Mynd i'r cynnwys

Tîm PPI Canolfan Ymchwil Canser Cymru yn cryfhau cysylltiadau cymunedol yn Ffair Iechyd MEC 2025

Ar 29 Hydref, cymerodd cynrychiolwyr o Ganolfan Ymchwil Canser Cymru (CYCC) ran yn Ffair Iechyd Cymunedau Ethnig Lleiafrifol (MEC) 2025, gan gysylltu â chymunedau lleol i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant mewn ymchwil canser.

Trefnwyd y ffair gan Gyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC), gan ddod â chyfranogwyr cymunedol, sefydliadau lleol a darparwyr iechyd ynghyd i rannu gwybodaeth a dathlu’r ystod eang o fentrau iechyd sy’n digwydd ledled y ddinas. Thema digwyddiad eleni – “Dathlu Amrywiaeth mewn Gofal Iechyd” – oedd tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod pob cymuned yn cael mynediad at wasanaethau iechyd cynhwysol, sensitif yn ddiwylliannol, ac at gyfleoedd i helpu siapio ymchwil.

Mynychodd Partneriaid Ymchwil Cyfranogiad Cleifion a’r Cyhoedd (PPI) y CYCC, sef Dr Sally Anstey, Bob McAlister, a Dr Kathy Seddon, y ffair i rannu gwybodaeth am waith y Ganolfan a rôl hanfodol lleisiau cleifion a’r cyhoedd mewn ymchwil.

“Ein nod yw sicrhau bod llais pawb yn cael ei glywed mewn ymchwil canser, mae ymgysylltu â chymunedau amrywiol yn ein helpu i gynllunio ymchwil sy’n adlewyrchu anghenion a phrofiadau pawb sy’n cael eu heffeithio gan ganser.”

Dr Sally Anstey

Drwy gydol y diwrnod, cyfarfu tîm y CYCC ag ymwelwyr i drafod sut y gallant gymryd rhan mewn ymchwil drwy grŵp PPI y Ganolfan, sy’n gweithio ochr yn ochr â gwyddonwyr a chlinigwyr i siapio astudiaethau, gwella cyfathrebu, a sicrhau bod canlyniadau ymchwil yn ystyrlon i gleifion a theuluoedd.

“Rydym yn arbennig o awyddus i wneud ein haelodaeth PPI yn fwy amrywiol,” ychwanegodd Bob McAlister. “Drwy gynnwys pobl o ystod ehangach o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig, gallwn sicrhau bod ymchwil canser yng Nghymru yn wirioneddol cynrychioli’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.”

Darparodd y digwyddiad lwyfan gwerthfawr ar gyfer cydweithio, rhwydweithio a dysgu ar y cyd rhwng cymunedau a sefydliadau iechyd, gan atgyfnerthu’r ymdrech ar y cyd i wneud gofal iechyd ac ymchwil yng Nghymru yn fwy cynhwysol.

Mae Canolfan Ymchwil Canser Cymru wedi ymrwymo i weithio law yn llaw â chymunedau a phartneriaid iechyd ledled Cymru i sicrhau bod ymchwil canser yn adlewyrchu anghenion pawb. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych – os hoffech chwarae rhan wrth siapio ymchwil yn y dyfodol, llenwch ein ffurflen Mynegi Diddordeb a chyd-ymunwch â’n cymuned gynyddol o Gyfranogiad Cleifion a’r Cyhoedd.