryd i ryngweithio â’r proffesiynau gofal iechyd eraill a gweithwyr proffesiynol o Gymru. Hefyd roedden i’n falch o weld aelodau’r Senedd yn dangos diddordeb wrth iddyn nhw ymweld â’r gwahanol stondinau ac yn cymryd amser i siarad â’r cyflwynwyr. Roedd gan yr aelodau y gwnes i ryngweithio â nhw ddigon o amser i drafod, ac roedden nhw eisiau dysgu rhagor amdana i, fy mhroffesiwn a pham mae hyn yn gwneud gwahaniaeth yng Nghymru a thu hwnt.”

Cynhaliwyd y digwyddiad o ganlyniad uniongyrchol i argymhellion adroddiad y CPG ym mis Tachwedd 2023. Roedd yr adroddiad hwn yn nodi manteision ymchwil feddygol i bobl Cymru ac yn cynnig nifer o argymhellion allweddol. Roedd y rhain yn cynnwys gwella mynediad at dreialon clinigol, blaenoriaethu ymchwil yn sbardun economaidd drwy gefnogi prifysgolion ac annog cydweithio, ac integreiddio ymchwil yng nghynllunio’r gweithlu. Pwysleisiodd yr adroddiad hefyd bwysigrwydd hyrwyddo a rhannu ymchwil feddygol barhaus ledled Cymru.

Roedd y digwyddiad hwn yn arddangos yr ystod eang o ymchwil sy’n cael ei gynnal yng Nghymru. Roedd yn pwysleisio pwysigrwydd cydweithio wrth wthio’r agenda ymchwil feddygol yn ei blaen, gyda buddiannau pendant i iechyd a lles poblogaeth Cymru.